Part of the debate – Senedd Cymru am 1:15 pm ar 15 Ionawr 2019.
Roeddwn wedi clywed ers amser am Steffan Lewis gan fy nghyn gyd-Aelod a chyd-Weinidog yn y Cynulliad, Jocelyn Davies, a oedd mor falch o'r ymgyrchydd gwleidyddol ifanc hwn a oedd wedi gwirfoddoli yn ei swyddfa hi. A phan ddywedodd hi wrthyf ei bod yn bwriadu ymddiswyddo cyn etholiad 2016, dywedodd ei bod yn falch y byddai hwnnw'n gyfle i Steffan gymryd ei le yn y Cynulliad fel olynydd iddi hi yn Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros ranbarth y de ddwyrain.
Wrth gwrs, roedd llawer ohonom ni'n adnabod Steffan yn sgil ei waith y tu ôl i'r llenni cyn 2016, yn gweithio fel awdur areithiau i Leanne, ac roeddem yn gwybod—roeddem yn gwybod—y byddai ef yn unigolyn aruthrol pan ddeuai'r amser iddo ef ymuno â byd gwleidyddiaeth cyhoeddus fel Aelod Cynulliad. Ac, wrth gwrs, fe adawodd ei farc o'r diwrnod cyntaf y daeth yn Aelod, yr ieuengaf a etholwyd yn 2016. Rwy'n cofio, fel y bydd llawer hefyd, i Steffan gymryd ei sedd yma yn y Siambr gyda hyder ac eglurder, ond hefyd yn wylaidd o ran ei swydd a'r cyfle yr oedd wedi ei gael—yn glir o ran ei wleidyddiaeth, wrth gwrs. Cofiaf iddo ddweud—a gallwch chi gofio hynny, a'i gydweithwyr hefyd—na fyddai ef yn defnyddio ei gyfrifiadur, oherwydd ei fod yn awyddus i gymryd rhan lawn yn y dadleuon. Nid oedd ef am gael ei gyhuddo fel y cawn ni'n aml: 'Beth ydych chi'n ei wneud yn rhythu ar eich cyfrifiadur o fore gwyn tan nos?' A chredaf iddo gadw at yr addewid honno. Felly, os oedd angen cael gafael arno, roedd yn rhaid ei gael allan o'r Siambr neu anfon neges destun ato.
O'r cychwyn roedd yn barod i weithio y tu hwnt i ffiniau'r pleidiau i gyflawni nodau ac amcanion cyffredin, ac fe gymerodd ef yr awenau yn llefarydd ei blaid wrth inni symud yn fuan tuag at fyd y refferendwm a orfodwyd arnom, gan weithio gyda Llafur ar 'Ddiogelu dyfodol Cymru'. Ac wrth gwrs mae hynny wedi sefyll prawf amser heddiw, fel y dywedodd y Prif Weinidog heddiw, ac yn wir yr wythnos diwethaf. Ond roedd hefyd yn llefarydd cyllid cadarn ac yn arbenigwr yn y maes. Eisteddai ar y pwyllgorau cyllid a'r pwyllgorau materion allanol, fel y gwnawn innau, a phan ymunais â'r pwyllgorau hynny fis Tachwedd diwethaf, roeddwn i'n eu mwynhau nhw gymaint yn fwy pan oedd ef yn gallu ymuno â ni, fel y soniodd Dai Rees, er gwaethaf ei salwch cynyddol a'i driniaethau blin, yr oedd yn eu hwynebu gyda'r fath ddewrder, a bydd pob un ohonom wedi dysgu oddi wrtho. Ond ni fyddai byth, fel y dywedais, yn gadael unrhyw Weinidog Llafur neu gydweithiwr oddi ar y bachyn o ran ei waith craffu, ond roedd bob amser yn gefnogol pan welai achos cyffredin.
Hoffwn dalu teyrnged hefyd i waith Steffan yn hyrwyddo pwysigrwydd Cymru yn y byd, a phwysigrwydd materion allanol. Felly, fe drosglwyddodd yr awenau i mi o ran swyddogaeth y rapporteur yr oedd ef wedi ei wneud gyda Jeremy Miles, pan oedd ef ar y pwyllgor, yn edrych ar gyfleoedd i Gymru yn y byd fel rhan o'n cyfrifoldebau tuag at ddatblygiad rhyngwladol—a gwn y bydd Eluned Morgan yn dwyn hyn yn ei flaen—ond hefyd ar ôl Brexit, yn benderfynol o sicrhau nad oedd Cymru yn cael ei hanwybyddu ac yn cael ei chydnabod o ran diplomyddiaeth, yn ddiwylliannol, yn gymdeithasol ac yn economaidd.
Soniwyd eisoes am y daith gerdded gyda Steff, a drefnwyd gan Nia fis Gorffennaf diwethaf. Rwy'n cofio cerdded gyda Dai Lloyd a Jeff Cuthbert ar hyd y gamlas i'r Coed Duon. Bydd yn atgof parhaol i bob un ohonom, a chofiaf y cwtsh gyda Steffan ar y daith honno. I Steffan, roedd mor bwysig ei fod yn codi'r arian hwnnw at Felindre. Ac wrth gwrs, gyda hynny, rwy'n meddwl am ei deulu ac yn cydymdeimlo o'r galon â nhw heddiw, a hefyd yn yr wythnosau a'r misoedd a'r blynyddoedd i ddod.
Steffan, rydych chi wedi gadael etifeddiaeth fawr ar eich ôl yn Gymro Ewropeaidd angerddol, ac yn ddinesydd byd rhyngwladol. Byddwn yn parhau i helpu i fynd ar drywydd yr amcanion hynny er cof amdanoch, oherwydd roeddech chi'n graff iawn yn eich gweledigaeth wleidyddol ac fel unigolyn a gwleidydd balch a neilltuol o Gymru.