2. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 15 Ionawr 2019.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd yr wrthblaid, Paul Davies.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, a wnewch chi nawr achub ar y cyfle heddiw i ymddiheuro'n gyhoeddus i'r ffermwyr hynny y cyhoeddwyd eu manylion cyfrinachol y llynedd gan Lywodraeth Cymru i grwpiau actifyddion hawliau anifeiliaid?
Rhoddwyd sylw i hyn droeon fel problem. Nid wyf i'n credu bod unrhyw beth arall y mae angen i mi ei ychwanegu at yr hyn a roddwyd ar y cofnod lawer gwaith eisoes ynglŷn ag ef.
Wel, rwy'n hynod siomedig na all y Prif Weinidog ddweud 'mae'n ddrwg gen i', er mai camgymeriad gweinyddol gan eich Llywodraeth oed hwn. Eich Llywodraeth chi sydd â'r cyfrifoldeb terfynol, ac nid yw'n anodd dweud 'mae'n ddrwg gen i', Prif Weinidog, felly byddwn yn disgwyl i chi ddweud 'mae'n ddrwg gen i' ar ran Llywodraeth Cymru. Mae'n rhaid i ni gofio; roedd y ffermwyr y datgelwyd eu manylion gan Lywodraeth Cymru yn gweithredu yn unol â'r gyfraith yma yng Nghymru yn llwyr, mewn ymgais i ddiogelu eu bywoliaeth rhag ymlediad TB.
Nawr, yn ystod y flwyddyn hyd at fis Medi 2018—dyma'r ffigurau diweddaraf—bu cynnydd yng Nghymru i nifer y gwartheg a laddwyd oherwydd TB tybiedig, a chollwyd 9,700 o wartheg. Mae hyn wedi cael effaith drychinebus ar ffermwyr, eu bywoliaeth a'r economi leol, ac mae'n costio symiau enfawr o arian i'r trethdalwr. Mae'n amlwg nad ydych chi'n gwneud digon i fynd i'r afael â'r broblem hon, o gofio bod nifer y gwartheg sy'n cael eu lladd yn cynyddu. Felly, o dan yr amgylchiadau, a ydych chi'n derbyn nad oes unrhyw obaith o gwbl y bydd TB mewn gwartheg yn cael ei ddileu yng Nghymru erbyn eich dyddiad targed, sef 2041? Does bosib na ddylem ni fod yn mynd i'r afael â'r clefyd erchyll hwn ymhell cyn hynny.
Wel, Llywydd, gadewch i mi ymateb eto i ran agoriadol ail gwestiwn Paul Davies trwy ddweud, wrth gwrs, pan fydd pethau'n mynd o chwith, ein bod ni'n eu cydnabod, fel y gwnaethom ar y pryd, gan ddweud y pethau angenrheidiol bryd hynny. O ran ei bwynt cyffredinol, wrth gwrs, rwy'n cytuno â llawer o'r hyn sydd ganddo i'w ddweud; mae TB mewn gwartheg yn brofiad ofnadwy i ffermwyr y mae'n rhaid iddyn nhw ei wynebu, ac mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos iawn gyda'r diwydiant i wneud yn siŵr ein bod ni'n gallu gwneud popeth y gallwn ni eu rhoi ar waith yr ydym ni'n credu sy'n effeithiol i fynd i'r afael â'r clefyd. Ceir llawer o bethau da sydd wedi digwydd o ganlyniad i'r holl ymdrechion hynny, gan gynnwys gwell bioddiogelwch ar ffermydd, gan gynnwys gallu olrhain gwell a phrofi gwell hefyd, sy'n esbonio'n rhannol rhai o'r ffyrdd y mae'r niferoedd y cyfeiriodd atyn nhw yn cynyddu. Oherwydd os oes gennych chi well dealltwriaeth o'r clefyd, eich bod chi'n ymwybodol o ba mor gyffredin ydyw, yn gwybod lle gellir dod o hyd iddo, yna—ac mor aruthrol o anodd yr wyf i'n ei ddeall yw hynny i'r ffermwyr dan sylw—mae'n rhaid i ymdrin â gwartheg sydd wedi'u heintio fod yn rhan o'r ffordd y bydd dileu'r clefyd yn y tymor hir yn cael ei wireddu.
