Part of the debate – Senedd Cymru am 5:00 pm ar 9 Ionawr 2019.
Rwy'n mynd i agor y ddadl hon gyda dyfyniad gan gyn-brif weithredwr y Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi, ac rwy'n dyfynnu:
Heb weithredu effeithiol yn awr, mae'r holl arwyddion yn dynodi bod Cymru'n anelu am argyfwng tai sydd cyn waethed, neu o bosibl yn waeth, nag yng ngweddill y DU... Oni roddir camau ar waith ar frys, rydym yn pwysleisio wrth Gynulliad Cymru y bydd argyfwng tai'r wlad yn arwain at ganlyniadau difrifol i dwf yn y dyfodol a ffyniant y wlad yn gyffredinol.
Lywydd, siaradwyd y geiriau hynny yn 2004 mewn gwirionedd—15 mlynedd yn ôl. Rydym wedi cael 15 mlynedd o leiaf o rybudd, a hyd yn oed mwy na hynny o bosibl yn ôl arbenigwyr eraill, ond dyma ni yn ceisio ymrafael â marchnad dai doredig, sydd bellach yn un o'r rhwystrau mwyaf i les cymdeithasol, ac sy'n niweidio gweithwyr cyffredin yn fwy na neb.
Ddoe ddiwethaf, rhyddhaodd Shelter adroddiad a oedd yn agor gyda gwirionedd plaen am fethiannau polisi yn y DU o ran tai a pherchentyaeth. Rwy'n annog pobl i ddarllen y crynodeb gweithredol o leiaf. Credaf ei bod hi'n ddogfen bwysig dros ben. Os caf ddyfynnu'r hyn y mae'r adroddiad yn ei ddweud:
rydym yn byw mewn gwlad sy'n teimlo effeithiau 40 mlynedd o fethiant o ran polisi tai.
Yn fy marn i, mae'n bwysig inni fod yn onest yma a pheidio ag osgoi goblygiadau hynny i bob plaid sydd wedi bod mewn Llywodraeth.
Mae'r gostyngiad yn nifer y teuluoedd ifanc sy'n symud tuag at berchnogaeth—mae'r adroddiad yn nodi bod y cynnydd yn nifer y pensiynwyr sy'n byw mewn eiddo rhent preifat ansicr, na allant ei fforddio, a'r digartrefedd sy'n bla ar ein cymdeithas yn ein hatgoffa bob dydd o fethiant y polisi.
Aiff yr adroddiad rhagddo i ragweld y bydd cenhedlaeth o deuluoedd ifanc yn gaeth i rentu preifat drwy gydol eu bywydau oni bai ein bod yn mynd i'r afael â'r mater hwn o ddifrif. Erbyn 2040, mae'r adroddiad yn cyfrifo y gallai cynifer ag un rhan o dair o bobl 60 oed fod yn rhentu'n breifat, gan wynebu cynnydd na allant ei fforddio yn y rhent neu gael eu troi allan ar unrhyw adeg.
Mae'r angen am strategaeth gyfannol a chydlynol i fynd i'r afael â'r mater hwn yn gliriach nag erioed, ac ni fu erioed fwy o angen consensws trawsbleidiol. Mae pawb ohonom mewn bywyd cyhoeddus wedi bod yn rhan o'r broblem. Nawr, rhaid inni ddod at ein gilydd ac adeiladu polisi i ddatrys yr argyfwng. Lywydd, ymwneud â hyn y mae'r ddadl heddiw. Heddiw, rwy'n pwyso ar bob Aelod i gefnogi ein cynnig, sy'n cofnodi bod y Cynulliad hwn yn cydnabod nad ydym wedi gwneud digon a bod angen inni wneud llawer mwy.
Eisoes, mae Llywodraeth y DU wedi dechrau cydnabod maint y dasg sydd o'n blaenau, a dyna sydd angen i ni ei wneud yn awr yma yn y Cynulliad. Mae Llywodraeth y DU wedi sefydlu targed o 300,000 o gartrefi newydd y flwyddyn, targed y maent yn gobeithio ei gyrraedd yn y 2020au. Yn wir, mae'n un o'r rhesymau pam y cyhoeddodd Shelter yr adroddiad, ac mae'n rhoi sylwadau go helaeth ar y targed hwnnw.
I'r rhai ar y rheng flaen, mae'r argyfwng yn golygu anhawster i dalu eich morgais neu fethu talu eich rhent. Mae eraill yn poeni ynglŷn â ble y byddant yn treulio'r nos o'u blaenau, a rhai'n gorfod byw ar y strydoedd, fel y gwyddom, a chysgu ar y stryd. Ni allwn ganiatáu i hyn barhau. Mae tai yn angen sylfaenol ac mae'r hawl i gartref gweddus yr un mor bwysig â'r hawl i ofal iechyd. Mae un peth yn sicr, mae angen inni adeiladu mwy o gartrefi. Llawer mwy o gartrefi—o leiaf 100,000 o gartrefi newydd yng Nghymru yn y 2020au yn ein barn ni.
I gyflawni hyn, mae'n amlwg fod angen inni gael consensws gwleidyddol newydd, oherwydd os yw'r Llywodraeth yn newid neu os ceir clymblaid, beth bynnag sy'n digwydd o ran y rhai sy'n gyfrifol am lunio polisi, rhaid sicrhau'r cysondeb sy'n deillio o gonsensws gwleidyddol dwfn. Dyna a gawsom ar ôl yr ail ryfel byd mewn cyfnod o 25 mlynedd pan ymrwymodd pleidiau gwleidyddol a'r mân bleidiau eraill a oedd yn rhan o'r broses o graffu ar y gwaith hwnnw i dargedau uchelgeisiol ar gyfer tai a llwyddo i gyflawni pethau rhyfeddol, rwy'n credu, ar ran pobl Cymru a'r DU gyfan.