Part of the debate – Senedd Cymru am 6:10 pm ar 9 Ionawr 2019.
Yn sicr, rydym yn byw mewn byd lle na all y rhan fwyaf ohonom weithredu hyd yn oed heb ein ffonau, ein cyfrifiaduron llechen, ein gliniaduron neu ein cyfrifiaduron. Rwy'n cyfaddef nad wyf y person mwyaf gwybodus ar y blaned ym maes TG, ond gwn fod y byd yn datblygu ar gymaint o gyflymder fel bod yn rhaid i bawb ohonom yng Nghymru ddal i fyny ag ef. A ydym yn gwneud hynny mewn gwirionedd? Efallai y cofiwch mai un o'r dadleuon a gyflwynwyd o blaid datganoli ar ddiwedd y 1990au oedd bod buddiannau Cymru'n cael eu hesgeuluso. Honnai cefnogwyr datganoli fod hyn wedi'i adlewyrchu ym methiant cymharol economi Cymru. Honnent fod Cymru'n rhy ddibynnol ar y sector cyhoeddus am swyddi, fod diweithdra'n uwch a'r gweithlu'n llai medrus nag yng ngweddill y Deyrnas Unedig. Dywedwyd wrthym mai atebion wedi'u teilwra yma yng Nghymru yn unig a allai ddatrys y problemau economaidd hyn. Heddiw, ar ôl 20 mlynedd o ddatganoli, mae'n dristwch imi orfod dweud mai Cymru sydd â'r economi wannaf yn y Deyrnas Unedig o hyd. Cyflogau wythnosol gweithwyr yng Nghymru yw'r rhai isaf, ac mae lefelau diweithdra yn dal i fod yn uwch na chyfartaledd y DU. A cheir bwlch sgiliau difrifol yng Nghymru.
Hanner cant a phump o flynyddoedd yn ôl, myfyriodd y Prif Weinidog, Harold Wilson, ar gyflymder newid technolegol a goblygiadau hynny i ddiwydiant. Os oedd y wlad i ffynnu, rhybuddiodd, byddai angen creu Prydain newydd yng ngwres gwyn chwyldro gwyddonol. Mae hynny'n wir am Gymru heddiw. Mae angen inni roi hwb i'r economi drwy fynd i'r afael â rhwystrau i dwf. Mae'r bwlch sgiliau cynyddol, yn enwedig ym maes sgiliau digidol, yn llesteirio gallu cwmnïau i ddod o hyd i'r gweithwyr sydd eu hangen arnynt i ddatblygu.
Fel y dywedodd cyfarwyddwr cyffredinol Siambrau Masnach Prydain:
Mae'n bosibl mai prinder sgiliau a llafur fydd y maen melin mwyaf i fusnesau yn 2018, gan mai pobl yn y pen draw sy'n gwneud i fusnesau weithio.
Mae mynegai datblygu digidol Barclays 2017, a ddadansoddodd 88,000 o hysbysebion swyddi a 6,000 o oedolion yn y DU, yn honni bod gweithwyr Cymru yn sgorio ymhlith yr isaf o holl ranbarthau'r DU am eu sgiliau digidol. Mae hyn yn bwysig oherwydd mae cyflogwyr Cymru yn barod i dalu premiwm i weithwyr sydd â galluoedd prosesu geiriau, dadansoddi data a chyfryngau cymdeithasol. Mae lefel medr ddigidol pobl yn prysur ddod yn ffactor allweddol sy'n penderfynu eu grym ennill. Yn ôl banc Barclays, gall meddu ar sgiliau digidol ychwanegu mwy na £11,500 flwyddyn at eich enillion posibl yng Nghymru. Mae'r rhyngrwyd wedi gwneud y cae chwarae'n llawer mwy gwastad i fusnesau, yn enwedig o ran gallu cwmni i gyrraedd eu cynulleidfa neu eu marchnad. Mae hefyd wedi gostwng y bar ar gyfer mynediad at fusnes yn ddramatig fel bod eu gwefan, i lawer o fusnesau newydd, yn bwynt ymgysylltu ac yn fan gwerthu iddynt.
Rwy'n croesawu'n fawr y cyhoeddiad gan Brif Weinidog y DU ynghylch menter ddigidol gyda'r nod o ddatrys y prinder sgiliau digidol. Mae'r Sefydliad Codio gwerth £40 miliwn yn gytundeb partneriaeth gyda chwmnïau technoleg blaenllaw, prifysgolion a chyrff y diwydiant mewn ymgais i gryfhau sgiliau digidol yn y wlad hon yn y dyfodol. Lluniwyd y consortiwm o fwy na 60 o brifysgolion, busnesau ac arbenigwyr y diwydiant. Bydd mewnbwn pendant gan gyflogwyr i'r cwricwlwm, gan weithio law yn llaw â'r prifysgolion i ddatblygu sgiliau arbenigol yn yr ardaloedd lle y mae fwyaf o'u hangen. Rwy'n falch iawn fod Llywodraeth Cymru wedi cytuno i weithio mewn cydweithrediad â San Steffan drwy gadarnhau bod prifysgolion Abertawe a Chaerdydd yn mynd i gael cyllid i ehangu codio mewn ysgolion, colegau a chymunedau.
