5. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyllid: Cost Gofalu am Boblogaeth sy'n Heneiddio

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:11 pm ar 9 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 4:11, 9 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Soniodd Nick am y cyfeiriadau a nodwyd yn ystod ein gwaith ynghylch yr angen am ateb ar sail y DU gyfan, ac mae'n debyg fod hynny'n adlewyrchu barn y pwyllgor neu ei ddewis yn hynny o beth, ond wrth gwrs, os nad yw hynny'n digwydd rhaid inni fwrw iddi a'i wneud ein hunain. Rwy'n obeithiol fod y Llywodraeth o'r un farn, oherwydd, fel y dywedodd Nick, rydym mewn sefyllfa anghynaliadwy yn y tymor hir, er y credaf nad yw'r tymor hir mor hir ag y mae rhai pobl yn ei feddwl neu'n ei obeithio.

Cawsom ein hatgoffa gan David Rowlands am y gymhareb rhwng pobl ifanc a phobl hen sy'n newid yn gyflym, ac mae hynny, wrth gwrs, yn galw am ymateb mawr gan ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Mater i ni, felly, yw dod o hyd i ffordd o ddarparu'r gwasanaethau hynny. Cawsom ein hatgoffa gan Mark Isherwood hefyd o'r gwerth a'r cyfleoedd a ddaw o'r dull cydgynhyrchiol, ac rwy'n siŵr y gallai'r sgwrs genedlaethol fod yn ddechrau ar hynny.