2. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 15 Ionawr 2019.
5. A wnaiff y Prif Weinidog nodi blaenoriaethau cychwynnol Llywodraeth Cymru ar gyfer mynd i'r afael â thlodi? OAQ53173
Diolch. Llywydd, mae ein blaenoriaethau cyntaf yn canolbwyntio ar y mesurau lliniaru hynny sydd ar gael yn uniongyrchol i Lywodraeth Cymru sy'n cael effaith ymarferol ar fywydau plant a theuluoedd sy'n byw mewn tlodi yng Nghymru.
Prif Weinidog, mae credyd cynhwysol yn rhy aml yn system greulon ac annynol yn ymarferol sy'n achosi trallod i deuluoedd a chymunedau, boed hynny oherwydd yr amseroedd aros am daliad cychwynnol a'r system fenthyciadau sy'n cyd-fynd â hynny, neu'r diffyg gallu i wneud taliad uniongyrchol i landlordiaid o ran budd-dal tai, neu amodoldeb a chosbau, sy'n aml yn llym. Mae'n aml yn arwain at ddyled, digartrefedd, ciwiau mewn banciau bwyd, ac wythnosau os nad misoedd yn cael eu treulio heb unrhyw incwm o gwbl. A wnaiff Llywodraeth Cymru ystyried datganoli gweinyddiad credyd cynhwysol ar gyfer system fwy trugarog yng Nghymru?
Diolchaf i John Griffiths am hynna, ac wrth gwrs mae'n cyfeirio'n eglur iawn at hanes gweithrediad credyd cynhwysol hyd yn hyn. Rwy'n ymwybodol, wrth gwrs, o'r gwaith y mae ei bwyllgor wedi ei wneud a'r adroddiadau a luniwyd sy'n awgrymu y dylem ni ystyried datganoli gweinyddiad budd-daliadau yma yng Nghymru. Rwyf i wedi clywed hefyd, yn y Siambr hon, Aelodau eraill yn cyfeirio'n gwbl briodol at yr anawsterau a allai ei rwystro, ac mae hanes, onid oes, yr ydym ni i gyd yn gyfarwydd ag ef—er enghraifft, o ran gorfodi datganoli budd-dal y dreth gyngor, pan wnaethom ni gymryd cyfrifoldeb dros y gweinyddiad, ond gwnaeth Llywodraeth y DU dro gwael iawn â ni o ran y swm o arian sydd ei angen ar gyfer y budd-dal ei hun, a dim byd o gwbl i dalu am ei weinyddu. Ond, ar ôl tynnu sylw at y rhybuddion hynny, yna fy marn i yw y dylem ni ystyried datganoli gweinyddiad. Rydym ni eisiau ei wneud yn ofalus, ond rwy'n credu bod yr achos wedi ei wneud dros ei archwilio, ac rwy'n hapus i roi'r sicrwydd hwnnw iddo fe y prynhawn yma.
Pa ystyriaeth y mae'r Prif Weinidog wedi ei rhoi i benodi Gweinidog tlodi a fyddai'n pennu targedau eglur a mesuradwy i fynd i'r afael â thlodi ac amddifadedd yng Nghymru ac a fyddai'n atebol am strategaeth gwrth-dlodi Llywodraeth Cymru, os gwelwch yn dda?
Wel, mae atebolrwydd am fesurau gwrth-dlodi yn Llywodraeth Cymru wedi ei neilltuo i'r Gweinidog tai, cynllunio a llywodraeth leol, a bydd hi'n gallu ateb cwestiynau a chael ei dwyn i gyfrif yn y modd y mae'r Aelod yn ei awgrymu.
Prif Weinidog, roedd gen i ddiddordeb mewn clywed popeth a restrwyd gennych chi sy'n digwydd yng Nglynebwy a'r cyffiniau yn ystod cwestiynau i'r Prif Weinidog yr wythnos diwethaf. Soniasoch am yr unedau dechreuol yn Lime Avenue yng Nglynebwy, ar ôl sicrhau caniatâd cynllunio ar gyfer cyfleuster gweithgynhyrchu uwch 50,000 troedfedd sgwâr yn Rhyd-y-blew yn y dref, a'r adeilad adfeiliedig 174,000 troedfedd sgwâr a ailwampiwyd yn Rassau yng Nglynebwy ar gyfer y sector preifat. Mae eich Gweinidog yr economi wedi dweud yn y gorffennol y bydd £100 miliwn yn cael ei ddyrannu i'r Tech Valleys yn yr ardal dros y 10 mlynedd nesaf, gyda'r nod o greu 1,500 o swyddi.
Nawr, yr hyn yr hoffwn i, a llawer o Aelodau Cynulliad eraill sy'n cynrychioli cymunedau yn ardal yr hen feysydd glo, ei wybod yw: beth am fy etholaeth i? Mae'r Rhondda mewn sefyllfa debyg i Flaenau Gwent o ran ystadegau diweithdra a lefelau amddifadedd, ac eto rydym ni wedi cael ein hanwybyddu i raddau helaeth gan Lywodraethau olynol, ac mae hynny'n ffaith a gadarnheir gan gynllun cyflawni'r Cymoedd. Felly, beth yw eich cynlluniau i wneud yn siŵr bod cyfleoedd cyflogaeth a chamau cynhyrchu incwm yn cael eu rhannu'n gyfartal, a phryd allwn ni ddisgwyl clywed cyhoeddiad am y buddsoddiad mewn creu swyddi ar gyfer y Rhondda?
Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna, sy'n sicr yn berthnasol i fynd i'r afael â thlodi yn y ffordd y gwnaeth hi ei fynegi. Diolch am—[Torri ar draws.] Diolchaf iddi am y sylw gofalus a roddodd i'r hyn a ddywedwyd yn ystod cwestiynau yr wythnos diwethaf, a bydd wedi sylwi bod cyhoeddiadau pellach wedi eu gwneud yr wythnos hon am fuddsoddiadau yng Nglynebwy. Nid cystadleuaeth yw hon, Llywydd, a gwn na wnaeth yr Aelod awgrymu ei bod yn hynny. Wrth gwrs, mae pethau yr ydym ni eisiau eu gwneud mewn rhannau eraill o Gymru. Dyna pam y sefydlwyd tasglu'r Cymoedd, i gymryd yr olwg Cymoedd gyfan honno ar y gwahanol bethau y gallwn ni eu gwneud mewn gwahanol rannau o Gymru, ac yn sicr nid yw'r Rhondda ac anghenion y gymuned honno wedi eu hanghofio yn yr ystyriaethau hynny.