2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 9 Ionawr 2019.
3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am berfformiad Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg? OAQ53131
Diolch am eich cwestiwn. Mae perfformiad yn gwella ar draws nifer o feysydd allweddol. Mae cynnydd wedi'i wneud o ran diagnosteg, amseroedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth, ac amseroedd aros am driniaethau canser. Mae Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg wedi derbyn £8.3 miliwn o gronfa berfformiad a grëwyd gennyf ar gyfer y flwyddyn ariannol hon. Rydym yn disgwyl gweld gwelliannau pellach erbyn diwedd mis Mawrth 2019.
Weinidog, mae'n achos cryn bryder i gleifion yn ne-orllewin Cymru fod bwrdd iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg wedi bod yn destun ymyrraeth wedi’i thargedu Llywodraeth Cymru ers mis Medi 2016. Mae pryderon yn parhau ynghylch elfennau penodol o berfformiad nad ydynt yn cael eu bodloni, ac yn ddealladwy, mae pobl am weld gwelliannau. Gan fod y bwrdd iechyd wrthi'n cwblhau eu strategaeth sefydliadol, eu cynllun gwasanaethau clinigol a'u cynllun integredig tair blynedd ar gyfer 2019-22, a allwch roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr ynglŷn â'r trafodaethau diweddar a gafodd eich swyddogion gyda bwrdd iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, a phryd y byddech yn disgwyl gwneud penderfyniad ynglŷn â chymeradwyo'r cynllun integredig tair blynedd?
Wel, y pwynt cyntaf yw y byddai angen imi weld y cynllun integredig hwnnw'n cael ei gyflwyno a'i ddarparu. Ceir ffynhonnell reolaidd, nid yn unig o ohebiaeth, ond o gyfarfodydd uniongyrchol rhwng swyddogion o fewn y Llywodraeth a'r bwrdd iechyd, ac mewn gwirionedd, credaf fod y gwelliant y cyfeiriaf ato yn rhywbeth cadarnhaol o ran y gwaith y mae Tracy Myhill, y prif weithredwr, a'i thîm yn ei wneud gyda'r bwrdd. Mae yno welliant gwirioneddol, ac mae'n cael ei gynnal. Yr her fydd i ba raddau y gallant roi digon o hyder—nid yn unig eu cynllun ar bapur, ond yr hyder y byddant yn gallu ei ddarparu. Mae hynny'n rhan o'r pwynt. Ceir llawer o bobl sy'n ysgrifennu cynlluniau sy'n edrych yn wych mewn sawl agwedd ar fywyd, ond mae arnom angen hyder y gallant gyflawni yn erbyn hynny. Gallant fod mewn sefyllfa i gael cynllun integredig tair blynedd wedi'i gymeradwyo erbyn dechrau'r flwyddyn ariannol nesaf. Hyd yn oed os nad ydynt yn llwyddo i wneud hynny, rwy'n hyderus y bydd y bwrdd iechyd hwn yn parhau i wneud cynnydd dros y flwyddyn nesaf, a chredaf y gallwch chi a thrigolion eraill ardal y bwrdd iechyd fod â mwy o hyder ynghylch gallu'r bwrdd i gyflawni yn erbyn ei gynlluniau a'i fodd ariannol, ond hefyd, wrth gwrs, i ddarparu gofal o ansawdd uchel i bobl ledled y rhanbarth.
A gaf fi droi at berfformiad Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg mewn perthynas ag un o'u prif asedau, sef Ysbyty Cymunedol Maesteg? Mae plac yn yr ysbyty gyda fy enw arno; fe ddathlodd ei ganmlwyddiant ychydig flynyddoedd yn ôl. Gyda chynhaliaeth ein gwasanaeth iechyd gwladol a datblygiadau allweddol ac arloesedd ym maes iechyd, rwy'n bwriadu bod yno pan fydd yn dathlu ei ddeucanmlwyddiant hefyd. Rwy'n mynd i fod mor hen â Job.
Ond a gaf fi ddweud, cafwyd cyfarfod enfawr a gorlawn ar 14 Tachwedd yn neuadd y dref ym Maesteg. Roedd llawer iawn o bobl yn bresennol, a chafwyd areithiau angerddol a huawdl iawn gan bobl leol yn yr ymgynghoriad ar gau uned ddydd Ysbyty Cymunedol Maesteg. Nawr, ochr yn ochr â chau'r uned ddydd honno a'r cynnig i'w throsglwyddo i Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr, mae cynnig hefyd i wella gwasanaethau, gan gynnwys gwasanaeth doppler, uned y goes, ochr yn ochr â'r clinig clwyfau a gwasanaethau eraill sydd yno eisoes, gan gynnwys y ward cam-i-lawr sydd ganddynt ar hyn o bryd, gyda gwelyau yn y ward yno.
Nawr, yr hyn yr hoffwn ei gael gan Brifysgol Abertawe Bro Morgannwg, ond hefyd wrth iddo drosglwyddo i Gwm Taf cyn bo hir, yw gwarant ynglŷn â dyfodol hirdymor Ysbyty Cymunedol Maesteg. Mae'n rhan hanfodol o ymagwedd 'Cymru Iachach' o ran sicrhau bod gwasanaethau'n agosach at y gymuned. Byddaf yn cyfarfod cyn bo hir â chadeirydd Cwm Taf i sicrhau nad yw hyn yn wir, ond a gaf fi ofyn i'r Gweinidog i wneud yr un pwynt, os gwelwch yn dda, yn eich cyfarfodydd gyda chadeirydd a phrif weithredwr Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg a chadeirydd a phrif weithredwr Cwm Taf: er gwaethaf yr ad-drefnu, y dylid gwella'r gwasanaethau yma yn unol â 'Cymru Iachach', a dylid naddu dyfodol Ysbyty Cymunedol Maesteg ar garreg y tu allan, os nad ger y plac gyda fy enw arno?
Wel, rwy'n cymeradwyo uchelgais yr Aelod i fod o gwmpas ar gyfer y deucanmlwyddiant. Nid wyf yn siŵr y buaswn yn gwneud addewid neu ddatganiad mor uchelgeisiol fy hun.
Rwy'n cydnabod y pwyntiau y mae'r Aelod yn eu gwneud ac ynglŷn â gwasanaethau sy'n newid, sy'n amlwg yn achos pryder i'r boblogaeth leol wrth i wasanaethau symud, ac ar yr un pryd, maent yn gweld gwasanaethau, ar y llaw arall, yn symud i'r lleoliad hwnnw hefyd. Ond dyna ran o'r her rydym wedi'i nodi yn 'Cymru Iachach'—sut rydym yn symud rhai gwasanaethau o gwmpas er mwyn eu crynhoi mewn llai o leoliadau, a sicrhau ar yr un pryd, fod mwy o wasanaethau'n symud i leoliadau cymunedol er mwyn eu darparu yn agosach at adref. Felly, ni chredaf fod unrhyw beth yn anghyson o ran yr hyn rydych wedi'i nodi.
Ni chredaf y dylai newid y ffin wneud unrhyw wahaniaeth o ran dyfodol mwy hirdymor yr ysbyty, ac rwy'n fwy na pharod i sicrhau, pan fyddaf yn cyfarfod â bwrdd iechyd Cwm Taf, fel rwy'n siŵr o wneud yn y dyfodol agos, fy mod yn codi'r ffaith bod gennych y pryderon hynny ac y byddwch yn disgwyl ateb uniongyrchol gan y bwrdd iechyd hefyd.