Wel, yn amlwg, nid yw polisi eich Llywodraeth yn gweithio'n effeithiol; fel arall ni fyddem ni'n lladd y nifer o wartheg yr ydym ni'n eu lladd mewn gwirionedd. Gadewch i mi dynnu eich sylw at y sefyllfa yn ne-orllewin Lloegr. Yn Swydd Gaerloyw a Gwlad yr Haf, bu gostyngiad o 50 y cant i nifer yr achosion o TB yn y pedair blynedd diwethaf, sy'n gwrthgyferbynnu'n llwyr â de-orllewin Cymru, lle, er gwaethaf y ffaith bod mesurau bioddiogelwch llym ar waith, nad yw nifer yr achosion o TB mewn buchesi wedi newid. Yn wir, rydym ni wedi gweld nifer y gwartheg a laddwyd oherwydd TB buchol yn cynyddu. Nawr, yng ngoleuni'r corff cynyddol o dystiolaeth, a wnewch chi ailystyried safbwynt eich Llywodraeth nawr ar strategaeth dileu TB a chefnogi strategaeth sy'n diogelu ein poblogaethau bywyd gwyllt a gwartheg rhag y clefyd ofnadwy hwn ar frys?
Wel, rwy'n cytuno ag ef eto, Llywydd, am natur ofnadwy y clefyd a'r effaith y mae'n ei chael yn y gymuned ffermio. Rwy'n credu ei fod yn awgrymu yn ei gwestiwn bod rhyw fath o ateb syml a hawdd yn aros ar silff dim ond i gael ei ddefnyddio yn y fan yma. Mae'n gwybod, onid yw, nad yw hynny'n wir. Lle ceir gwersi o fannau eraill, yna wrth gwrs rydym ni eisiau eu dysgu nhw, yn union fel y mae eraill yn dysgu o rywfaint o'r profiad yr ydym ni wedi ei gael o weithio'n llwyddiannus gyda'r diwydiant yma yng Nghymru. Bydd fy nghyd-Aelod Lesley Griffiths yn adrodd ar y drefn bresennol sydd gennym ni ar gyfer profi a dileu'r clefyd yng Nghymru, a lle gallwn ni wneud yn well, yna wrth gwrs, mae gennym ni i gyd uchelgais cyffredin i wneud hynny.
Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Diolch, Llywydd. Hoffwn achub ar y cyfle hwn i gofnodi ymhellach gyfraniad aruthrol ein cyfaill a'n cydweithiwr Steffan Lewis i fywyd cenedlaethol drwy holi ynghylch tri o'r achosion oedd yn agos at ei galon.
Cyfraniad cyntaf Steffan Lewis yn y Senedd hon oedd cefnogi cymunedau mwyngloddio ledled Cymru ac, yn arbennig, anghyfiawnder Cynllun Pensiwn y Glowyr. Fel y bydd y Prif Weinidog yn sicr yn ymwybodol, arweiniodd cytundeb yn y 1990au i Lywodraeth y DU gytuno i warantu pensiynau glowyr, ond yn gyfnewid gall gael 50 y cant o'r gwarged bob blwyddyn. Dros y degawdau, mae Llywodraeth y DU wedi elwa o £8 biliwn o'r gwarged hwn, ar gyfradd o £1 filiwn y dydd. Roedd Steffan yn hyrwyddwr achos y glowyr, gan gefnogi eu deiseb a gwneud sylwadau dirifedi i Lywodraeth y DU. Dywedodd y Gweinidog Gwladol dros Fusnes, Ynni, a Strategaeth Ddiwydiannol ym mis Gorffennaf y llynedd y byddai'n archwilio dewisiadau ar gyfer dyfodol y cynllun, gan wneud ychydig iawn o gynnydd hyd yma, mae'n ymddangos. Felly, a all y Prif Weinidog ymrwymo heddiw i gefnogi ymdrechion y cyn-lowyr, ac a wnaiff ef gyfarfod â dirprwyaeth o'r ymgyrch i fapio sut y gallwn ni sicrhau cytundeb tecach, gan roi cyfran fwy o'r gwarged y mae'r cynllun yn ei gynhyrchu i'r glowyr?
Diolch i Adam Price am y cwestiwn, Llywydd. Wrth gwrs, dwi'n cydnabod ei bod hi'n addas i ganolbwyntio y prynhawn yma ar bethau roedd Steffan Lewis wedi'u cefnogi yma yn y Siambr.
