Part of the debate – Senedd Cymru am 4:13 pm ar 9 Ionawr 2019.
Rydw i eisiau diolch i Dai Lloyd hefyd am ei gyfraniad y prynhawn yma. Mae yna gyfle yn y fan hyn, fel roedd Dai yn ei awgrymu, inni fod yn uchelgeisiol ac yn arloesol. Mae eisiau dangos yr un uchelgais, yr un arloesedd a'r un dewrder a welwyd adeg creu y gwasanaeth iechyd cenedlaethol. Nid taflu arian at system sy'n methu yw'r ateb, fel dywedodd Dai. Mae angen newid y system hefyd fel bod gennym ni gyfundrefn fwy cynaliadwy.
Rydw i felly eisiau diolch i'r Aelodau a gyfrannodd i'r ddadl yma. Diolch hefyd i dîm clercio’r pwyllgor a phawb roddodd dystiolaeth i ni fel rhan o'r broses yma. Rydw i'n falch bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn pob un o'r naw argymhelliad a wnaed, naill ai'n llawn neu mewn egwyddor. Mae yna gonsensws, rydw i'n siŵr o hynny, fod angen gweithredu'n awr—bod yr amser wedi dod nawr inni fynd i'r afael â'r sefyllfa yma unwaith ac am byth.
Rydw i eisiau cloi drwy ategu'r gydnabyddiaeth rŷm ni fel pwyllgor eisiau rhoi i'r gofalwyr gwirfoddol allan yn fanna—y glud sy'n dal y gwasanaeth yma at ei gilydd. Mae'r ddibyniaeth yn drom iawn arnyn nhw, ond mae'r ddibyniaeth yna hefyd, wrth gwrs, yn peri risg i gynaliadwyedd y ddarpariaeth gofal cymdeithasol yng Nghymru. Rŷm ni wedi clywed am y pryderon ynghylch pwysau ar y gweithlu. Rŷm ni wedi clywed yr heriau sydd o'n blaenau ni.
A gaf i ddiolch i chi i gyd? A gaf i ddweud ei fod wedi bod yn ymateb calonogol gan y Llywodraeth? Ond, wrth gwrs, mae angen i'r holl weithgarwch yma nawr sydd yn digwydd arwain at ganlyniadau pendant a newidiadau go iawn i gyfundrefn ariannu sydd, rydw i'n meddwl y gallwn ni i gyd gytuno, yn rhedeg allan o amser. Diolch.