Part of the debate – Senedd Cymru am 1:23 pm ar 15 Ionawr 2019.
Fel pawb yn y Siambr heddiw, dwi hefyd, wrth gwrs, yn anfon fy nghydymdeimlad dwysaf at Shona, Celyn, Gail, Nia a'r teulu i gyd, a dwi am ddiolch i chi am rannu Steffan efo ni. Cafodd ei gipio i ffwrdd yn llawer rhy gynnar, ac mae ei golled yn un drom i'w deulu, yn anad neb, ond hefyd i Blaid Cymru, i bobl y de-ddwyrain, i'r Cynulliad ac i Gymru. Fe gyfrannodd cymaint, ac fe fydd ei ddisgleirdeb yn goleuo'r ffordd i ni. Fe fydd yn ysbrydoliaeth ac fe fydd yn cerdded efo ni ar y daith tuag at y Gymru rydd.
Gwnes i ddod ar draws Steff am y tro cyntaf mewn cyfarfod cyhoeddus ym Mhen-y-groes yn etholaeth Arfon. Roedd Alun Ffred wedi mynnu bod yr hogyn ifanc, disglair yma o Went yn dod atom ni i rannu ei weledigaeth, a dyna a wnaeth, mewn ffordd feddylgar, fanwl, dawel, ond mewn ffordd hollol argyhoeddedig a chredadwy. Roedd ganddo freuddwyd, ac roedd yn credu y byddai'r freuddwyd yn cael ei gwireddu. Dros y blynyddoedd wedyn, byddwn yn cwrdd â Steff mewn cynadleddau a digwyddiadau'r blaid, ac yn 2016, fe ddaeth y ddau ohonnon ni'n Aelodau Cynulliad am y tro cyntaf, a chefais y fraint o eistedd drws nesa iddo fo tan yn weddol ddiweddar.
Fel y clywsom ni yn barod, doedd o ddim yn licio'r sgrin gyfrifiadurol, ac felly, os oedd o eisiau anfon neges at y Llywydd, yn aml byddai'n rhaid mynd drwy fy sgrin i, a finnau wedyn yn tynnu ei goes, 'Nid fi yw dy ysgrifennydd personol di, Steff', ac mi fyddai yntau yn tynnu fy nghoes innau hefyd. Er enghraifft, pan oeddwn i'n defnyddio pob cyfle posibl i wthio am ysgol feddygol i Fangor, mi fyddwn i'n cael, 'Chi gogs yn rhy swnllyd o lawer.' Dyna un ymadrodd y byddai o'n hoff o ddefnyddio. Mi oeddwn i wrth fy modd efo'i ymadroddion bachog. Roeddwn i wrth fy modd yn clywed ei areithiau gofalus, grymus, ond byddai'r asides bach bachog pan fyddai Aelod arall yn siarad yn rhoi gwen ar fy wyneb i. 'Mae hyn yn ofnadwy', pan oedd Gweinidog yn gwrthod ateb cwestiwn neu'n traethu'n ddiflas, a bydda o'n casáu clywed Aelodau'n cyfeirio at y Deyrnas Unedig fel 'our nation', 'our country'. Fe fyddai o bob tro yn cywiro hynny o dan ei wynt—'Cymru ydy'n cenedl ni. Cymru ydy'n gwlad ni.' A pheth arall oedd yn ei gorddi fo oedd cyfeirio at Gymru fel 'cenedl fechan'. 'Ni ddim yn fach', byddai o'n mynnu, 'Ni'n genedl fwy na nifer o wledydd annibynnol eraill.'
Wrth gerdded i'r Siambr neu wrth aros cyn areithio tu ôl i lwyfan, fe fyddai Steff yn dweud hyn wrthyf i, 'Dyma ni, Siân Gwenllian'—'Siân Gwenllian', byth 'Siân'; wastad fy enw llawn—'Dyma ni, Siân Gwenllian, y fenyw o Wynedd, a'r bachan o Went. Awn amdani. Let's go, let's show 'em how it's done.' Gwnaf i fyth anghofio'r geiriau hynny. Roedden ni'n cynrychioli ardaloedd gwahanol iawn i'w gilydd, ond fe wnaeth y bachan o Went gryn argraff arnaf i. A bydd y bachan hynaws, disglair, egwyddorol wastad efo ni yn y Senedd, yn ein cynadleddau ni, yn fy mywyd pob dydd, achos bydd y bachan o Went wastad yn fy nghalon, yn ein calonnau. Steff, mae dy freuddwyd yn fyw, ac fe fydd y freuddwyd yn dod yn wir. Cwsg mewn hedd, gyfaill annwyl.