5. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyllid: Cost Gofalu am Boblogaeth sy'n Heneiddio

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:35 pm ar 9 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 3:35, 9 Ionawr 2019

Fe glywom ni am argyfwng wrth geisio recriwtio a chadw staff gofal cymdeithasol, ac roedd cyflog isel a chanfyddiad o statws cymdeithasol isel yn ffactorau a oedd yn cyfrannu at y sefyllfa yma. Mae'r sector gofal cymdeithasol, yn arbennig, yn agored i bwysau ychwanegol ar y gweithlu, gan fod cyfran uchel o'r staff eu hunain yn heneiddio. Ac rŷm ni hefyd yn pryderu'n arbennig ynghylch honiadau bod staff, ar ôl cael eu hyfforddi gan ddarparwyr gofal, yn cael eu colli i'r gwasanaeth iechyd cenedlaethol, neu i awdurdodau lleol, sydd, wrth gwrs, ag amodau gwaith a phecynnau cyflogaeth mwy deniadol i'r gweithwyr rheini. Yn ein hadroddiad ni, rŷm ni'n pwysleisio'r ffaith bod mynd i'r afael â materion yn ymwneud â'r gweithlu yn hanfodol er mwyn sicrhau cynaliadwyedd y system. Mae angen i bobl weld gofal cymdeithasol fel opsiwn gyrfa deniadol, a hynny er mwyn denu gweithwyr newydd, ac, wrth gwrs, er mwyn cadw staff profiadol. Ac mae'n rhaid i'r amodau gwaith yn y sector gofal fod yn gydradd â'r rhai sy'n cael eu cynnig i staff sy'n gweithio yn y gwasanaeth iechyd cenedlaethol, a hynny er mwyn dangos pa mor werthfawr yw'r rolau hyn. Felly, rŷm ni'n argymell bod Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu'r broses o ddatblygu strategaeth ar gyfer y gweithlu gofal cymdeithasol i fynd i'r afael â'r pryderon hyn. Ac mi ddylai hyn gynnwys cymryd camau i godi statws y rheini sy'n gweithio yn y sector gofal cymdeithasol, er mwyn sicrhau bod y rôl hon yn yrfa ddeniadol sydd yn denu cyflog priodol.

Rydw i'n falch bod yr argymhelliad hwn wedi'i dderbyn, a bod y Llywodraeth, yn ei hymateb, yn cydnabod pwysigrwydd sicrhau gweithlu gofal cymdeithasol cynaliadwy, ac rydw i'n croesawu ymrwymiad y Llywodraeth i roi gwelliannau ar waith. Ac mi fydd y pwyllgor yn edrych ar effeithiolrwydd y mesurau a weithredwyd yn ddiweddar, yn ogystal â'r rhai a gaiff eu cyflwyno yn nes ymlaen eleni, pan fyddwn ni'n cynnal ein hadolygiad o'r cynnydd sydd wedi cael ei wneud ar weithredu ein hargymhellion ni yn 2020.

Nawr, mae'r pwyllgor yn croesawu'r cynnydd yn y trothwy cyfalaf ar gyfer cyfraniadau o asedau mewn perthynas â gofal dibreswyl, ond rydym yn pryderu ynghylch a yw Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid digonol i dalu am refeniw a gollwyd gan awdurdodau lleol. Rŷm ni'n croesawu'r cyhoeddiad diweddar, wrth gwrs, ynghylch y cynnydd terfynol a wnaed i gyrraedd trothwy o £50,000, yn ogystal â'r £7 miliwn ychwanegol a ddarperir i ariannu hyn. Ond, yn bwysicaf oll, rŷm ni'n croesawu'r ymrwymiad i fonitro, a hefyd i addasu'r cyllid hwn os yw e yn annigonol.

Er ein bod ni'n croesawu cynlluniau'r grŵp rhyngweinidogol ar dalu am ofal cymdeithasol ar gyfer ymgysylltu ag aelodau'r cyhoedd, er mwyn eu hysbysu nhw'n well ynglŷn â fframwaith y taliadau yn y flwyddyn sydd i ddod, mae'r pwyllgor yn pryderu am y diffyg ymwybyddiaeth cyffredinol sy'n bodoli o ran talu am ofal cymdeithasol i oedolion, ac yn benodol am y ffaith y gall y cymhlethdod sydd ynghlwm wrth y trefniadau presennol arwain at annhegwch mewn perthynas â'r rhai sy'n gymwys i gael cymorth ffurfiol a ariennir yn gyhoeddus.

Fel rhan o'n hymchwiliad, bu'r pwyllgor yn trafod opsiynau ar gyfer diwygio cyllidol, gan gynnwys y cynnig a wnaed gan yr Athro Gerry Holtham ar gyfer cyflwyno cynllun cyfrannol o yswiriant gorfodol. Nawr, rŷm ni'n croesawu'r gwaith a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu'r cynnig hwn fel cam cadarnhaol tuag at gydnabod y bydd angen i'r system bresennol newid er mwyn diwallu'r galw yn y dyfodol.

