2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 9 Ionawr 2019.
4. Pryd y mae Llywodraeth Cymru'n disgwyl i ysbytai gyrraedd y targed amser aros o bedair awr ar gyfer gofal brys? OAQ53134
Rwy'n disgwyl i fyrddau iechyd lleol gynllunio'n effeithiol i ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal diogel, amserol ac o safon uchel i ddiwallu anghenion y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Fe fyddwch yn gwybod bod problemau arbennig yng ngogledd Cymru, yn y tri phrif ysbyty cyffredinol dosbarth, gyda phob un ohonynt wedi methu cyrraedd y targed amser aros ar gyfer gofal brys ers peth amser, gan gynnwys yr ysbyty sy'n gwasanaethu fy etholwyr, sef Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan.
Ymddengys bod y sefyllfa wedi bod yn gwaethygu, ac ym mis Tachwedd, roedd y ffigurau'n waeth o lawer nag yr oeddent dair blynedd yn ôl, ym mis Tachwedd 2015. Mae hwn, wrth gwrs, yn fwrdd iechyd sy'n destun mesurau arbennig. Eich cyfrifoldeb chi yw gwella'r canlyniadau ar gyfer cleifion o ganlyniad i'ch ymyrraeth yn y bwrdd iechyd hwnnw, ac eto, mae'r sefyllfa'n gwaethygu. A allwch egluro i fy nhrigolion a'r rheini mewn mannau eraill yng ngogledd Cymru pam, mewn bwrdd iechyd sy'n destun mesurau arbennig ar hyn o bryd, fod y sefyllfa'n gwaethygu o ran perfformiad yn hytrach na gwella?
Mae gennyf bryderon gwirioneddol ynghylch y ffigurau pedair awr ym mhob un o'r tair canolfan yng ngogledd Cymru, ond nid wyf erioed wedi ceisio cuddio rhag y pryderon hynny. Maent yn bendant yn rhan o'r trafodaethau rwyf wedi eu cael gyda'r cadeirydd newydd ynglŷn â'r angen i weld gwelliant. Mae ganddynt gynllun gwella 90 diwrnod, ond y pwynt rwyf wedi'i wneud yw, 'Mae'n iawn cael cynllun, ond yn amlwg, dylech allu ei gyflawni a sicrhau gwelliant, a mynd â'r staff gyda chi'. Y peth gwaethaf y gallem ei wneud fyddai dweud, 'Mae angen i bobl geisio gweithio'n galetach' a dyna ni. Mewn gwirionedd, mae yna newidiadau o ran sut y trefnir y gwasanaethau, sut i sicrhau bod pobl yn mynd i'r lle iawn yn ein system iechyd a gofal, a sut i sicrhau bod capasiti digonol ar gael yn y system hefyd. Dywedir wrthyf fod rhywbeth yma ynghylch cefnogi arweinyddiaeth glinigol dda, oherwydd os edrychwch ar draws gogledd Cymru, ar hyn o bryd, yr ardal sydd wedi wynebu'r heriau ffisegol mwyaf, yn sicr yn y gorffennol diweddar, yw Ysbyty Gwynedd. Serch hynny, mae eu perfformiad yn well na'r ddau safle arall yn aml.
Felly, nid yw'n ymwneud â'r lleoliadau ffisegol yn unig, ond weithiau, mae'r lleoliad ffisegol yn ffactor. Mae'n ymwneud â sicrhau bod y clinigwyr cywir yn y lleoedd cywir, ag arweinyddiaeth, ac â pherswadio aelodau o'r cyhoedd i geisio defnyddio pwyntiau gwahanol yn y system ar yr adeg iawn. Ond rwy'n disgwyl y byddwch chi ac Aelodau eraill o bob plaid nid yn unig yn parhau i fy holi ond yn gofyn eto—pan fyddwn wedi cael cynllun 90 diwrnod, rwy'n disgwyl dod yn ôl yma i ateb cwestiynau ynglŷn â hynny a pha wahaniaeth y mae wedi'i wneud. Credaf fod y trefniadau cenedlaethol a roesom ar waith gyda'r arweinydd clinigol cenedlaethol, Jo Mower, wedi bod yn ddefnyddiol, oherwydd, wrth gwrs, mae'n ennyn hyder am ei bod yn dal i fod yn glinigydd gweithredol mewn adran achosion brys. Felly, rwy'n ochelgar obeithiol y byddwn yn gweld gwelliant, os nad dros gyfnod prysur y gaeaf, gan fod y cyfnod hwnnw yn ddibynnol iawn ar ffawd, ond rwy'n disgwyl dros y flwyddyn nesaf y gall eich etholwyr ac eraill gael gwell profiad gydag amseroedd aros byrrach mewn adrannau argyfwng. Ond mae hon yn her fwy hirdymor ac nid yw'n rhywbeth y gallaf ei ddatrys drwy glicio fy mysedd, er cymaint y carwn allu gwneud hynny.
