3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru ar 9 Ionawr 2019.
1. A wnaiff y Gweinidog roi sicrwydd i ddefnyddwyr gwasanaethau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf ynglŷn â diben y monitro uwch a gyhoeddwyd heddiw? 253
Diolch i chi am y cwestiwn. Diben y monitro uwch yw darparu cymorth ychwanegol i'r bwrdd iechyd i'w galluogi i ganolbwyntio ar gamau gweithredu priodol ac i ddychwelyd at drefniadau monitro arferol cyn gynted â phosibl.
Diolch i chi am yr ymateb hwnnw, Weinidog. Fel y mae eich datganiad yn ei gydnabod, mae'r bwrdd iechyd wedi dilyn trefniadau arferol ers cyflwyno'r fframwaith uwchgyfeirio yn 2014. Ac yn ogystal â'u hanes ariannol da, rydym wedi gweld llawer o fentrau clinigol a mentrau gofal da yn cael eu darparu gan y bwrdd iechyd. Felly, er fy mod yn ymwybodol o'r sefyllfa mewn perthynas â gwasanaethau mamolaeth a drafodwyd gennym yn y Siambr ychydig wythnosau'n ôl, cefais fy synnu wrth weld eich datganiad y bore yma yn codi eu statws o drefniadau arferol i fonitro uwch, oherwydd y pryderon yn y meysydd rydych wedi tynnu sylw atynt yn eich datganiad. Fodd bynnag, credaf fod yn rhaid i anghenion defnyddwyr y gwasanaeth yng Nghwm Taf fod o'r pwys mwyaf ar y pwynt hwn. Felly, a allwch fy sicrhau bod y rhesymau dros yr uwchraddio i fonitro uwch yn cael eu cyfleu'n glir fel bod defnyddwyr yn cael y sicrwydd ychwanegol y maent ei angen ynglŷn â gwasanaethau lleol? A allwch roi syniad i ni o'r amserlen ar gyfer datrys y materion a nodwyd?
Ie, ac ni ddylai'r penderfyniad heddiw fod yn syndod i'r bwrdd iechyd. Mae cyfathrebu rheolaidd wedi bod rhwng prif weithredwr GIG Cymru a phrif weithredwr y bwrdd iechyd. Ac rwyf wedi siarad â chadeirydd y bwrdd iechyd sawl gwaith ers i'r materion ynghylch gwasanaethau mamolaeth gael eu codi. Ac nid wyf yn credu y byddai wedi bod yn briodol anwybyddu'r materion ychwanegol a godwyd gan reolyddion yn y swyddfa archwilio. Felly, rydych yn cyrraedd pwynt lle rydych naill ai'n dewis gwneud rhywbeth neu'n dewis osgoi gwneud rhywbeth, ac rwy'n credu mai'r penderfyniad hwn oedd y peth cywir i'w wneud, a bod yn glir am y meysydd cyfyngedig a phenodol sy'n peri pryder. Ond nid yw'r pryderon hynny'n golygu bod y bwrdd iechyd hwn yn darparu iechyd a gofal gwael i'w ddinasyddion—ddim o gwbl. O arolygon boddhad cleifion ac amrywiaeth o fesurau eraill, gwyddom fod y bwrdd iechyd hwn yn perfformio'n dda o ran ei gyflawniad yn erbyn mesurau amser, yn ogystal â'i berfformiad ariannol, a cheir adborth cadarnhaol rheolaidd gan gleifion. Ar ôl gwneud y datganiad heddiw, rwy'n disgwyl y bydd y bwrdd iechyd yn cyfathrebu'n uniongyrchol â'i staff a'r cyhoedd, ond hefyd dylid ystyried yr amserlen ar gyfer hyn o fewn misoedd yn hytrach na blynyddoedd. Rwy'n disgwyl i'r bwrdd iechyd gael cynllun i fynd i'r afael â phroblemau penodol, gydag amserlenni y gellir eu defnyddio i fesur ac asesu yn briodol. Unwaith eto, y pwynt ynglŷn â sicrwydd i chi'ch hun a'r etholwyr a wasanaethwch yw nad mater syml o hwylustod gwleidyddol a wneir gan Weinidog ar gyfer Gweinidog yw hwn. Bydd sicrwydd—. Bydd y trefniadau adolygu gan brif weithredwr GIG Cymru, Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn rhoi cyngor i mi ynglŷn ag a yw'n briodol newid y statws uwchgyfeirio a dychwelyd i fonitro arferol, ond rwy'n disgwyl i'r bwrdd iechyd gynllunio ar gyfer hynny, a'i gyflawni o fewn cyfnod o fisoedd.
