Part of the debate – Senedd Cymru am 1:14 pm ar 15 Ionawr 2019.
Heddiw, rydyn ni'n dweud, 'Diolch, Steff'. Rydyn ni'n dy golli di ac yn colli'r hyn y byddet ti wedi ei wneud droson ni, ond yn diolch am bopeth a wnest ti, am osod y sylfaeni ar gyfer Cymru annibynnol. Rydyn ni'n diolch am dy weledigaeth a dy arweiniad mewn bywyd mor fyr. Do, mi gadwon ni dy gadair yn gynnes, ond nid felly yr oedd hi am fod. Rŵan, mi wnawn ni bopeth i gadw dy fflam ynghyn. Heddwch iti, Steff.