5. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyllid: Cost Gofalu am Boblogaeth sy'n Heneiddio

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:10 pm ar 9 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 4:10, 9 Ionawr 2019

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu? Ni wnaf gyfeirio at bob cyfraniad, maddeuwch i fi, ond fe wnaf jest ategu un neu ddau o'r pwyntiau sydd wedi cael eu gwneud. Yn sicr, yng nghyfraniad Nick Ramsay, roedd y cyfeiriad at lefel y cyflogau o fewn y sector yn cymharu â rhai yn stacio silffoedd, rydw i'n meddwl, yn tanlinellu lle mae'r sector yn y cyd-destun hynny ar hyn o bryd. Ac, wrth gwrs, yn ei hymateb, mi wnaeth y Gweinidog gyfeirio at rai pethau mae'r Llywodraeth yn eu gwneud i edrych ar dermau ac amgylchiadau cyflogaeth o'r fath. Wrth gwrs, y llinell waelod yw bydd pobl eisiau gweld cynnydd yn eu pecyn cyflog. Tan fod hynny'n digwydd, mae'n debyg y bydd hi'n anodd iawn dangos i'r bobl sy'n gweithio yn y sector yna fod cymdeithas yn gwerthfawrogi'r cyfraniad y maen nhw yn ei wneud.