6. Dadl ar Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: Cyflwr y Ffyrdd yng Nghymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:32 pm ar 9 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 4:32, 9 Ionawr 2019

Gwnaf i siarad yn fyr iawn. Nid oeddwn i’n Aelod o’r pwyllgor a wnaeth y gwaith ymchwil yma. Yn rhyfedd, mi oedd yna rywfaint o gellwair pan gafodd y gystadleuaeth yna ei lansio i bobl anfon lluniau o dyllau mewn ffyrdd i mewn—rhai yn amau difrifoldeb hynny. Ond, wir, mi oedd o’n gam defnyddiol, a beth a ddangoswyd yn ymateb pobl oedd cymaint y mae hyn yn cyffwrdd â bywydau pobl lle bynnag y maen nhw yng Nghymru. Ein ffyrdd ni, wedi’r cyfan, ydy un o’n hasedau mwyaf ni, gwerth dros £13 biliwn, ac mae pob un ohonom ni, mewn rhyw ffordd neu'i gilydd, yn defnyddio’r ffyrdd, ac mae pob un ohonom ni—mi fentraf i ddweud—rhyw dro neu'i gilydd wedi dod ar draws twll mewn ffordd, ac mi oedd hi yn, rydw i’n meddwl, yn exercise defnyddiol iawn mewn ymgysylltiad go iawn rhwng ein Senedd genedlaethol ni a phobl Cymru ar bwnc a oedd yn wirioneddol bwysig iddyn nhw.

Ac nid oedd yna ddim gwobrau, nid ydw i’n meddwl, am ddyfalu beth fyddai rhai o gasgliadau’r ymchwiliad yma, neu beth fyddai rhai o’r argymhellion a fyddai’n dod yn sgil y casgliadau hynny, ond mi oedd hi’n bwysig iawn, iawn, iawn eu bod nhw’n cael eu nodi mewn du a gwyn, ac rydw i’n falch bod yr adroddiad yma gennym ni. Nid oedd hi’n ddim syndod gweld, drwy’r adroddiad yma, fod arian yn rhy dynn ar lywodraeth leol yng Nghymru, fel y mae hi, iddyn nhw heb gymorth ychwanegol fynd i’r afael â’r broblem yma; nid oedd hi’n ddim syndod gweld bod angen cynllun cyllido hirdymor, fel mae elfennau eraill o’n rhwydwaith trafnidiaeth ni’n ei dderbyn; nid oedd hi’n ddim syndod gweld bod rheoli hirdymor a sicrhau bod yr ased yma’n cael ei gynnal a’i gadw yn y cyflwr gorau yn y hirdymor yn fwy cost effeithiol nag ymateb i broblemau fel ag y maen nhw’n codi, ac mae gennym ni argymhellion rŵan yr ydw i’n gobeithio y bydd y Llywodraeth yn gweithredu arnyn nhw.

Ond nid oes dim celu'r ffaith bod yna broblem ariannol ddybryd wrth wraidd y sefyllfa yma. Mae arolwg ALARM, sydd wedi cael ei dynnu i’n sylw i heddiw, yn awgrymu bod awdurdodau lleol yng Nghymru wedi gwario 40 y cant yn llai nag awdurdodau lleol yn Lloegr ar drwsio ffyrdd yn 2018. Nid ydy hynny’n gynaliadwy. Rydw i'n deall yn fy etholaeth i fod yr arian sydd ar gael ar gyfer cynnal a chadw ffyrdd wedi bron haneru mewn cyfnod o ryw 10 mlynedd. Nid ydy hynny’n gynaliadwy. Rydw i'n gweld un awdurdod yn sôn am ôl-groniad o £50 miliwn ar gyfer trwsio ffyrdd. Mae ystadegau Abertawe eto wedi cael eu tynnu i’m sylw i heddiw.

Ac mae sefyllfa’n gallu gwaethygu dros amser hefyd. Rydw i wedi cael achos yn fy etholaeth i yn ddiweddar lle mae newid mewn arferion amaethyddol, cerbydau trymach yn cael eu defnyddio ar ffyrdd gwledig, yn gwaethygu ac yn creu problemau o’r newydd ar gyfer ffyrdd gwledig, a hynny’n achosi costau ychwanegol maes o law. Felly, nid ydy hon yn broblem sy’n mynd i ffwrdd, mae’n broblem, ac mae’n rhaid inni ei chymryd hi o ddifri.

All rhywun ddim anwybyddu’r ffaith bod yna, ar y gweill yng Nghymru ar hyn o bryd, gynlluniau ffyrdd gwerth hyd at, beth, £2 biliwn a allai fod yn digwydd ar gyfer un cynllun, a chynlluniau sylweddol eraill gwerth degau, cannoedd o filiynau o bunnau. Mae’n rhaid gwarchod yr ased sylfaenol. Mae'n rhaid gwarchod yr ased sylfaenol. Ac mae’n rhaid rhoi cynlluniau gwariant hirdymor—pum mlynedd ydy’r awgrym yn yr adroddiad yma, ac rydw i’n cyd-fynd â hynny—cynlluniau cyllidol hirdymor er mwyn sicrhau bod ein hawdurdodau lleol ni’n gallu rhoi rhaglenni mewn lle er mwyn gwarchod yr ased yna ar gyfer yr hirdymor. Ac rydw i'n falch iawn bod yr adroddiad yma wedi cael ei wneud, beth bynnag am y cellwair ynglŷn â’r gystadleuaeth ffotograffiaeth ar ei dechrau hi.