– Senedd Cymru am 3:07 pm ar 15 Ionawr 2019.
Yr eitem nesaf felly yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, a dwi'n galw ar y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd, Rebecca Evans.
Diolch. Mae un newid i fusnes yr wythnos hon. Bydd y Gweinidog Brexit a'r Cwnsler Cyffredinol yn gwneud datganiad cyn hir ar gynigion presennol Llywodraeth y DU ar gyfer ymadael â'r UE. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi ei gynnwys yn y datganiad a'r cyhoeddiad busnes y gellir ei weld ymysg papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
Yn ystod y toriad, ar 27 Rhagfyr, lansiodd Llywodraeth y DU ymgynghoriad a oedd yn cynnig y dylid dyblu’r ardoll ar fagiau siopa o 5c i 10c gan ei hymestyn i gynnwys pob siop. O gofio bod Cymru wedi arwain ar hyn yn wreiddiol, a’r dymuniad torfol yn yr ymgyrch yn erbyn gwastraff plastig, a gawn ni ddatganiad gan Lywodraeth Cymru mewn ymateb i hyn, a sut y gallai, yn annibynnol neu ochr yn ochr â'r ymgynghoriad yn Lloegr, gynnig bwrw ymlaen ar y mater hwn ei hun?
Yn yr un modd, yn ystod y toriad, cafwyd newyddion gan Lywodraeth y DU bod hyfforddiant cymorth cyntaf ac adfywio cardio-pwlmonaidd yn mynd i gael eu cynnwys yn rhan o'r cwricwlwm ysgol yn Lloegr. A gaf i ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru yn y cyd-destun hwnnw, felly, lle cynhaliodd ein cyd-Aelod, Suzy Davies, ddadl ym mis Chwefror 2017 i gynnig y dylai pob plentyn a pherson ifanc gael sgiliau achub bywyd sy’n briodol i’w hoedran yn rhan o gwricwlwm yr ysgol yng Nghymru, a gefnogwyd gan Aelodau o bob plaid? Hyd yn hyn, nid yw Llywodraeth Cymru wedi gweithredu'r cynnig hwnnw. Eto, rydym yn gobeithio na chawn wahaniaethu ar draws y ffin, yn enwedig o gofio rhai o'r sylwadau a wnaed am ffiniau mewn cyd-destun gwahanol yn gynharach.
Yn olaf, rydym wedi clywed cyfeiriad at Wylfa Newydd. A gawn ni ddatganiad llafar, sy'n cynnwys y Prif Weinidog yn y datganiad os oes modd, ynghylch y pryderon dros Wylfa Newydd os cadarnheir y ddamcaniaeth yn ddiweddarach yr wythnos hon, mewn penderfyniad gan Hitachi naill ai i beidio â bwrw ymlaen, neu i ohirio’r cynigion? Rydym wedi cael datganiad ysgrifenedig y dywed Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ynddo fod Wylfa Newydd yn brosiect mawr gyda manteision sylweddol posib i Ynys Môn, gogledd Cymru a’r DU. Ond rydym yn gwybod, yn y gorffennol, fod y Prif Weinidog newydd ei hun, wedi gwrthwynebu ynni niwclear yn bersonol. Gwyddom, yn fuan ar ôl iddo dderbyn ei swydd newydd, fod Llywodraeth Cymru wedi tynnu'n ôl gynlluniau i baratoi ardal 740 erw yn Ynys Môn i adeiladu Wylfa Newydd, ac roedd is-gwmni Hitachi, Horizon, yn dweud eu bod yn anghytuno â rhesymeg Llywodraeth Cymru. Dywedwyd wrthyf fod hynny'n un o'r ffactorau sydd wedi arwain at Hitachi yn ystyried y sefyllfa ar hyn o bryd. Mae hwn yn fater rhy bwysig i ogledd Cymru, Cymru a'r DU i ymdrin ag ef drwy ddatganiad ysgrifenedig, a galwaf am ddatganiad llafar priodol yma yn amser y Cynulliad, fel y gall y Cynulliad llawn gyfrannu iddo. Diolch.
