2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 9 Ionawr 2019.
8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wasanaethau fasgiwlaidd yn Ysbyty Gwynedd? OAQ53125
Diolch i chi am y cwestiwn. Mae bwrdd iechyd prifysgol Betsi Cadwaladr wedi cymeradwyo cynlluniau i greu uned fasgwlaidd arbenigol ar gyfer gogledd Cymru yn Ysbyty Glan Clwyd. Nid oes unrhyw gynlluniau i gau unrhyw adrannau fasgwlaidd. Bydd y bwrdd iechyd yn parhau i drin cleifion ag anghenion nad ydynt yn gymhleth ym mhob un o'r tair ysbyty yng ngogledd Cymru, gan gynnwys Ysbyty Gwynedd.
Mae'r cynlluniau sydd rŵan o'n blaenau ni yn tanseilio gwaith rhagorol yn Ysbyty Gwynedd. Yr wythnos yma, rydw i ac Aelodau etholedig eraill Plaid Cymru yn y gogledd-orllewin wedi galw am asesiad llawn gan Lywodraeth Cymru o effaith, o impact, penderfyniad bwrdd iechyd prifysgol Betsi Cadwaladr i ganoli gwasanaethau fasgiwlar yn Ysbyty Glan Clwyd. Fis yn ôl, mi wnaeth y bwrdd fynd yn ôl ar eu gair a thorri addewid i warchod rhai gwasanaethau yn Ysbyty Gwynedd. Mi oedd yna sicrwydd wedi ei roi y byddai'r gwasanaethau llawdriniaeth fasgiwlar yn cael eu cynnal ac, yn hollbwysig, y byddai'r gallu i dderbyn mynediadau brys fasgiwlar yn Ysbyty Gwynedd yn parhau. Nid dyna ydy'r achos erbyn hyn. Yr ofn, yn amlwg, ydy y bydd hyn yn cael effaith andwyol ar gleifion yn y gogledd-orllewin a fydd yn wynebu taith, rai ohonyn nhw, o awr a hanner am fynediad brys am lawdriniaeth sy'n cael ei darparu yn rhagorol yn Ysbyty Gwynedd ar hyn o bryd. A wnewch chi ymrwymo i gynnal yr astudiaeth impact yna? Mae o'r peth lleiaf mae cleifion yn ei haeddu.
Gyda phob parch, nid wyf yn rhannu'r farn y mae'n ei rhoi am y cynlluniau i newid y gwasanaeth, a hoffwn nodi bod y corff proffesiynol perthnasol, Coleg Brenhinol y Llawfeddygon, yn ogystal â'r cyngor yma yng Nghymru, yn cefnogi'r cynlluniau hyn i newid y gwasanaeth. Yn ogystal â hynny, oherwydd y newidiadau sy'n cael eu gwneud, mae'r bwrdd iechyd wedi llwyddo i recriwtio llawfeddygon fasgwlaidd ymgynghorol newydd. Maent wedi cynnig swyddi i naw llawfeddyg fasgwlaidd ac o'r rheini, mae pedwar bellach wedi dechrau ar eu swyddi ac mae dau arall yn dechrau ym mis Ebrill 2019. Bydd hynny'n sicrhau cyflenwad o wyth llawfeddyg ymgynghorol parhaol ar draws y bwrdd iechyd—gwelliant sylweddol. Ac o'r holl bobl sydd wedi dechrau neu sydd ar fin dechrau yn y bwrdd iechyd, mae'r cynlluniau i newid y gwasanaeth wedi bod yn ffactor gwirioneddol yn eu penderfyniad i dderbyn swydd yn y bwrdd iechyd. Mae hyn yn bell o fod yn tanseilio'r gwasanaeth sydd ar gael i gleifion ym mhob rhan o ogledd Cymru, ac mae'r newid i'r gwasanaeth a'r recriwtio ychwanegol sydd wedi digwydd yn ei sgil yn rhywbeth cadarnhaol i staff a chleifion.
Diolch yn fawr iawn, Weinidog.