Rwyf yn cofio, Llywydd, nid yn hir ar ôl i Steffan gyrraedd yn y Cynulliad, roeddwn i'n ymateb i ddadl fer yma yn y Cynulliad, ac am resymau nad wyf i'n gallu eu cofio erbyn hyn, cyfeiriais at Ddydd Llun Mabon. A meddyliais pan y'i dywedais, 'Wel, pwy ar y ddaear arall fydd yn gwybod yma?' Ac edrychais i fyny, a dyna lle'r oedd Steffan a Dai Lloyd yn eistedd yn y rhes gefn, y ddau'n amneidio, a meddyliais, 'Wel, pa fforwm democrataidd eraill ydych chi'n debygol o'i ganfod lle gallwch chi wneud cyfeiriad at rywbeth sy'n ddwfn yn ein hanes a gwybod y bydd pobl mewn rhannau eraill o'r Siambr sydd mor gyfarwydd ag ef ag y byddech chi'n gobeithio y byddai pobl?'
Felly, yn benodol o ran ei gwestiwn, yna, wrth gwrs, mae'r Llywodraeth hon eisiau cefnogi ymdrechion cyn-lowyr, ac rwy'n hapus iawn i wneud ymrwymiad i gyfarfod â dirprwyaeth yr ymgyrch honno i fapio ffyrdd y gallwn ni gydweithio yn y dyfodol.
Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Prif Weinidog. Yn rhan o gyllideb 2018-19, trafododd a sicrhaodd Plaid Cymru, ar gais Steffan, ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i ailgyflwyno ward iechyd meddwl amenedigol cleifion mewnol yng Nghymru. Roedd Steffan mor angerddol ynghylch gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol fel bod y Prif Weinidog, yn ystod ei gyfnod fel Gweinidog cyllid, wedi cynnwys cyllid ar gyfer ailsefydlu'r gwasanaeth. A all y Prif Weinidog gadarnhau heddiw, mewn ymateb i ymdrechion Steffan, y bydd ei Lywodraeth yn gwneud popeth sy'n angenrheidiol i sicrhau y bydd yr holl famau beichiog neu newydd yng Nghymru yn cael y driniaeth iechyd meddwl amenedigol sydd ei hangen arnyn nhw yng Nghymru, ac na fydd neb yn cael ei roi yn y sefyllfa drist o orfod cael eu gwahanu o bosibl oddi wrth eu baban a'u teulu i gael triniaeth?
A wnaiff ef hefyd ystyried ymchwilio i syniad Steffan ar gyfer creu canolfan ragoriaeth ar gyfer arloesedd gofal iechyd yn Nhredegar, gan ddathlu ei orffennol, wrth gwrs, fel man geni'r GIG, a'i wneud yn sail hefyd i lunio ei ddyfodol?
Wel, Llywydd, mae'n debyg fy mod i'n fwy cyfarwydd â'r cyntaf o'r ddau osodiad hynny na'r ail. Gwnaed llawer yng Nghymru i wella iechyd meddwl amenedigol, gan ganolbwyntio, yn y lle cyntaf, ar wella gwasanaethau cymunedol. Oherwydd yn anad dim, ni fyddem ni eisiau i fenywod a'u babanod orfod cael gofal i ffwrdd o'u cartrefi eu hunain pan eu bod yn mynd drwy'r mathau hynny o brofiadau. Ond y trafodaethau a gawsom—ac rwy'n cofio eu cael gyda Steffan Lewis hefyd—oedd, pan fo angen triniaeth fel cleifion mewnol, yna wrth gwrs rydym ni eisiau i honno fod mor agos at gartrefi pobl ag y gall fod. Gwn fod Siân Gwenllian yr wythnos hon wedi mynegi pryderon am y gwasanaethau hynny yn y gogledd, ac y bu'r Gweinidog yn ateb cwestiynau gerbron y pwyllgor ar y gwasanaethau hyn hefyd. Felly, mae gennym ni ymrwymiad parhaus a rennir i wella triniaeth iechyd meddwl amenedigol, yn y gymuned, ac yn yr achosion mwy prin hynny pan fydd menywod a'u babanod angen gofal mwy dwys ac fel cleifion mewnol, ac i geisio gwneud yn siŵr bod honno ar gael yn briodol iddyn nhw mor agos â phosib at eu cartrefi, lle bynnag y gallai hynny fod yng Nghymru.
Wel, yn sicr, ar ein hochr ni, bydden ni'n falch o gael y cyfle, efallai, i eistedd lawr gyda'r Prif Weinidog a'r Ysgrifennydd iechyd i barhau â'r drafodaeth yna.
