Part of 2. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 15 Ionawr 2019.
A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am ei ateb? Yn dilyn y tarfu diweddar yn gysylltiedig â dronau ym meysydd awyr Gatwick a Heathrow, ac, wrth gwrs, y digwyddiad ar bont croesfan Hafren, a wnaiff y Prif Weinidog amlinellu pa fesurau y mae wedi eu cymryd i sicrhau bod gan Gymru strategaeth ar waith i sicrhau bod y tarfu a achosir i seilwaith hanfodol Cymru cyn lleied â phosibl mewn achos o ddefnydd amhriodol o ddrôn yn y dyfodol?