Cefnogaeth ar gyfer Addysg Uwch

Part of 2. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:43 pm ar 15 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:43, 15 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn. Rwy'n cynnal cyfarfodydd rheolaidd gyda'r Gweinidog Addysg, gan gynnwys trafodaethau ar faterion allweddol yn ymwneud ag addysg uwch. Rydym ni'n parhau i ddarparu cymorth i'r sector trwy Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, a fydd, ynghyd â'n diwygiadau cymorth myfyrwyr, yn creu sector addysg uwch cryfach a mwy cynaliadwy yng Nghymru.