Gwasanaethau Fasgiwlaidd yn Ysbyty Gwynedd

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:10 pm ar 9 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 3:10, 9 Ionawr 2019

Mae'r cynlluniau sydd rŵan o'n blaenau ni yn tanseilio gwaith rhagorol yn Ysbyty Gwynedd. Yr wythnos yma, rydw i ac Aelodau etholedig eraill Plaid Cymru yn y gogledd-orllewin wedi galw am asesiad llawn gan Lywodraeth Cymru o effaith, o impact, penderfyniad bwrdd iechyd prifysgol Betsi Cadwaladr i ganoli gwasanaethau fasgiwlar yn Ysbyty Glan Clwyd. Fis yn ôl, mi wnaeth y bwrdd fynd yn ôl ar eu gair a thorri addewid i warchod rhai gwasanaethau yn Ysbyty Gwynedd. Mi oedd yna sicrwydd wedi ei roi y byddai'r gwasanaethau llawdriniaeth fasgiwlar yn cael eu cynnal ac, yn hollbwysig, y byddai'r gallu i dderbyn mynediadau brys fasgiwlar yn Ysbyty Gwynedd yn parhau. Nid dyna ydy'r achos erbyn hyn. Yr ofn, yn amlwg, ydy y bydd hyn yn cael effaith andwyol ar gleifion yn y gogledd-orllewin a fydd yn wynebu taith, rai ohonyn nhw, o awr a hanner am fynediad brys am lawdriniaeth sy'n cael ei darparu yn rhagorol yn Ysbyty Gwynedd ar hyn o bryd. A wnewch chi ymrwymo i gynnal yr astudiaeth impact yna? Mae o'r peth lleiaf mae cleifion yn ei haeddu.