Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 9 Ionawr 2019.
Diolch am eich cwestiwn. Ceir tystiolaeth dda fod llawer o ymgynghoriadau meddygon teulu yn ymwneud â mân anhwylderau y gallai fferyllydd cymunedol ymdrin â hwy'n effeithiol o bosibl, gan fod meddyginiaethau ar gael yn rhwydd o fferyllfeydd heb bresgripsiwn. Golyga Dewis Fferyllfa y gellir gwneud diagnosis o'r anhwylderau hyn yn ddiogel ac yn gywir heb fod angen ymyriadau meddygol.