Diolch yn fawr iawn am godi'r materion hynny ac, yn rhan gyntaf eich cyfraniad, am gydnabod y rhan arweiniol y mae Cymru wedi ei chwarae o ran lleihau’r plastig yr ydym yn ei ddefnyddio drwy ardoll ar fagiau siopa, a gyflwynwyd gennym ni. Gwn fod y Dirprwy Weinidog bellach yn ystyried i ble yr ydym yn mynd â hyn nesaf, oherwydd, yn amlwg, ar ôl arwain y ffordd, rydym yn sicr yn dymuno cynnal y momentwm a ddechreuwyd gennym yn y maes penodol hwn. Nid gyda bagiau siopa plastig yn unig, wrth gwrs, ond byddwn yn edrych ar leihau plastig mewn llawer o feysydd ac agweddau eraill ar fywyd hefyd.
O ran adfywio cardio-pwlmonaidd, gwn fod llawer o gyfleoedd ar hyn o bryd o fewn y cwricwlwm presennol ar gyfer addysgu adfywio cardio-pwlmonaidd i ddisgyblion ac mae’n gwneud cynnydd da o ran y gwaith a wneir ar gyfer diwygio'r cwricwlwm. Gwn fod y Gweinidog yn awyddus i sicrhau bod gan ysgolion yr hyblygrwydd sydd ei angen arnyn nhw i ddarparu rhaglen addysg i'r disgyblion sy'n briodol ac yn rhoi’r cymorth gorau posibl iddyn nhw, a heb geisio gorlenwi’r cwricwlwm chwaith. Felly, yn sicr, mae angen cydbwysedd arnom yn y fan honno, ond mae’r pwynt a wnaethoch am bwysigrwydd adfywio cardio-pwlmonaidd yn un da.
O ran y mater ynghylch Wylfa Newydd, gwn fod datganiad ysgrifenedig newydd fynd allan gan y Gweinidog dros yr economi. Mae penderfyniadau pwysig i’w gwneud yn ddiweddarach yr wythnos hon, fel y dywedodd y Gweinidog yn ei ymateb i'r cwestiwn ar Ford, ond fe wnaeth gyfeirio at Hitachi bryd hynny. Felly, rwy'n siŵr y bydd y Llywodraeth yn edrych ar sut i ymateb i'r penderfyniadau hynny a gaiff eu gwneud yn ddiweddarach yr wythnos hon yn y modd gorau a mwyaf priodol.
Trefnydd, yn gyntaf oll, a gaf i gefnogi’r pryderon a godwyd ynghylch Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ac rwyf i hefyd yn edrych ymlaen at ddatganiadau gweinidogol pellach ar y gwaith a'r cynnydd a wnaed, gan ei fod yn broblem enfawr yn lleol?
Fy ail bwynt, fel y byddwch yn ddiau yn ymwybodol ohono, Trefnydd, yw hyn. Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi cyhoeddi adroddiad heddiw sy’n galw am weithredu brys yn dilyn pryderon ariannol a llywodraethu yn sector y cynghorau tref a chymuned yng Nghymru. Mae'r adroddiad yn dangos bod nifer y barnau archwilio amodol wedi dyblu yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf i 340 o gynghorau, bron hanner yr holl gynghorau. Gwyddom hefyd fod yr Archwilydd Cyffredinol wedi gorfod cyhoeddi adroddiadau er budd y cyhoedd neu wneud argymhellion ffurfiol i wyth cyngor yn 2018. Nawr, mewn ffordd, ni ddylai hyn beri syndod mawr. Rydym wedi clywed pryderon am nifer o flynyddoedd ynghylch diffyg llywodraethu, bwlio a chynghorau cymuned yn cael eu chwalu oherwydd ymladd lleol ymysg ei gilydd. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ymwybodol o'r materion hyn ers cryn amser. Bellach, mae’r adroddiad gan y panel adolygu annibynnol ar gynghorau cymuned a thref a adroddwyd ym mis Hydref 2018, yn dangos bod dewisiadau ar gael i Lywodraeth Cymru o ran ceisio gwella'r sector. Mae'n hanfodol bwysig fod Llywodraeth Cymru yn symud ymlaen gyda'r dasg honno yn awr ac yn mynd i'r afael â'r sector pwysig hwn. Gyda'r cefndir hwnnw, a wnaiff y Gweinidog llywodraeth leol gytuno i gyflwyno datganiad ar ganfyddiadau Swyddfa Archwilio Cymru a defnyddio'r datganiad hwnnw i nodi sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu sicrhau bod yr haen bwysig hon o ddemocratiaeth yn cael ei rhoi ar sylfaen gynaliadwy, wrth symud ymlaen?
