Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:33 pm ar 15 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 2:33, 15 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Prif Weinidog. Yn rhan o gyllideb 2018-19, trafododd a sicrhaodd Plaid Cymru, ar gais Steffan, ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i ailgyflwyno ward iechyd meddwl amenedigol cleifion mewnol yng Nghymru. Roedd Steffan mor angerddol ynghylch gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol fel bod y Prif Weinidog, yn ystod ei gyfnod fel Gweinidog cyllid, wedi cynnwys cyllid ar gyfer ailsefydlu'r gwasanaeth. A all y Prif Weinidog gadarnhau heddiw, mewn ymateb i ymdrechion Steffan, y bydd ei Lywodraeth yn gwneud popeth sy'n angenrheidiol i sicrhau y bydd yr holl famau beichiog neu newydd yng Nghymru yn cael y driniaeth iechyd meddwl amenedigol sydd ei hangen arnyn nhw yng Nghymru, ac na fydd neb yn cael ei roi yn y sefyllfa drist o orfod cael eu gwahanu o bosibl oddi wrth eu baban a'u teulu i gael triniaeth?

A wnaiff ef hefyd ystyried ymchwilio i syniad Steffan ar gyfer creu canolfan ragoriaeth ar gyfer arloesedd gofal iechyd yn Nhredegar, gan ddathlu ei orffennol, wrth gwrs, fel man geni'r GIG, a'i wneud yn sail hefyd i lunio ei ddyfodol?