Weinidog, rwyf am edrych ar ddwy agwedd ar y pedair awr—sef dechrau a diwedd y cyfnod o bedair awr. Ar y dechrau, yn amlwg, gallwn ofyn i bobl ddewis yn well gyda'r dull iechyd darbodus ac edrych ar ddefnyddio cyfleusterau gwahanol megis unedau mân anafiadau ar draws de Cymru, ac yn enwedig y gwasanaethau gwych yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot yn fy ardal i. Rwyf am annog mwy o bobl i fanteisio ar y cyfle hwnnw. Ond hefyd, ar yr ochr arall i'r pedair awr, mae'r gwaith o drosglwyddo cleifion i ysbytai. Y llynedd, cynhaliodd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg ymgynghoriad ar gau gwelyau. Roedd yn ymgynghoriad â gogwydd iddo—yn fy marn i—oherwydd roedd y cwestiynau a gafodd eu gofyn yn tueddu mwy tuag at yr atebion roeddent eu heisiau. Ond mewn ymgynghoriadau yn y dyfodol, a wnewch chi sicrhau bod yn rhaid i fyrddau iechyd ofyn cwestiwn ynglŷn â sut y mae'n effeithio ar wasanaethau damweiniau ac achosion brys, oherwydd mae cael gwared ar welyau yn golygu llai o gyfleoedd i drosglwyddo cleifion o'r adran ddamweiniau ac achosion brys i wely yn yr ysbyty?
Mae dau bwynt cyffredinol yr hoffwn eu gwneud mewn ymateb i'r Aelod. Y cyntaf yw fy mod yn cytuno'n llwyr ag ef—credaf mai dyna yw'r defnydd gorau o'r system gyfan. Mae ysbyty Castell-nedd Port Talbot yn enghraifft dda o uned mân anafiadau lle y mae pobl weithiau'n tanbrisio'r ystod o wasanaethau sydd ar gael. Mae'n aml yn haws teithio yno na theithio i Ysbyty Tywysoges Cymru neu, yn wir, i Dreforys, ac mae'r amser aros yn aml yn llawer byrrach hefyd. Mewn gwirionedd, mae cyhoeddi rhai o'r amseroedd aros sy'n dangos pa mor gyflym rydych yn debygol o gael eich gweld wedi helpu i gyfeirio pobl i'r mannau hynny. Yn ogystal â hynny, wrth gwrs, mae gwaith y gwasanaeth ambiwlans yn gweithio gyda'r bwrdd iechyd i sicrhau eu bod yn mynd â phobl i'r lleoliad priodol.
Ar eich ail bwynt ynglŷn â gwelyau ar draws y system, mae yna her yma, a gwn eich bod wedi nodi eich barn, yn breifat ac yn y lle hwn, ar yr ymarfer blaenorol a gynhaliwyd gan y bwrdd iechyd, ond mae'n ymwneud â chapasiti ar draws y system gyfan mewn gwirionedd. Oherwydd yr hyn sydd wedi bod yn ddiddorol iawn i mi, wrth gyfarfod â llawer o glinigwyr adrannau damweiniau ac achosion brys, yw'r ffaith bod ganddynt farn ar gapasiti o fewn system yr ysbyty, a barn hefyd mewn gwirionedd ar lif cleifion o fewn rhan yr ysbyty o'r system ac i mewn ac allan o leoliad yr ysbyty ei hun hefyd. Credaf ei bod yn wirioneddol bwysig nodi nid yn unig yr hyn sy'n digwydd gyda nifer o'r gwelyau mewn un rhan o'n system iechyd a gofal, ond i sicrhau hefyd ei fod yn gynllun ar y cyd rhwng iechyd a gofal cymdeithasol o ran sut i ddiwallu capasiti. Oherwydd, yn aml, nid gwely ysbyty yw'r man cywir ar gyfer trin claf—dylent gael eu trin yn rhywle arall yn aml, ond mae angen i chi gynllunio ar gyfer hynny yn hytrach na siarad am y peth yn unig. Wrth leihau capasiti mewn un rhan, os nad ydych wedi cynllunio hefyd i gynyddu a gwella capasiti mewn rhan arall o'n system iechyd a gofal ehangach—. Mae honno'n sgwrs a gefais y bore yma gydag amryw o aelodau awdurdodau lleol.