Mae'r pwyllgor yn ategu galwadau gan randdeiliaid am sgwrs genedlaethol am safon y gofal y mae'r cyhoedd yn awyddus i'w chael, cyn bod unrhyw benderfyniadau'n cael eu gwneud am y drefn gyllido yn y dyfodol. Felly, fe wnaethom ni argymell y dylai'r Llywodraeth ymgysylltu â'r cyhoedd ynglŷn â chyllid gofal cymdeithasol yn y dyfodol, a hynny er mwyn trafod yr hyn y byddai'r cyhoedd yn disgwyl ei gael yn gyfnewid am wneud unrhyw gyfraniadau ychwanegol. Yn benodol, fe wnaethom ni argymell, cyn cyflwyno ardoll i godi arian ychwanegol ar gyfer gofal cymdeithasol, y bydd angen i Lywodraeth Cymru gyfiawnhau sut y bydd unrhyw arian a godir yn cael ei ddefnyddio, a dangos sut y bydd yr arian hwn yn gwneud gwahaniaeth. Nawr, mi ddylai'r broses hon gynnwys egluro'r lefel o ofal y dylai'r cyhoedd ei disgwyl, gan ei bod hi'n annhebygol, wrth gwrs, y bydd y cyhoedd yn rhoi ei gefnogaeth os yw'r gofal a ddarperir yn parhau ar ei lefel bresennol. Ac mi oedd clywed sylwadau'r Gweinidog iechyd ynglŷn â'r angen yma am y sgwrs genedlaethol yma ddoe, wrth gwrs, yn galonogol i'r perwyl hwnnw.

Rydw i'n croesawu'r ffaith bod y Llywodraeth wedi derbyn argymhellion 7 ac 8 yn ein hadroddiad ni, ac yn benodol ei hymrwymiad i ddatblygu modelau cyllido arloesol, i sicrhau bod adnoddau ar gael i fodloni anghenion gofal cymdeithasol yn y dyfodol, a'i chydnabyddiaeth y bydd angen ymgysylltu cyhoeddus sylweddol cyn gwneud penderfyniadau.

Yn olaf, mae'r pwyllgor yn ymwybodol o gasgliadau'r adolygiad seneddol o iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Nawr, mi glywodd y pwyllgor fod y cynnig i sefydlu un system iechyd a gofal di-dor wedi'i groesawu'n fras, ond rŷm ni hefyd yn ymwybodol, wrth gwrs, o'r pryderon sy'n bodoli ynglŷn â'r ffaith bod gofal cymdeithasol weithiau'n cael ei weld fel gwasanaeth sinderela. Mi wnaeth y pwyllgor argymell bod Llywodraeth Cymru yn archwilio sut y gallai'r cynnig i sefydlu system iechyd a gofal di-dor, a argymhellir yn yr adolygiad seneddol, gyfuno cronfa ar gyfer gofal cymdeithasol â'r gwasanaeth iechyd cenedlaethol sydd am ddim, wrth gwrs, ar y pwynt cysylltu. Fe gafodd yr argymhelliad hwn ei dderbyn mewn egwyddor yn unig. Felly, mi fyddem ni yn croesawu rhagor o wybodaeth gan y Gweinidog ynghylch sut y mae Llywodraeth Cymru yn rhagweld y bydd y syniad yma yn cael ei ddatblygu.

Mae'r gost o ofalu am boblogaeth sy'n heneiddio yn un o'r materion mwyaf a phwysicaf sy'n wynebu Cymru heddiw, ac mae'n galonogol bod y Llywodraeth yn derbyn ein holl argymhellion, ac eithrio un, yn llawn. Mae ymateb y Llywodraeth yn cyfeirio at weithgarwch amrywiol ar y pwnc, gan gynnwys creu grwpiau rhyngweinidogol, datblygu nifer o strategaethau hirdymor, cynnal ymgynghoriadau a chodi ymwybyddiaeth. Ac mae hyn i gyd, fel rydw i'n ei ddweud, yn galonogol, ac rŷm ni'n gobeithio gweld canlyniadau cadarnhaol yn sgil y mentrau yma pan fyddwn ni, wrth gwrs, yn adolygu'r holl argymhellion yn ein hadroddiad ni yn y flwyddyn 2020.

Fodd bynnag, mae yn hanfodol bod newidiadau yn cael eu gwneud. Mae angen gweithredu cadarn, a hynny ar frys, er mwyn dod o hyd i'r datrysiad gorau i Gymru ac er mwyn sicrhau y gall pobl Cymru weld cynnydd. Mae cost gofalu am boblogaeth sy'n heneiddio yn broblem na ddylai byth fod yn bell o'n meddyliau ni, ac mae'n broblem sy'n effeithio'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol ar bob un ohonom ni. Diolch.