Weinidog, rwy'n ddiolchgar am y datganiad a gyhoeddasoch y bore yma. I'r darllenydd arferol sy'n edrych ar hyn, byddai'n dynodi'n glir fod y penderfyniad hwn wedi cael ei wneud y tu allan i'r cylch gwerthuso arferol. Credaf fy mod yn gywir yn dweud hynny, ond buaswn yn ddiolchgar os gallwch gadarnhau hynny, oherwydd mae'n ymddangos i mi fod cyfarfod arbennig wedi ei alw ym mis Rhagfyr i sicrhau bod y mesur hwn yn cael ei gyflwyno heddiw neu ei gyhoeddi heddiw.
Mae'n rhaid i ni gofio bod 300,000 o bobl yn dibynnu ar y gofal iechyd y mae'r bwrdd iechyd hwn yn ei ddarparu, ac mae miloedd lawer o staff yn dibynnu arno fel eu man gwaith a'r gwasanaeth a'r datblygiad proffesiynol y maent eisiau ei arfer wrth ddarparu gofal o ansawdd rhagorol. Ond mae'r rhestr rydych wedi'i nodi yn eich datganiad y bore yma yn achosi pryder mawr. Oherwydd, fel y mae'r Aelod dros Ferthyr wedi'i nodi, i ddechrau, yn amlwg, yn y datganiad hwn—. Rhoddodd y Gweinidog ddatganiad ar wasanaethau mamolaeth, a bellach mae gennym restr saith pwynt, o lefelau staffio i ddarparu adroddiadau Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru. Mae hwn yn gyfnod sy'n peri pryder—nad yw hwn yn rhyw fath o drobwll y bydd y bwrdd iechyd yn mynd i mewn iddo a mwy o broblemau'n cael eu nodi yn y pen draw. A ydych yn hyderus fod y rhestr rydych wedi'i nodi yn eich datganiad yn rhestr gynhwysfawr o'r materion y mae angen i'r bwrdd iechyd fynd i'r afael â hwy, ac a ydych yn hyderus fod y cymorth rydych yn ei nodi yn eich datganiad mewn perthynas â threfniadau llywodraethu a'r cymorth y byddwch yn ei gynnig i'r bwrdd yn unioni'r problemau ac y bydd y bwrdd iechyd yn dod allan o'r lefel uwch o fonitro? Oherwydd, hyd yn hyn, nid wyf yn credu bod unrhyw fwrdd iechyd wedi dod allan o statws monitro uwch yma yng Nghymru. Fel y nododd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr, mae pump o'r saith bwrdd iechyd yn destun mesurau arbennig yma yng Nghymru ar hyn o bryd.
Yn gyntaf, yn ymwneud â'ch pwynt am—. Mae gan bob bwrdd iechyd heriau i'w hwynebu ym mron pob maes gweithgaredd. Rydym yn trafod y galw cynyddol yn rheolaidd, a'r newid yn natur y galw hwnnw, ac wrth gwrs, mae'r rheini'n heriau i fwrdd iechyd yn y gwasanaethau y mae'n eu darparu. Nid wyf yn credu y byddai unrhyw berson o unrhyw duedd wleidyddol yn gallu diffinio rhestr gynhwysfawr o'r heriau sy'n wynebu'r bwrdd iechyd. Yr hyn a wneuthum yw darparu rhestr glir o'r materion sydd wedi arwain at fy mhenderfyniad i newid statws monitro'r bwrdd iechyd. Rwy'n disgwyl i'r problemau hyn gael eu datrys ac os cânt eu datrys, buaswn yn disgwyl mai'r cyngor fyddai y gallai statws uwchgyfeirio'r bwrdd iechyd ddychwelyd i fonitro arferol.
