Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:40 pm ar 15 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Gareth Bennett Gareth Bennett UKIP 2:40, 15 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi am egluro eich safbwynt ar hynny. Nawr, ar y mater o amrywio treth incwm, mae hynny'n rhywbeth sydd i ddod yn ddiweddarach heddiw—mae'n swnio efallai mai eich safbwynt hirdymor yw y gallai amrywio'r gyfradd treth incwm yng Nghymru fod yn ysgogiad y gallwch chi ei ddefnyddio'n gyfreithlon, ac y gallech chi fod yn frwdfrydig ynghylch ei ddefnyddio yn y dyfodol.