Cwestiwn Brys: Y Ffatri Beiriannau ym Mhen-y-bont ar Ogwr

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 15 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:00, 15 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ateb? Bydd yn deall, wrth gwrs, bod y cyhoeddiad wedi achosi ansicrwydd mawr ymhlith gweithwyr yng ngwaith Ford a'u teuluoedd. Gweinidog, a wnewch chi ymrwymo i fonitro'r sefyllfa yn ofalus, ac i weithio gyda Ford Ewrop, gyda'r rheolwyr a'r undebau yng ngwaith Pen-y-bont ar Ogwr a hefyd gyda'r rhai sy'n cynrychioli Pen-y-bont ar Ogwr i sicrhau dyfodol y gwaith ac, wrth gwrs, ei weithlu ymroddedig?