Roedd hwn yn gyfarfod y tu allan i'r cylch arferol, ac unwaith eto, mae hwnnw'n ddewis. Gallwn naill ai ddewis dweud, 'Gadewch i ni ohirio'r mater hyd nes y bydd y cylch arferol yn digwydd mewn nifer o fisoedd', neu gallwn ddweud, 'Mae rhestr o broblemau ger ein bron yn awr ac felly dylid cynnal cyfarfod yn awr i asesu beth yw'r camau gweithredu priodol', ac rwy'n credu mai hwnnw oedd y dewis cywir i'w wneud. Dylid rhoi sicrwydd i staff a'r cyhoedd mai rhestr benodol o bethau i'w datrys yw hon. Nid wyf yn disgwyl fod unrhyw awgrym fod yna restr o broblemau a fydd yn achosi i'r bwrdd iechyd symud yn uwch i fyny'r rhestr o ran statws uwchgyfeirio. Fel bwrdd sy'n perfformio ar lefel uchel, rwy'n disgwyl iddynt fod o ddifrif ynglŷn â'r datganiad a wnaethpwyd heddiw ac rwy'n disgwyl iddynt ymateb yn briodol a llunio cynllun clir y byddant yn glynu wrtho er mwyn dychwelyd i fonitro arferol, fel rwyf wedi'i ddweud, o fewn cyfnod o fisoedd.
Diolch i chi am eich datganiad heddiw, Weinidog. Wrth gwrs, blaenoriaeth yr ymyrraeth hon yw sicrhau bod y bwrdd a'i staff yn cael eu cefnogi a bod gan fy etholwyr ac etholwyr eraill bob ffydd yn eu gwasanaethau iechyd lleol.
Mae eich datganiad yn tynnu sylw at chwe maes ffocws a chredaf ei bod yn bwysig, fel y mae Aelodau eraill wedi'i ddweud, ei fod yn cadarnhau nad yw'r monitro uwch hwn ond yn weithredol mewn rhai meysydd darpariaeth ac nad yw'n rhywbeth cyffredinol. Sut y gallwn sicrhau bod pobl leol mewn cymunedau megis Cwm Cynon, nad ydynt ond yn ymwybodol o'r penawdau newyddion, o bosibl, yn gwybod nad yw'n cyfeirio at ansawdd cyffredinol gwasanaethau? A sut y gallwn roi'r sicrwydd hwnnw i bobl sy'n defnyddio'r GIG yng Nghwm Taf, a'r staff gweithgar a gyflogir yno wrth gwrs?
Rwy'n croesawu'r sylwadau gan brif weithredwr Cwm Taf fod y bwrdd iechyd yn benderfynol o weithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau y gellir dychwelyd i fesurau arferol cyn gynted â phosibl, ac rwy'n croesawu'r sicrwydd rydych wedi'i roi ynglŷn â faint o amser rydych yn disgwyl i'r broses honno gymryd, ond a allwch chi ddarparu unrhyw fanylion pellach ar y math o fonitro a fydd yn digwydd yn y cyfamser?
Gan gyfeirio'n ôl at y datganiad a wnaethoch ym mis Hydref y llynedd ar wasanaethau mamolaeth yng Nghwm Taf, dywedasoch eich bod wedi gofyn i'ch swyddogion geisio sicrwydd gan bob bwrdd iechyd mewn perthynas â threfniadau rhoi gwybod am ddigwyddiadau a threfniadau uwchgyfeirio. Yn eich datganiad heddiw, un o'r meysydd ffocws yw ansawdd trefniadau rhoi gwybod am ddigwyddiadau difrifol. Beth yw canfyddiadau cychwynnol eich swyddogion mewn perthynas ag ansawdd trefniadau rhoi gwybod am ddigwyddiadau yn fwy cyffredinol ar draws y GIG yng Nghymru?
Mae fy nghwestiwn olaf yn ymwneud â threfniadau llywodraethu. Yn eich datganiad, rydych yn nodi'r angen i ddarparu cymorth allanol o ystyried mai yn gymharol ddiweddar y penodwyd rhai o'r aelodau i'r bwrdd, ac rwy'n credu bod hynny'n wirioneddol bwysig. Rwy'n bryderus mai dim ond yn awr y mae'r math hwn o gymorth ar gael, pan fo aelodau'r bwrdd eisoes yn eu lle a phryderon wedi cael eu nodi, felly sut y gall Llywodraeth Cymru weithio gydag aelodau newydd a benodir i'r bwrdd yn y dyfodol cyn iddynt ymgymryd â'u swyddogaethau er mwyn sicrhau eu bod yn y sefyllfa orau i gyflawni eu rhwymedigaethau?
