Part of the debate – Senedd Cymru am 3:30 pm ar 9 Ionawr 2019.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o gael siarad yn y ddadl yma heddiw fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid ar yr ymchwiliad i gost gofal am boblogaeth sy'n heneiddio. Ac er nad oeddwn i'n aelod o'r pwyllgor adeg cynnal rhai o'r sesiynau tystiolaeth, mi hoffwn i, wrth gwrs, ddiolch i bawb a gyfrannodd, a hefyd i'r Gweinidog blaenorol dros Blant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol am ei ymateb e i'n hadroddiad ni, ac yn enwedig am dderbyn ein hargymhellion ni, naill ai yn llawn neu mewn egwyddor.
Fe gafodd un o'r chwe maes a drafodwyd gennym ni yn ein hymchwiliad, sef yr arfau cyllidol, neu'r levers cyllidol, sydd ar gael ar gyfer ariannu gofal cymdeithasol, ei drafod yn y Cyfarfod Llawn ddoe, wrth gwrs, ac felly mi fyddaf i'n canolbwyntio ar y pum arf arall yn fy nghyfraniad i heddiw. Fodd bynnag, fel y nodais i ddoe, mi oeddwn i'n siomedig nad oedd y Llywodraeth yn teimlo y gallai hi gydweithio â'r pwyllgor o ran amserlennu ei dadl hi, er mwyn rhoi cyfle inni gael trosolwg mwy cydgysylltiedig o'r drefn gyllido ar gyfer gofal cymdeithasol. Fe glywom ni dystiolaeth gref yng ngwaith y pwyllgor fod dryswch ar raddfa eang am y system sydd gennym ni, ac mi ddywedwyd wrthym ni y byddai'n amhosibl creu system fwy cymhleth, hyd yn oed pe bai rhywun yn trio gwneud hynny. Nid yw dadl ddarniog ar system neu gyfundrefn ddarniog yn mynd i ddod â'r eglurder sydd ei angen arnom o ran y pwnc pwysig hwn. Felly, rydw i wedi gwneud y pwynt ein bod ni wedi colli cyfle, rydw i'n meddwl, ac rydw i'n gwybod bod y Trefnydd yma, mewn capasiti arall, yn mynd i ymateb i'r ddadl fel y Gweinidog Cyllid, ond rydw i jest eisiau dweud fy mod i'n fwy na pharod i edrych ar unrhyw ddulliau mwy creadigol i ddefnyddio amser y lle yma yn fwy effeithiol ac yn fwy effeithlon efallai yn y dyfodol.
Nawr, fe glywodd y pwyllgor, er bod gwariant ar ofal cymdeithasol wedi'i ddiogelu mewn termau cymharol, fod gwariant y pen ar bobl dros 65 oed wedi gostwng yn sylweddol, yn rhannol oherwydd bod y boblogaeth hŷn yn cynyddu. Mae'r pwyllgor yn pryderu, oni bai bod camau'n cael eu cymryd, y bydd y pwysau parhaus yma ar gyllidebau gofal cymdeithasol, yn sgil galw cynyddol, yn arwain yn y pen draw at ddarpariaeth annigonol o wasanaethau ar gyfer pobl hŷn.
Mae'r pryder o ran y pwysau cynyddol hwn yn cael ei gymhlethu ymhellach gan ein dibyniaeth ar y rôl amhrisiadwy y mae'r 370,000 o ofalwyr di-dâl, neu ofalwyr gwirfoddol yn ei chwarae—cyfraniad, gyda llaw, sydd werth dros £8 biliwn y flwyddyn i economi Cymru, yn ôl amcangyfrifon. Ac mi hoffwn i gydnabod y rôl hanfodol hon, ac ailadrodd ein barn ni, er mor werthfawr yw'r cyfraniad hwnnw, wrth gwrs, nad yw dibynnu ar ofalwyr di-dâl yn gynaliadwy yn y tymor hirach.
Nawr, mae ein hadroddiad yn pwysleisio ein pryder ynghylch a yw'r asesiadau y mae gan ofalwyr hawl iddyn nhw o dan y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol yn cael eu cynnal, ac, ble y maen nhw'n cael eu cynnal, a yw anghenion yn cael eu hasesu'n gywir. Mae'r cymorth a roddir i ofalwyr yn hanfodol, ac roedd y pwyllgor yn pryderu am y dull o gynnal asesiadau. Fe wnaethom ni argymell y dylai Llywodraeth Cymru gynnal adolygiad o asesiadau gofalwyr er mwyn gwerthuso a yw'r Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant yn cryfhau'r cymorth sy'n cael ei roi i ofalwyr. Ac rwy'n falch bod yr adolygiad hwn wedi dechrau ym mis Tachwedd, ac rwy'n edrych ymlaen at weld ei gasgliadau.
Fe glywodd y pwyllgor bryderon hefyd ynghylch pwysau ariannol a phwysau staffio yn y sector gofal. Roeddem ni'n pryderu i glywed bod darparwyr gofal cartref, mewn rhai achosion, yn ymateb drwy roi contractau yn ôl i awdurdodau lleol, gan nad ydyn nhw yn ariannol hyfyw ar lefelau'r ffioedd sy'n cael eu talu iddyn nhw. Fel sydd wedi'i nodi yn ein hadroddiad, mae'n hanfodol felly fod y contractau sy'n cael eu rhoi gan awdurdodau lleol yn realistig, a hynny er mwyn osgoi unrhyw gynnydd mewn angen sydd heb ei ddiwallu, a fyddai wedyn, yn ei dro, yn rhoi pwysau cynyddol ar y gwasanaeth iechyd cenedlaethol.