Part of 2. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 15 Ionawr 2019.
Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn. Mae'r tîm rheoli ym Maes Awyr Caerdydd yn monitro trefniadau diogelwch yn weithredol ac yn rheolaidd. Maen nhw'n gweithio gyda thrigolion lleol a Heddlu De Cymru, yn ogystal â hyrwyddo ymgyrchoedd diogelwch ymhlith teithwyr yn y maes awyr. Mae gwyliadwriaeth ac ymwybyddiaeth yn y maes awyr a'r cyffiniau yn gyfrifoldeb a rennir ymhlith pawb sy'n gysylltiedig ag ef.