Part of the debate – Senedd Cymru am 4:37 pm ar 9 Ionawr 2019.
Wel, i adleisio rhai o eiriau Rhun ap Iorwerth, yn ystod ein sesiynau tystiolaeth ar gyflwr y ffyrdd yng Nghymru, roedd llawer o randdeiliaid, os nad y cyfan, yn bendant fod angen cynllunio strategol hwy, ac ni ellid cyflawni hyn heblaw drwy gynigion cyllideb hirdymor gan Lywodraeth Cymru, ac roedd y rhan fwyaf yn argymell cyfnod o bum mlynedd fan lleiaf. Mae'n drueni, felly, fod argymhelliad 4 yn ein hadroddiad wedi'i wrthod gan Weinidog y Cabinet. Er y rhoddir esboniad pam y caiff ei wrthod, oni ddylai'r Llywodraeth gydnabod bod atebion byrdymor i'r rhwydwaith ffyrdd yn llawer mwy costus dros amser na phrosiectau wedi'u cynllunio'n dda dros y tymor canolig i'r tymor hir? Felly, ymddengys yn rhyfedd eich bod yn derbyn argymhelliad 6, sydd, unwaith eto, yn galw am gynllunio hirdymor, er bod y penderfyniad hwn i'w dderbyn i'w weld yn seiliedig ar ddeunyddiau metlin gwell, sy'n para'n hwy.
Gan mai cyfyngiadau ariannol yw'r prif achos dros anallu'r Llywodraeth i hwyluso cyllidebau hirdymor, a ddylai cyfyngiadau o'r fath fod yn ffactor sylfaenol yn nhrafodaethau Gweinidog Cabinet ynglŷn ag a ddylid bwrw ymlaen â ffordd liniaru'r M4? Yn sicr byddai rhyddhau'r swm cyfalaf enfawr a ragwelir ar gyfer y ffordd osgoi yn lleddfu'r holl gyfyngiadau a amlinellir yn eich penderfyniad i wrthod yr awgrymiadau a geir yn argymhelliad 4 y pwyllgor.
Gan droi at benderfyniad y Llywodraeth i wrthod argymhelliad 12, lle roeddem yn gofyn am roi blaenoriaeth glir i'r gwaith o gynnal a chadw ffyrdd presennol, a gwella'r rhwydwaith teithio llesol, mae eich penderfyniad i wrthod yn datgan yn syml mai'r cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol sy'n pennu'r rhaglen fuddsoddi, nid strategaeth drafnidiaeth Cymru. Fodd bynnag, a yw'n ymdrin ag egwyddor sylfaenol ein hargymhelliad, sy'n mynd i'r afael â'r cwestiwn o flaenoriaethu, o gofio bod y strategaeth a'r cynllun cyllid ill dau'n rhan o gylch gorchwyl Llywodraeth Cymru?
I gloi, y ddau beth sylfaenol a ganfu ein hymchwiliad yw fod safon cefnffyrdd Cymru yn dda at ei gilydd a'u bod yn cael eu huwchraddio mewn modd amserol a chosteffeithiol. Fodd bynnag, ni ellir dweud yr un peth am y rhwydwaith ffyrdd a weinyddir gan awdurdodau lleol, ac mai'r rheswm am hyn yn bennaf yw cyfyngiadau ariannol. Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru felly i unioni'r anghydbwysedd hwn fel bod y rheini sy'n defnyddio'r rhwydwaith yng Nghymru yn gweld bod yr holl ffyrdd yn cael eu cynnal i safon ardderchog a diogel.