2. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 15 Ionawr 2019.
8. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo gwleidyddiaeth fwy caredig? OAQ53166
Diolch i Jack Sargeant. Bydd Llywodraeth Cymru yn cymryd camau yn ein Bil llywodraeth ac etholiadau lleol sydd ar ddod i hyrwyddo gwleidyddiaeth fwy amrywiol, cynhwysol a pharchus yng Nghymru. Ar yr un pryd, byddwn yn sefyll ochr yn ochr ag eraill i wrthsefyll y llif o fygythiadau a rhagfarn sy'n bygwth difetha rhannau o fywyd cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig.
A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am ei ateb a dweud fy mod i'n falch iawn o'i weld yn cyfeirio at agwedd fwy garedig at wleidyddiaeth yn ei araith gyntaf fel Prif Weinidog? Bydd yn gwybod fy mod i wedi bod yn gweithio'n galed i weld newid cadarnhaol yn ein gwleidyddiaeth, ac rwy'n cytuno'n llwyr bod y ffordd yr ydym ni'n ymddwyn yn gwneud gwahaniaeth mewn byd toredig ac anniddig. Nawr, Llywydd, mae gennym ni i gyd ran i'w chwarae i hyrwyddo gwleidyddiaeth fwy caredig, ac rwy'n teimlo ei bod hi'n gwbl briodol fy mod i'n sôn, fel y mae cynifer wedi ei wneud heddiw, yr effaith a gafodd ein diweddar gyfaill a chyd-Aelod Steffan Lewis ar y pwnc hwn. A Llywydd, unwaith eto, byddem ni'n mynd ymhell iawn pe byddem ni ychydig bach yn debycach i Steffan. Nawr, mae gan Lywodraeth Cymru, wrth gwrs, ran bwysig i'w chwarae mewn newid o'r fath, gan gynnwys y diwylliant a'r ffordd yr ydym ni'n dod â charedigrwydd i'r gwaith o lunio polisi cyhoeddus. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi, er mwyn cyflawni'r uchelgais hwn, bod yn rhaid i ni i gyd weithio gyda'n gilydd, gan gynnwys Aelodau o bob rhan o'r Siambr, Gweinidogion, y gwasanaeth sifil ac eraill?
Llywydd, rwyf yn cytuno'n llwyr fod gwneud ein gorau glas i hyrwyddo gwleidyddiaeth sy'n fwy caredig ac yn fwy parchus o'r math yr oedd Jack Sargeant yn sôn amdano y prynhawn yma ac sydd, wrth gwrs, wedi cael ei hyrwyddo ganddo yn ystod ei holl amser yn Aelod Cynulliad, yn waith i bob un ohonom. Roeddwn i'n gallu bod yn y Siambr yn ystod y ddadl fer gyntaf a gynhaliodd Jack ar wleidyddiaeth fwy caredig yma yng Nghymru ac, yn wir, yng nghyd-destun trist iawn heddiw, ailymwelais â'r ddadl honno yn ystod y penwythnos ac ailddarllen y cyfraniadau a wnaed gan Jack, yn bennaf, ond cafwyd cyfraniadau ar draws y Siambr. Siaradodd Julie Morgan am bwysigrwydd gwleidyddiaeth ag angerdd ond heb wenwyn. Tynnodd Adam Price sylw at y gwaith a wnaed gan y nofelydd Americanaidd mawr du a hoyw, James Baldwin, a'r hyn y gallwn ei ddysgu o'i brofiad ef. A dywedodd Darren Millar yn ei gyfraniad ef, er mor heriol y mae'r awyrgylch cystadleuol a bywiog yn ystod dadleuon yma yn y Cynulliad yn gallu bod, dylai fod yn uchelgais i ni fel Aelodau Cynulliad fod yn bobl sy'n anghytuno'n dda. Ac yng nghyd-destun heddiw, credaf fod yr uchelgais hwnnw, sef y dylem fod yn bobl sy'n anghytuno, ond yn ei wneud yn yr ysbryd hwnnw, yn rhywbeth inni feddwl amdano a'i ystyried yn sgil y prynhawn yma.
Diolch i'r Prif Weinidog.