Diolch. Rwy'n hapus i ail-gadarnhau ac ailadrodd nad yw'r datganiad hwn yn effeithio ar ansawdd cyffredinol gwasanaethau, ac ni ddylai arwain at golli ffydd a hyder ymhlith y cyhoedd yn ansawdd cyffredinol y gwasanaethau a ddarperir gan fwrdd iechyd prifysgol Cwm Taf. Rwy'n gobeithio y bydd datgan hynny'n glir o fudd, ac rwy'n siŵr y bydd y bwrdd iechyd yn ailadrodd hynny i'w staff ac i'r cyhoedd a wasanaethir ganddo. Rwy'n falch eich bod mewn cysylltiad uniongyrchol â'r bwrdd iechyd eich hun. Credaf y byddai'n synhwyrol i'r bwrdd iechyd gysylltu'n uniongyrchol â rhanddeiliaid fel Aelodau etholaethol a rhanbarthol i gadarnhau'r camau y maent yn eu cymryd ar unwaith i ailadrodd y pwyntiau ynglŷn â difrifoldeb y mater iddynt hwy yn ogystal â'r camau y maent yn eu cymryd.
Wrth gwrs, rwyf mewn cysylltiad rheolaidd â fy swyddogion a'r bwrdd iechyd ei hun. Rwy'n disgwyl y bydd y cysylltiad hwnnw'n fwy rheolaidd yn awr yn dilyn y penderfyniad a wneuthum ac a gyhoeddais heddiw, ac wrth gwrs, byddaf yn parhau i siarad â'r cadeirydd yn ogystal. Byddaf yn sicrhau bod sgwrs reolaidd rhyngof â'r cadeirydd, nid yn unig am y cynllun ond am ein cynnydd er mwyn sicrhau bod goruchwyliaeth briodol.
O ran y pwynt a wnaethoch am ansawdd trefniadau rhoi gwybod am ddigwyddiadau difrifol—mae hwn yn fater a drafodir yn rheolaidd yn ystod y sgyrsiau uwchgyfeirio rheolaidd sy'n digwydd. Mae Swyddfa Archwilio Cymru a'r arolygiaeth yn codi ystod o feysydd mewn gwirionedd, ac mae hon yn nodwedd reolaidd. Felly, mae yna her o ran gwneud yn siŵr fod digwyddiadau difrifol yn cael eu hadrodd mewn da bryd a bod ansawdd yr wybodaeth a rennir yn briodol hefyd. Ni ddylai hwn fod yn fater anodd i'w ddatrys, ac i mi mae'n wirioneddol bwysig—mae'n ymwneud â'r diwylliant o fod yn agored, heb geisio bychanu difrifoldeb y mater, oherwydd mae natur yr adrodd agored a'r dysgu priodol yn digwydd o ganlyniad i'r diwylliant hwnnw.
O ran eich pwynt ehangach ynglŷn â datblygiad y bwrdd, credaf ei fod yn bwynt teg ynglŷn â sut rydym yn mynd ati'n gyson i adolygu mesurau datblygu'r bwrdd sydd ar waith wrth i bobl gychwyn ar eu swyddi a thra'u bod yn newydd i'r swydd hefyd er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn parhau i gael cymorth i gyflawni eu gwaith yn effeithiol. Ac yn sicr, yn dilyn hyn, bydd gennyf ddiddordeb mewn edrych eto, nid yn unig yng Nghwm Taf, ond ar draws y system ehangach, i sicrhau ein bod yn gwneud hynny'n iawn.
Bydd llawer o fy etholwyr, yn enwedig i'r dwyrain o Ogwr yn Llanharan a'r Gilfach Goch ac mewn mannau eraill, yn cael eu gwasanaethu gan awdurdod iechyd Cwm Taf, mewn perthynas â gofal sylfaenol a gofal eilaidd a llwybrau acíwt yn ogystal, ac mae'n werth ailadrodd fod Cwm Taf, hyd yn hyn, wrth gwrs, wedi bod yn fwrdd ac yn sefydliad sydd wedi perfformio'n dda yn gyffredinol, gyda llawer i'w ganmol, felly mae hon yn dipyn o ergyd, ond mae llawer sy'n dda ym mherfformiad y sefydliad hwn er hynny. Ond y tu hwnt i'r gwasanaethau mamolaeth, ac roeddem yn gwybod amdanynt hwy eisoes, nodaf ein bod yn sôn am broblemau o ran cydymffurfiaeth, camau gweithredu na chafodd eu rhoi ar waith, trefniadau adrodd annigonol, ymateb i gamau gweithredu yn adroddiadau arolygu Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, a methiant i gwblhau camau gweithredu, cydymffurfiaeth â'r Ddeddf lefelau staff nyrsio. Mae'n ymddangos i mi fod y rhain yn bethau y gellir eu gwneud, y gellir eu cyflawni, mewn amser cymharol fyr os gallant gael trefn ar bethau, ond yr un sy'n peri pryder i mi yw'r un yng nghanol y rhestr yn eich datganiad heddiw, sef pryderon mewn perthynas â threfniadau llywodraethu o ansawdd. Nawr, rwy'n meddwl tybed beth y mae'r Gweinidog yn ei feddwl o ran pa mor gadarn yw gafael y bwrdd iechyd ar yr angen i ymateb yn gyflym i'r camau gweithredu hyn yn gyffredinol a dod â hwnnw'n ôl i fwrdd iechyd sydd, unwaith eto, yn perfformio'n dda yn gyffredinol, i allu dychwelyd at fonitro arferol heddiw. A ydynt yn sylweddoli pa mor ddifrifol yw hyn i'r Gweinidog a difrifoldeb y neges y mae wedi'i chyflwyno—nad oes unrhyw hunanfodlonrwydd i fod, na gorffwys ar berfformiad y gorffennol; mae angen iddynt gael trefn ar bethau fel y gallant ddychwelyd i fonitro arferol?
