Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:38 pm ar 15 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Gareth Bennett Gareth Bennett UKIP 2:38, 15 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Ac a gaf innau hefyd achub ar y cyfle i ychwanegu fy nghydymdeimlad â theulu Steffan Lewis?

Prif Weinidog, hon yw'r adeg o'r flwyddyn pan fo'n rhaid i lawer o bobl lenwi eu ffurflenni treth, ac, felly, mae'r mater o drethiant yn eu meddyliau. Wrth gwrs, rydym ni'n gwybod na fyddai llywodraethau yn gweithredu pe na byddai gennym ni drethiant, ond byddwn yn ychwanegu, o'm harsylwadau fy hun, mai anaml y mae'r rhan fwyaf o bobl gyffredin yn frwdfrydig ynghylch y posibilrwydd o drethi, ac yn enwedig trethi newydd neu ychwanegol. Fe wnes i sylwi, yn eich swydd flaenorol fel y Gweinidog Cyllid, ei bod hi'n ymddangos eich bod wedi gyffroi cryn dipyn am bwerau trethu newydd Llywodraeth Cymru. Dyfynnaf yr hyn a ddywedasoch ar un adeg:

Dyna oedd datganoli i fod bob amser: labordy byw lle y gall gwahanol rannau o'r Deyrnas Unedig roi cynnig ar syniadau newydd, dysgu oddi wrth ei gilydd, gweld beth sy'n effeithiol.

A ydych chi'n dal i gredu bod ein bod ni i gyd yma yng Nghymru yn rhan o labordy byw? Ac a ydych chi'n credu, Prif Weinidog, y dylai holl drigolion Cymru dderbyn yn fodlon trethi newydd a chynnydd i drethi gan eich Llywodraeth Cymru oherwydd ein bod ni i gyd yn rhan o ryw arbrawf cyffrous?