Dŷn ni wedi clywed, wrth gwrs, yn gynharach gymaint o ddylanwad roedd Steffan wedi ei gael o ran siapio a llunio ymateb y lle hwn, y Llywodraeth, a Chymru, a dweud y gwir, i Brexit. Ac mi oedd yn llais awdurdodol, wrth gwrs, a oedd yn ennyn parch a hygrededd y tu hwnt i ffiniau pleidiol. Roedd yn amlwg ar fy ymweliad i a Rhun ap Iorwerth ag Iwerddon yr wythnos diwethaf fod Steffan wedi gwneud cryn argraff, ac ennyn parch, ar lwyfan rhyngwladol hefyd. Ac roedd Iwerddon, wrth gwrs, yn wlad mor arbennig iddo fe.
Ac yn ei ddatganiad i'r wasg olaf, fe alwodd Steffan am gynnull uwch-gynhadledd y cenhedloedd yn yr ynysoedd hyn i ganfod ffordd ymlaen o ran Brexit. A fyddai'r Prif Weinidog yn fodlon ystyried estyn gwahoddiad i'r Prif Weinidogion eraill, ar lun galwad Steffan, pe bai angen, dros y dyddiau nesaf?
Diolch, wrth gwrs, i Adam Price. Rŷm ni wedi clywed fwy nag unwaith yn y Siambr y prynhawn yma am y gwaith roedd Steffan wedi ei wneud dramor, a dwi yn cofio sgwrsio ag e pan oedd e'n dod nôl o'r Iwerddon am y bobl roedd e wedi siarad â nhw yna, am y syniadau roedd e wedi eu codi gyda nhw, ac am y gwaith roedd e'n gwneud i drio cryfhau'r berthynas rhyngom ni a'r Llywodraeth yn Iwerddon hefyd. A dwi wedi cael, yn bersonol, lythyr cynnes oddi wrth y Taoiseach, ac, wrth gwrs, dwi wedi ymateb yn yr un modd.
Mae fy swyddfa i wedi bod yn gweithio yn agos â swyddfa Prif Weinidog yr Alban dros y dyddiau diwethaf, yn siarad am beth y gallwn ni ei wneud gyda'n gilydd ar ôl y bleidlais yn Nhŷ'r Cyffredin heddiw. Ac, wrth gwrs, dwi'n fodlon ystyried beth y mae Adam Price wedi ei awgrymu y prynhawn yma, ac i'w wneud e yn y cyd-destun y gwaith rŷm ni'n ei wneud yn barod gyda'r bobl eraill yn y Deyrnas Unedig a thramor hefyd.
Arweinydd grŵp UKIP, Gareth Bennett.
Diolch, Llywydd. Ac a gaf innau hefyd achub ar y cyfle i ychwanegu fy nghydymdeimlad â theulu Steffan Lewis?
Prif Weinidog, hon yw'r adeg o'r flwyddyn pan fo'n rhaid i lawer o bobl lenwi eu ffurflenni treth, ac, felly, mae'r mater o drethiant yn eu meddyliau. Wrth gwrs, rydym ni'n gwybod na fyddai llywodraethau yn gweithredu pe na byddai gennym ni drethiant, ond byddwn yn ychwanegu, o'm harsylwadau fy hun, mai anaml y mae'r rhan fwyaf o bobl gyffredin yn frwdfrydig ynghylch y posibilrwydd o drethi, ac yn enwedig trethi newydd neu ychwanegol. Fe wnes i sylwi, yn eich swydd flaenorol fel y Gweinidog Cyllid, ei bod hi'n ymddangos eich bod wedi gyffroi cryn dipyn am bwerau trethu newydd Llywodraeth Cymru. Dyfynnaf yr hyn a ddywedasoch ar un adeg:
Dyna oedd datganoli i fod bob amser: labordy byw lle y gall gwahanol rannau o'r Deyrnas Unedig roi cynnig ar syniadau newydd, dysgu oddi wrth ei gilydd, gweld beth sy'n effeithiol.
A ydych chi'n dal i gredu bod ein bod ni i gyd yma yng Nghymru yn rhan o labordy byw? Ac a ydych chi'n credu, Prif Weinidog, y dylai holl drigolion Cymru dderbyn yn fodlon trethi newydd a chynnydd i drethi gan eich Llywodraeth Cymru oherwydd ein bod ni i gyd yn rhan o ryw arbrawf cyffrous?