Fy ail gwestiwn yw, a oes gan hyn unrhyw oblygiadau o ran trosglwyddo ardal Pen-y-bont ar Ogwr o Brifysgol Abertawe Bro Morgannwg i Gwm Taf. Rwy'n siŵr nad oes unrhyw oblygiadau yn hynny o beth, ac mae hwn yn sefydliad sy'n perfformio'n dda ar draws llawer o ardaloedd, ond credaf y bydd llawer o fy etholwyr, nid yn unig yn ardal Llanharan a'r Gilfach Goch, ond ardal ehangach Maesteg, Cwm Garw, Cwm Ogwr, Sarn a mannau eraill, sydd wedi cael eu gwasanaethu gan Brifysgol Abertawe Bro Morgannwg hyd yn hyn, ac sydd yng nghanol y broses o gael eu trosglwyddo i Gwm Taf ar hyn o bryd, eisiau sicrwydd gan y Gweinidog nad oes angen iddynt boeni ar sail yr hyn rydym wedi'i glywed heddiw.
Rwy'n hapus i roi sicrwydd a chadarnhad mewn perthynas â'ch ail bwynt yn syth. Ni fydd hyn yn effeithio ar yr amserlen ar gyfer newid y ffiniau. Credaf y byddai'n gwbl anghywir i ni geisio oedi neu dorri ar draws hynny yn awr. Mae'r newid i'r ffiniau i ddigwydd o ddechrau mis Ebrill, ac ni ddylai effeithio ar allu'r bwrdd iechyd i ymdrin â'r rhestr o feysydd. Mae'r arolwg allanol o'r gwasanaethau mamolaeth eisoes wedi'i gomisiynu; bydd angen iddynt ymateb iddo. Ac mae llawer o'r meysydd sy'n peri pryder ychwanegol a grybwyllais yn fy natganiad, ac rydych wedi cyfeirio atynt, yn ymwneud â chydymffurfiaeth a sicrhau bod pethau'n cael eu gwneud yn iawn ac o fewn cyfnod priodol o amser.
Her i swyddogion, cyflogeion y bwrdd iechyd, yn rhannol yw'r gwaith o sicrhau ansawdd trefniadau llywodraethu, ond mae hefyd yn her i'r aelodau anweithredol o'r bwrdd yn ogystal. Mae'n ymwneud â'r pwynt a wnaeth Vikki Howells ynglŷn â sicrhau bod aelodau'r bwrdd mewn sefyllfa i gyflawni eu swyddogaethau yn briodol, i graffu ar y bwrdd iechyd ac nid gweithredu fel hyrwyddwyr y sefydliad yn unig. Mae honno'n rôl ddeuol, ond mae'n un y byddem yn disgwyl i aelodau ei chyflawni.
Felly, dyna rwy'n ei ddisgwyl, a chredaf y gallwn bob amser ddysgu gwersi o sefyllfaoedd lle nad yw pethau ar eu gorau. Ac yn rhan o hyn, rwy'n disgwyl y bydd gwersi i fyrddau iechyd eraill eu dysgu er mwyn sicrhau eu bod yn edrych eto ar eu cydymffurfiaeth eu hunain i wneud yn siŵr eu bod yn gwneud yr hyn y dylent fod yn ei wneud, pan ddylent ei wneud, ac yn yr un modd, fod aelodau'n cael eu cynorthwyo i allu ymgymryd â'u rôl fel aelodau o'r bwrdd yn effeithiol.
Diolch yn fawr iawn, Weinidog.