Part of the debate – Senedd Cymru am 4:21 pm ar 9 Ionawr 2019.
Wel, fel mae'n digwydd, fe edrychwyd ar hynny mewn gwaith arall a wnaethom y llynedd mewn perthynas â theithio llesol. Fe gynaliasom ein harolwg ein hunain o ddefnyddwyr a oedd yn gofyn, 'Beth sy'n eich rhwystro rhag beicio neu ddefnyddio llwybrau?' ac yn wir, cyflwr y ffyrdd oedd yr ateb. Ac rwy'n credu bod hynny'n cyd-fynd â'r hyn rydych yn ei ddweud, felly rwy'n cytuno gyda'r pwynt hwnnw; credaf ei fod yn bwynt da.
Gwnaeth y pwyllgor nifer o argymhellion rwy'n falch o ddweud eu bod wedi'u derbyn, ac mae'r rhain yn cynnwys ymchwilio i'r posibilrwydd o apiau i ddarparu adborth amser real ar gyflwr ffyrdd, gwella tryloywder ac argaeledd cynlluniau rheoli asedau priffyrdd, creu panel o arbenigwyr i roi cyngor ar arferion gorau ym maes atgyweirio ffyrdd, a chyfyngu ar nifer yr achosion lle y gallai fod yn ddoeth i ddefnyddio'r model buddsoddi cydfuddiannol o ariannu cyhoeddus-preifat. Ar y nodyn olaf, ysgrifennodd Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid ataf yn gynharach yr wythnos hon yn ymateb i'n pryderon am y model buddsoddi cydfuddiannol, ac roeddwn yn falch o ddarllen y byddant yn gwneud gwaith ehangach ar gyllid cyfalaf yn ystod y flwyddyn i ddod i ystyried y materion hyn.
Rwy'n rhagweld llawer o gyfraniadau heddiw, gan y bydd llawer ohonom wedi cael negeseuon e-bost a llythyrau ynglŷn â chyflwr y ffyrdd yn ein rhanbarthau a'n hetholaethau, felly edrychaf ymlaen at glywed yr hyn sydd gan eraill i'w ddweud y prynhawn yma.