Wel, Llywydd, rwy'n sicr yn credu mai un o fanteision mawr datganoli yw ei fod yn darparu labordy byw y tu mewn i'r Deyrnas Unedig a chyfle i roi cynnig ar wahanol syniadau mewn gwahanol leoedd a dysgu oddi wrth ein gilydd wrth wneud hynny. Ac rwyf i hefyd yn glynu'n llwyr at yr hyn a ddywedais yn y gorffennol, bod y broses o aeddfedu datganoli yn cael ei chynorthwyo gan y newidiadau lle nad yw'r Cynulliad hwn yn dod yn gorff gwario yn unig, ond yn gorff y mae'n rhaid iddo gymryd cyfrifoldeb am godi rhywfaint o'r cyllid y mae'n ei ddosbarthu.
Diolch i chi am egluro eich safbwynt ar hynny. Nawr, ar y mater o amrywio treth incwm, mae hynny'n rhywbeth sydd i ddod yn ddiweddarach heddiw—mae'n swnio efallai mai eich safbwynt hirdymor yw y gallai amrywio'r gyfradd treth incwm yng Nghymru fod yn ysgogiad y gallwch chi ei ddefnyddio'n gyfreithlon, ac y gallech chi fod yn frwdfrydig ynghylch ei ddefnyddio yn y dyfodol.
Wel, nid wyf i erioed wedi dweud hynny, Llywydd, hyd y cofiaf. Rwyf i wedi dweud mai fy mwriad yw cadw at yr ymrwymiad maniffesto a wnaed gan ein plaid yn yr etholiad diwethaf—na fyddem ni'n defnyddio'r grym i amrywio treth incwm yn ystod y tymor Cynulliad hwn. Rwy'n siŵr fy mod i'n cofio dadlau yn y Siambr hon gyda chydweithiwr yr Aelod yn UKIP bod tyfu'r economi yn well strategaeth ar gyfer casglu mwy o arian i ddarparu ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus na datblygu obsesiwn ynghylch pa un a allwn ni ddefnyddio'r pwerau cynyddol sydd gennym ni o ran amrywio treth incwm. Pe byddai gennym ni economi gryfach, gyda mwy o arian yn dod i mewn, byddai'r ddadl yn wahanol.
Rwy'n credu bod hwnna'n bwynt ardderchog, Prif Weinidog. Fodd bynnag, mae gennym ni dystiolaeth o 20 mlynedd o Gymru ddatganoledig lle mae perfformiad economaidd y rhanbarth wedi methu'n lân â gwella. [Torri ar draws.] Y rhanbarth, y wlad—beth bynnag yr hoffech chi ei galw. Beth bynnag yr hoffech chi ei galw. Mae perfformiad economaidd Cymru wedi methu'n lân â gwella dros yr 20 mlynedd diwethaf. Mae'r ffigurau gwerth ychwanegol gros diweddaraf yn dangos bod Cymru, unwaith eto, yr isaf o bedair gwlad y DU, trwy wneud hyd yn oed yn waeth nag yr oeddem ni cyn i ni gael eich Plaid Lafur chi yn rhedeg Cymru drwy'r Cynulliad. Felly, o ystyried hynny, a ydych chi'n dychmygu o dan eich arweiniad chi dros yr ychydig flynyddoedd nesaf ein bod ni'n mynd i gael ymateb cyflym a bod y ffigurau hyn yn mynd i newid, ac ar ryw adeg ein bod ni'n mynd i gael ystadegau sy'n gwella o ran y perfformiad economaidd?
Wel, mae gen i ofn, Llywydd, mai'r bygythiad mwyaf i economi Cymru yw'r polisi a hyrwyddwyd gymaint gan ei blaid ei hun. Os ydym ni am gael effaith gyflym ar economi Cymru, bydd yn digwydd pe byddem ni'n gadael yr Undeb Ewropeaidd, ac yn ei adael ar y telerau y mae ei blaid wedi ei hyrwyddo ers cyhyd. Mewn gwirionedd, mae economi Cymru yn gadarn, mae wedi gwrthsefyll anawsterau'r cyfnod o gyni cyllidol, mae'n mynd i'r ychydig flynyddoedd nesaf â lefelau cyflogaeth yn uwch nag ers llawer o flynyddoedd a fu, a chyda lefelau diweithdra sy'n is na llawer o flynyddoedd a fu. Byddwn yn gwneud popeth y gallwn, ond byddwn yn ei wneud yn nannedd y polisïau y mae ei blaid ef yn eu hargymell, yn hytrach na chael ein cynorthwyo ganddynt.