Part of the debate – Senedd Cymru am 4:22 pm ar 9 Ionawr 2019.
Yng Nghymru, mae gennym ychydig o dan 35,000 km o ffyrdd. Mae teithiau'r rhan fwyaf o bobl yn cynnwys y defnydd o'r rhwydwaith ffyrdd, ffigur sydd wedi bod yn sefydlog ers i gofnodion ddechrau yn y 1950au. Rydym hefyd yn dibynnu ar y ffyrdd ar gyfer cludo cyfran uchel o'n nwyddau domestig. Ledled y DU, mae gwefan 'Fill that Hole' Cycling UK yn rhoi gwybod am 13,500 o dyllau ffordd ar gyfartaledd bob blwyddyn. Mae'r ddau ystadegyn yn dangos maint yr her sy'n ein hwynebu, ac maent hefyd yn dangos bod cyflwr ein ffyrdd yn bwnc sy'n peri pryder i lawer o ddinasyddion Cymru, pwynt y mae Cadeirydd ein pwyllgor, Russell George, wedi'i nodi eisoes.
Ar gyfer fy nghyfraniad i'r ddadl heddiw, rwyf am ganolbwyntio ar dri argymhelliad yn benodol, ac mae'n siomedig fod pob un o'r rhain wedi cael eu gwrthod gan Lywodraeth Cymru. Felly, buaswn yn gobeithio y gallai'r Gweinidog edrych yn ei ymateb ar sut y gellid ystyried y dystiolaeth a gawsom. Yn gyntaf, argymhelliad 3: nawr, roedd a wnelo hwn â chymell awdurdodau lleol i fuddsoddi mewn gwaith cynnal a chadw. Yn fy awdurdod lleol i yn Rhondda Cynon Taf, cymeradwywyd cynlluniau yn ddiweddar i fuddsoddi £23.5 miliwn pellach dros y tair blynedd nesaf. Mae ffocws cyson ar wella'r rhwydwaith priffyrdd yn golygu, ers 2011-12, fod canran y ffyrdd dosbarthiadol sydd angen sylw yno wedi gostwng ddwy ran o dair.
Hoffwn ganmol y cyngor am eu gwaith caled yn gwella'r rhwydwaith ffyrdd, sydd wedi arwain at gwblhau dros 1,000 o gynlluniau lonydd cerbydau. Rwy'n croesawu arian sylweddol Llywodraeth Cymru i gynghorau lleol dros gyfnod o bedair blynedd ar gyfer cynnal a chadw ffyrdd. Fodd bynnag, rwy'n gobeithio y gallai'r Gweinidog amlinellu'r modd y bydd yn gweithio gyda chynghorau i sicrhau bod hyn yn dal yn flaenoriaeth. Rwy'n ymwybodol iawn mai un peth yw fod preswylwyr un awdurdod yn cael ffyrdd sy'n cael eu cynnal a'u cadw'n dda, ond beth os ydynt yn teithio i awdurdod arall lle y mae'r sefyllfa'n wahanol iawn? Efallai mai cynnal a chadw ffyrdd mewn un awdurdod yw'r gwasanaeth a allai effeithio fwyaf ar drigolion sy'n byw mewn awdurdod arall. Felly, mae angen inni wneud yn siŵr ein bod yn mabwysiadu ymagwedd gydgysylltiedig tuag at y mater hwn.
Yn ail, argymhelliad 4: nawr, mae hwn yn ymwneud ag edrych ar fodel pum mlynedd o gymorth ar gyfer cynghorau. Yr hyn sy'n allweddol yma yw'r capasiti ar gyfer cynllunio hirdymor ar bob lefel. Rwy'n derbyn rhesymeg y Gweinidog ac yn nodi, lle y bo'n bosibl, fod cyllid wedi'i ddarparu ar sail fwy hirdymor. Er enghraifft, cyfeiriais at y gronfa £60 miliwn ar gyfer tyllau yn y ffyrdd a ddyrannwyd i awdurdodau dros dair blynedd. Soniais y gall cynghorau wneud cynlluniau hirdymor, fel yn achos Rhondda Cynon Taf a'i fodel tair blynedd.
Credaf fod yr ymateb mwy cadarnhaol i argymhelliad 6 yn mynd i'r afael â rhai o'n pryderon. Gyda phwysau parhaus y cyni ariannol, mae angen inni sicrhau ein bod yn gwneud y penderfyniadau hirdymor cywir sy'n darparu'r atebion hirdymor cywir. Mae hynny'n well nag atebion byrdymor cyflym, sydd ond yn arwain at gost bellach yn y pen draw. Edrychaf ymlaen at gyhoeddi'r cynllun cynnal a chadw pum mlynedd y cyfeiriwyd ato maes o law.
Yn olaf, argymhelliad 8: yn ei hanfod, mae hwn yn ymwneud ag eglurder a blaenoriaethu gwelliannau i'r seilwaith ffyrdd, ac egluro, pan fo amserlenni'n llithro, pam fod hynny'n digwydd. Credaf fod hyn yn hanfodol bwysig. Un o'r pethau sydd wedi achosi fwyaf o rwystredigaeth i fy etholwyr fu'r oedi cyn cwblhau'r gwaith deuoli ar yr A465, ffordd Blaenau'r Cymoedd, rhwng y Fenni a Hirwaun. Nawr, nodwyd yr angen am welliannau i'r darn o ffordd tair lôn peryglus hwnnw bron i dri degawd yn ôl. Mae'r llithriant yn y ffrâm amser ar y prosiect hwn a addawyd ers cyhyd, yn aml heb atebion clir ynglŷn â pham neu pa bryd, wedi gadael blas chwerw. Buaswn yn dweud nad yw'n gyd-ddigwyddiad fod fy mhlaid wedi cael trafferth cadw sedd y cyngor yn ward Hirwaun, un o ddwy sedd yn unig rydym wedi methu eu cadw yng Nghwm Cynon.
Yn yr un modd, beth bynnag yw barn yr Aelodau ar ffordd liniaru'r M4, nid yw cwestiynau ynglŷn â'r amserlen yno wedi bod o fudd i neb. Rwy'n meddwl ei bod hi'n bwysig nodi efallai nad yw'r ymdeimlad o rwystredigaeth yn ymwneud yn unig â phrosiectau adnewyddu ffyrdd. Mae hefyd yn effeithio ar welliannau trafnidiaeth gyhoeddus. Rwy'n croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gynnal adolygiad i weld a ellid darparu mwy o eglurder ynghylch y camau datblygu o fewn y cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol. Rwy'n gobeithio y gellir gwneud hyn mor glir ag y bo modd fel bod yr holl wleidyddion a'r cymunedau rydym yn eu cynrychioli yn cael yr wybodaeth gywir. Diolch.