1. Teyrngedau i Steffan Lewis AC

Part of the debate – Senedd Cymru am 1:10 pm ar 15 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 1:10, 15 Ionawr 2019

Mae yna gadair wag y tu cefn i mi. Mae'n gadair sydd wedi bod yn cael ei chadw yn gynnes i Steff fyth ers iddo ddechrau ar ei frwydr yn erbyn canser ychydig dros flwyddyn yn ôl. Mae'n teimlo fel ddoe. Roeddwn i'n edrych ar ei decst o y diwrnod o'r blaen: 'Fedri di ddod allan o'r pwyllgor i siarad efo fi?', meddai fo. Ac mi oedd hwnnw'n ddiwrnod tywyll.

Ond mi oedd Steff yn benderfynol o barhau i fwrw ei oleuni arnon ni. Mi fyddai'n dal i ddod yma, fel rydyn ni wedi clywed, yn enwedig ar gyfer trafodaethau ar faterion Ewropeaidd, neu i fynnu chwarae teg dros ryw achos neu'i gilydd yng Ngwent a'r de-ddwyrain, bro ei febyd oedd mor annwyl iddo fo.

Yn ei ugeiniau cynnar oedd o pan greodd o argraff arnaf i'n gyntaf. Roeddwn i'n cyflwyno rhaglen hystings deledu o Lynebwy yn ystod isetholiad ym Mlaenau Gwent, a Steff oedd ymgeisydd Plaid Cymru—ymgeisydd ifanc iawn, rhyw 21 oed, dwi'n meddwl oedd o. Dwi'n cofio meddwl ar y pryd, 'Waw, mae hwn yn dda', ac mi oedd o'n dda iawn. Roedd o'n arbennig iawn.

Pleser pur wedyn oedd cael dod yn gydweithiwr iddo fo maes o law, ac i'w alw fo'n ffrind—fi yn etholedig yn gyntaf, er ei fod o ym Mhlaid Cymru ymhell o'm blaen i, yntau yn aelod cwbl allweddol o'r tîm, ac yna mi gafodd o ei ethol. Ac mi oedd cael dod yn Aelod o'n Senedd genedlaethol ni yn golygu popeth iddo fo. I Steff, braint oedd bod yma, yn gwasanaethu ei gymuned, yn gwasanaethu Cymru, ond braint y gymuned honno, braint Cymru a'n braint ninnau i gyd oedd bod Steff wedi penderfynu ymroi i wasanaethu'r genedl yn ei Senedd.

Dyn addfwyn, dyn teg, gwleidydd teg. Dyn anhunanol. Mi welon ni hynny yn y ffordd yr oedd o mor eiddgar i helpu cleifion eraill drwy siarad yn agored am ei ganser. Dyn meddylgar, yn dewis ei eiriau'n ofalus. Roedd o'n atgoffa fi am fy niweddar fam yn hynny o beth, a hithau wedi rhoi cymaint dros Gymru mewn llawer ffordd. A minnau'n clywed mewn teyrngedau iddi hi, 'Byddai dy fam yn dal yn ôl, wedyn pan fyddai hi'n siarad, mi oedden ni'n gwybod bod ganddi hi rywbeth i'w ddweud, ac mi fyddai pawb yn gwrando'. Ac felly oedd Steff. Steff, allaf i ddim rhoi llawer mwy o deyrnged i ti na drwy ddweud dy fod ti'n atgoffa fi o mam. Mi oedd cyfraniad Steff bob amser yn werthfawr.