2. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 15 Ionawr 2019.
1. Sut y bydd y Prif Weinidog yn sicrhau y rhoddir blaenoriaeth i iechyd emosiynol a meddyliol plant a phobl ifanc drwy gydol tymor y Cynulliad hwn? OAQ53224
Llywydd, cyhoeddodd y Llywodraeth ddoe y byddai £7.1 miliwn arall yn cael ei fuddsoddi o fis Ebrill eleni i gynorthwyo iechyd emosiynol a meddyliol ein plant a'n pobl ifanc. Mae'r ymrwymiad hwn yn sail i'n hymateb i'r argymhellion a geir yn yr adroddiad 'Cadernid Meddwl'.
Diolch, Prif Weinidog, ac roeddwn i'n falch iawn o glywed am y £7.1 miliwn ychwanegol hwnnw a gyhoeddwyd ddoe. Fel y byddwch chi'n ymwybodol, mae cefnogaeth drawsbleidiol gref i 'Cadernid Meddwl', ac rwy'n credu ei fod yn cyflwyno map ffordd eglur ar gyfer gweddnewid iechyd emosiynol a meddyliol ein plant a'n pobl ifanc. Wedi dweud hynny, nid wyf i o dan unrhyw gamargraff ynghylch maint yr her a wynebwn, ac un pryder arbennig yw'r cynnydd i nifer y bobl ifanc sy'n marw drwy hunanladdiad yng Nghymru a chynnydd cyffredinol i'r gyfradd hunanladdiad o 12 y cant sy'n mynd yn groes i'r tueddiad o ostyngiad i nifer yr achosion o hunanladdiad yng ngweddill y DU.
A yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi bod buddsoddi yn iechyd emosiynol a meddyliol ein plant a'n pobl ifanc yn hollbwysig os ydym ni'n mynd i atal y duedd honno? A pha sicrwydd allwch chi ei roi y bydd rhywfaint o'r arian ychwanegol hwn—cyfran sylweddol o'r arian ychwanegol hwn—yn cael ei chyfeirio at y camau ymyrraeth gynnar ac atal a argymhellir gan 'Cadernid Meddwl'?
Diolchaf i Lynne Neagle am y cwestiwn atodol yna a diolchaf iddi am y gwaith y mae hi wedi ei arwain, drwy'r pwyllgor, a gefnogwyd mor eang ar draws Siambr y Cynulliad. Bydd yn gwybod bod cyfres gynhwysfawr o gamau gweithredu yn cael eu cymryd, y mae hi ei hun yn chwarae rhan uniongyrchol ynddynt, er enghraifft, drwy'r grŵp gorchwyl a gorffen gweinidogol ar yr adroddiad, a chamau gweithredu pellach a fydd yn digwydd drwy eraill, gan gynnwys pobl ifanc eu hunain, yr ydym ni eisiau gwneud yn siŵr eu bod yn cael eu cynnwys yn uniongyrchol yn y ffordd y caiff y gwasanaethau hyn eu datblygu yn y dyfodol, oherwydd mae'r bobl ifanc hyn yn gwneud yr union bwynt a wnaeth Lynne Neagle wrth gloi yn y fan yna—sef mae'r hyn y maen nhw ei eisiau pan fyddan nhw'n mynd drwy'r cyfnodau anodd sy'n aml yn codi wrth dyfu i fyny, yw ymateb sy'n cydnabod hynny. Nid ydyn nhw eisiau ymateb iechyd meddwl; maen nhw eisiau ymateb y byddai unrhyw berson ifanc yn gallu ei ddefnyddio. Dyna pam yr ydym ni wedi darparu, fel y byddwn yn clywed yn ddiweddarach y prynhawn yma, £2.5 miliwn ychwanegol y flwyddyn nesaf ar gyfer y gwasanaeth ieuenctid, fel y gall chwarae ei ran fel gwasanaeth cyffredinol, gan wneud yn siŵr bod oedolion ar gael y gall pobl ifanc sy'n wynebu cyfnodau anodd yn eu bywydau gyfarfod â nhw ac archwilio a chael y cymorth sydd ei angen arnynt.
Cyn belled ag y mae hunanladdiad yn y cwestiwn, rydym ni'n iawn i fod yn bryderus, wrth gwrs, pan fydd unrhyw newid andwyol i nifer yr achosion o hunanladdiad, yn enwedig ymhlith pobl ifanc yma yng Nghymru. Mae'r niferoedd yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn. Roedd amrywiad eleni yn fach o ran niferoedd ac nid yw'n arwyddocaol yn ystadegol, ond mae 'Siarad â fi 2' a'r camau eraill yr ydym ni'n eu cymryd yn y maes hwn yn parhau i fod yn ganolog i wneud yn siŵr bod gennym ni ymateb sy'n cyfateb i'r her y mae pobl ifanc yn ei hwynebu yn eu bywydau.
Prif Weinidog, ymunaf â chi i ganmol gwaith Lynne Neagle a'i phwyllgor, sydd wedi bod yn allweddol yn y maes hwn. A gaf i dynnu sylw at y pwysau cynyddol a achosir gan ddefnyddio'r rhyngrwyd, yn enwedig y cyfryngau cymdeithasol? Mae plant yn y DU yn treulio mwy o amser ar y rhyngrwyd erbyn hyn nag unrhyw wlad arall ar wahân i Chile yn y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, ac rydym ni ymhell uwchlaw cyfartaledd y Sefydliad. Rwy'n credu bod y rhain yn achosi pwysau nad oes llawer o bobl eraill, fel rhieni ac athrawon, yn ymwybodol ohonynt o bosibl. Ac mae gen i ofn ein bod ni'n gweld rhai digwyddiadau eithafol hefyd erbyn hyn, o ganlyniad i hyn, weithiau. Felly, mae wir angen i ni sicrhau bod gennym ni bolisi da ar gyfer rhoi'r math o gymorth i'n pobl ifanc sydd ei angen arnynt i ddefnyddio'r teclynnau newydd ardderchog hyn mewn modd cyfrifol.
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn ychwanegol yna, oherwydd mae e'n iawn bod angen i ni feddwl am sut yr ydym ni'n esbonio'r ymchwydd o bryderon iechyd meddwl ymhlith pobl ifanc yr adroddir amdanynt yng Nghymru, ond hefyd ar draws y Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd, ac i geisio nodi'r ffactorau hynny mewn amgylchiadau cyfoes a allai ein helpu ni i esbonio'r ffenomen honno. Mae bob oed yn wynebu heriau newydd o'r fath y mae'n rhaid i bobl ifanc ymdrin â nhw. Gallwch fynd yn ôl 150 o flynyddoedd a dod o hyd i adroddiadau papur newydd ar sut yr oedd penny dreadfuls a oedd ar gael i blant trwy lyfrgelloedd symudol yn gwneud gwahaniaeth ym mywydau pobl ifanc, ac rydych chi'n gweld hynny ar hyd yr oesoedd, pa un a yw'n ddyfodiad sinema neu radio neu deledu neu, yn ein hamser ein hunain, fel y dywedodd yr Aelod, y rhyngrwyd. Ond mae'r rhyngrwyd yn ffenomen wahanol mewn sawl ffordd. Pan fydd yn cael ei defnyddio'n wael, mae ganddi allu llechwraidd i ddod i mewn i fywydau pobl ifanc ac i beri gorbryder a gofid iddyn nhw. Felly, wrth gwrs, mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr bod y ffordd yr ydym ni'n llunio ein polisïau yn cymryd i ystyriaeth ffactorau newydd a ffenomena newydd o'r math y cyfeiriodd yr Aelod atyn nhw .