Part of the debate – Senedd Cymru am 5:32 pm ar 9 Ionawr 2019.
Diolch i'r Ceidwadwyr am gyflwyno'r ddadl heddiw ar dai. Rydym yn cefnogi cynnig y Ceidwadwyr heddiw; rydym yn credu ei fod yn eithaf clir ac yn canolbwyntio ar yr angen i gynyddu'r cyflenwad tai. Mae'n weddol hyblyg mewn gwirionedd o ran yr awgrymiadau y mae'n eu gwneud ynglŷn â sut i gynyddu'r cyflenwad hwnnw.
Mae gwelliant Llafur yn dilyn patrwm penodol rydym yn dod yn gwbl gyfarwydd ag ef yn y Cynulliad, yn yr ystyr ei fod yn datgan yn y bôn fod Llywodraeth Cymru yn gwneud digon. Yn aml, dyma a gawn gan welliannau'r Llywodraeth. Ac wrth gwrs, rwy'n derbyn bod Llywodraeth Cymru yn gwneud pethau ym maes tai, ond y perygl, wrth gwrs, yw hunanfodlonrwydd. Os edrychwn ar gynnig y Ceidwadwyr a gwelliant y Blaid Lafur gyda'i gilydd, mae'n amlwg fod anghysondeb rhwng y ddau darged gwahanol ar gyfer adeiladu tai. Rwy'n credu bod targed y Blaid Lafur yn weddol fach a hyd yn oed os caiff ei gyrraedd, ni fydd yn ateb y galw am dai fforddiadwy yng Nghymru yn llawn. Felly, nid ydym ni yng ngrŵp UKIP yn cytuno'n llwyr â'r gwelliant Llafur, a byddwn yn ei wrthwynebu heddiw.
Roeddwn yn mynd i ddweud bod gwelliannau Plaid Cymru'n codi materion rydym yn cytuno â hwy'n rhannol, ond wedyn gwnaeth Leanne Wood achos da iawn dros yr angen i ganolbwyntio ar dai cymdeithasol, a chafodd hynny ei ategu gan ystadegau. Felly, rwy'n credu bod angen i ni edrych ar ba lefel o dai cymdeithasol y mae angen inni ei hystyried. Yn bendant, rwy'n credu bod angen canolbwyntio ar dai cymdeithasol i raddau helaeth, ond ni chredaf y dylem o reidrwydd ganolbwyntio ar dai cymdeithasol ac eithrio popeth arall. Credaf fod angen cymysgedd o dai newydd fforddiadwy. Mae rhan o welliannau Plaid Cymru yn ymdrin yn drylwyr â mater digartrefedd, sydd, wrth gwrs, yn destun pryder enfawr. Credaf fod cymaint o elfennau'n perthyn i'r mater er hynny, ac efallai fod angen dadl arall ar gyfer ymdrin â'r pwyntiau hynny.
Nawr, mae gan Lafur darged o 20,000 o gartrefi fforddiadwy newydd dros gyfnod o bum mlynedd, sy'n cyfateb i 4,000 o gartrefi y flwyddyn. Heddiw, mae'r Ceidwadwyr yn datgan targed, gan gyfeirio at eu hadroddiad cynharach, o 100,000 mewn cyfnod o 10 mlynedd, sy'n cyfateb i 10,000 o gartrefi'r flwyddyn. Mae gennym ffigurau gan Dr Alan Holmans hefyd a oedd yn awgrymu y gallai Cymru fod angen 12,000 o gartrefi newydd y flwyddyn. Felly, os yw Dr Holmans yn gywir, mae targed y Ceidwadwyr i'w weld yn fwy ystyrlon nag un Llafur. Heddiw bydd y Gweinidog tai yma'n cytuno yn ôl pob tebyg nad oes unrhyw darged yn ystyrlon mewn gwirionedd oni bai ei fod yn gyraeddadwy, ond mae'n well gennym uchelgais ehangach y targed Ceidwadol.
Problem arall yw sut i sicrhau bod y cartrefi a adeiladir yn fforddiadwy mewn gwirionedd, ac mae hon yn broblem fawr gyda llawer o ddatblygiadau preifat; pan fyddant yn dod ar y farchnad, nid ydynt yn fforddiadwy i lawer o bobl a cheir problemau hefyd o ran faint o dai fforddiadwy sy'n rhan o'r cytundebau cynllunio ar y cychwyn. Weithiau, ymddengys bod hyn yn cael ei ddiystyru pan fydd cwmnïau adeiladu tai'n datblygu eu cynlluniau. Felly, credaf fod angen edrych ar hynny. Mater cynllunio yw hynny.
Rwy'n credu y gallai fod ffyrdd eraill o gael mwy o dai fforddiadwy drwy ddefnyddio'r sector preifat. Er enghraifft, mae angen inni edrych yn fanylach ar dai modiwlar, sy'n gymharol rhad i'w hadeiladu, yn bosibl eu codi'n gyflym, ac yn gallu helpu i greu swyddi. Ond mae adeiladu'r mathau hyn o dai yn galw am sgiliau gwahanol yn lle dulliau traddodiadol o adeiladu tai, felly mae angen inni sicrhau bod gennym ddigon o bobl fedrus i weithio ar y cynlluniau hyn. Gwn fod y Gweinidog tai blaenorol, Rebecca Evans, yn gweithio i ddatblygu'r sector hwn, a gobeithiaf y bydd ei holynydd galluog iawn yn parhau gyda'r gwaith hwn. Mae'n galw am ddull rhyngweithiol rhwng Llywodraeth Cymru, y sector preifat a cholegau addysg bellach.
Hefyd, mae angen inni annog mwy o ddatblygiadau mewnlenwi a datblygiadau tai ar raddfa fach, sy'n tueddu i fod yn ddeniadol, nid i'r cwmnïau adeiladu mawr ond yn hytrach i'r busnesau bach a chanolig y credaf fod angen iddynt chwarae rhan fwy yn y diwydiant adeiladu tai yng Nghymru. Hefyd gallem wneud mwy i annog datblygu safleoedd tir llwyd. Ceir cryn dipyn o alw hefyd gan bobl sy'n awyddus i adeiladu eu cartrefi eu hunain. Yn ôl arolygon barn, mae oddeutu 53 y cant o bobl wedi mynegi diddordeb yn hyn, ac mae cyfraddau hunanadeiladu yn llawer uwch yn rhai o'r gwledydd Ewropeaidd gorllewinol nag yma yng Nghymru—yn arbennig Awstria, lle y mae 80 y cant o dai wedi'u hunanadeiladu. Yn y DU, y ffigur yw 7 y cant i 10 y cant yn unig. Felly, nid wyf yn gwybod a allwn wneud rhywbeth yng Nghymru i annog y rhan hon o'r sector tai.
Mae yna bethau eraill y gallwn eu gwneud i liniaru'r—[Torri ar draws.] Wrth gwrs, iawn.