Mae addysg yn ganolog i sicrhau bod gennym sgiliau i ymdopi yn ein bywydau digidol, ond y ffaith amdani yw eu bod yn newid mor gyflym fel bod addysgwyr yn cael trafferth dal i fyny. Mae sgiliau'n newid yn gyflymach nag y gall darparwyr addysg ffurfiol ddal i fyny â hwy. Mae'r diwydiant yn newid mor gyflym, ac erbyn yr amser y caiff y cwricwlwm ei lunio a'i gymeradwyo gan gyrff amrywiol ac y bydd myfyrwyr yn graddio yn y pen draw, rydych yn sôn am ddegawd bron o'r dechrau i'r diwedd.
Mae angen ymrwymiad hirdymor a chydlynol gan Lywodraeth Cymru tuag at 'Gymru ddigidol', o sgiliau i seilwaith. Fodd bynnag, mae Estyn yn dweud nad yw cynnydd disgyblion mewn sgiliau digidol wedi dal i fyny â'r dechnoleg. Maent yn honni bod cyfleoedd i ddatblygu sgiliau TGCh ar draws y pynciau yn gyfyngedig mewn llawer o ysgolion uwchradd ac mewn traean o ysgolion cynradd. Mewn ychydig o dan ddwy ran o dair o ysgolion cynradd, ceir diffygion pwysig o ran safonau TGCh. Rhaid i mi gyfaddef, er bod y rhan fwyaf o bobl yn hyderus wrth ddefnyddio rhaglenni megis y rhai ar gyfer prosesu geiriau a chreu cyflwyniadau, mae eu sgiliau'n aml yn gyfyngedig i ystod gul o gymwysiadau. Un o'r nifer o bryderon yw fod Llywodraeth Cymru yn methu hyrwyddo'r manteision y gall prentisiaethau eu cynnig i fyfyrwyr ar gam cynnar.
Mae gwybodaeth gyrfaoedd mewn ysgolion am brentisiaethau yn hanfodol os ydym i gynyddu'r cyflenwad o weithwyr hyfforddedig sydd eu hangen yn daer ar ein heconomi. Ar hyn o bryd, ceir problemau gydag ansawdd ac argaeledd cyngor gyrfaoedd, gan gynnwys diffyg cynghorwyr gyrfaoedd hyfforddedig a diffyg gwybodaeth am brentisiaethau a hyfforddiant galwedigaethol ymhlith staff ysgolion. Mae ysgolion hefyd yn dangos tueddiad i annog disgyblion i astudio at Safon Uwch yn hytrach na phrentisiaethau.
Mae angen i sefydliadau addysg bellach a dysgu seiliedig ar waith gael mwy o fynediad at ysgolion i ehangu'r ystod o gyngor a gaiff pobl ifanc am eu gyrfaoedd yn y dyfodol. Rwy'n hyderus y bydd hyn yn mynd beth o'r ffordd tuag at fynd i'r afael â'r anghydbwysedd rhwng y rhywiau sy'n peri pryder a diffyg cynrychiolaeth o blith pobl anabl a welwn ar hyn o bryd mewn prentisiaethau yng Nghymru.
Ddirprwy Lywydd, mae angen i Gymru wynebu'r heriau a manteisio ar y cyfleoedd a gynigir gan yr economi fyd-eang fodern. Yn Google, pa bryd bynnag y byddant yn cynllunio i wneud naid uchelgeisiol tuag at gynnyrch neu wasanaeth newydd, maent yn ei alw'n 'moonshot'. Mae'n siŵr fod pawb ohonoch wedi clywed yr ymadrodd hwnnw—'Os anelwch am y lleuad, fe fyddwch chi o leiaf yn glanio ymysg y sêr.' Rwy'n credu bod angen inni annog pobl o bob oedran a chefndir, o bob cwr o Gymru, i fod yn ddigon dewr i anelu am y lleuad a rhoi cynnig ar eu 'moonshots' eu hunain.
Ddirprwy Lywydd, sgiliau digidol yw ein dyfodol, pa un a ydych yn gweithio ym maes iechyd, addysg, trafnidiaeth—unrhyw faes. O fewn yr 20 mlynedd diwethaf yn unig—dim ond 20 mlynedd—mae datblygiad digidol ym mhob agwedd ar fywyd wedi newid gwareiddiad yr economi fyd-eang, diwydiant byd-eang—. Digidol, digidol, digidol yw pob agwedd ar fywyd. Felly, rhaid inni gael meysydd penodol, pa un a ydynt yn sgiliau strategol, sgiliau sy'n darparu gwybodaeth, sgiliau offerynnol neu sgiliau digidol—rydym angen sgiliau eraill, ac mae angen inni hyfforddi ein plant i wneud yn siŵr nad ydynt ar ei hôl hi oherwydd bod y wlad—. Nid oes prinder arian ar gyfer addysg yma, felly os oes raid inni ddatblygu ein heconomi a'r dyfodol gorau i'n plant a chenedlaethau'r dyfodol, rhaid inni roi hwb cadarn a chefnogaeth lawn iddynt drwy sicrhau bod eu sgiliau digidol yn cael sylw llawn yn ein cwricwlwm. Diolch yn fawr iawn.