Diolch yn fawr iawn am y materion hynny ac am gofnodi eich pryder ynghylch y cyhoeddiad sy'n ymwneud â Ford. Gwn fod Gweinidog yr economi yn ymwneud â'r mater hwn i raddau helaeth ac yn sicr bydd yn cyflwyno'r diweddariadau priodol i Aelodau'r Cynulliad pan fyddai'n ddefnyddiol.
O ran yr adroddiad a gyhoeddwyd heddiw ynghylch cynghorau tref a chymuned, gwn y bydd y Gweinidog, yn amlwg, yn ystyried yr adroddiad hwnnw. Caiff yr Aelodau gyfle i'w holi hi ar hynny yn ystod ei sesiwn gwestiynau yr wythnos nesaf.
A gaf i ofyn am amser ar gyfer un ddadl ac un datganiad? Tybed a fydd amser am ddadl ar bwysigrwydd grwpiau cymunedol ar lawr gwlad i adfywio. Roeddwn i yng nghyfarfod fforwm cymunedol Ogwr neithiwr, sy'n dwyn ynghyd glybiau a sefydliadau a thrigolion o bob rhan o'r cwm, rhwng Evanstown a Lewistown, a rhwng Melin Ifan Ddu a Nant-y-moel a’r holl bwyntiau sydd rhyngddyn nhw i ddatblygu gweledigaeth a rennir ar gyfer y cwm, yn seiliedig ar y blaenoriaethau y maen nhw eu hunain yn eu datblygu. Yn y cyfarfod nesaf, maen nhw'n mynd i ddatblygu eu syniadau, ac maen nhw’n mynd i ddod â mwy o bobl ifanc i mewn i helpu i lunio'r syniadau hyn hefyd, a drefnwyd gan y Cynghorwyr galluog iawn Dhanisha Patel a Lee-Anne Hill, cadeirydd cyngor y gymuned. Bydd dadl yn caniatáu inni ddathlu swyddogaeth y grwpiau cymunedol hyn a fforymau ar draws y wlad wrth adfywio ein cymunedau.
A gaf i ofyn hefyd am ddatganiad neu ddadl ar bwysigrwydd diwylliant a thraddodiadau i Gymru? Ddydd Sul, ar Nos Galan, fe wnaeth y Fari Lwyd ymddangosiad yn nhafarn a bwyty'r Corner House yn Llangynwyd. Dychrynodd y plant a'u plesio'n fawr ac roeddent allan ymhell y tu hwnt i’w hamseroedd gwely, yn ogystal â’r oedolion, gyda llaw, a lenwodd y gwesty hwn ar ben bryn, a minnau yn eu plith nhw. Nawr, mae gweld penglog ceffyl wedi ei orchuddio â chynfas wen ac addurniadau anweddus yn dawnsio, dan arweiniad Gwyn Evans sy’n canu mewn het silc a chynffonnau yn rhan o'r hyn sy'n ein gwneud ni’n Gymreig iawn—y pethau unigryw hyn sy'n denu ymwelwyr a thwristiaid i aros gyda ni a gwario eu harian, a hynny sy’n ein hatgoffa ni o'n gwreiddiau Celtaidd, sy'n mynd yn ddwfn i’n diwylliant cyn-Gristnogol. Felly, hoffwn dalu teyrnged i'r rhai sy’n cynnal y traddodiadau rhyfeddol hyn, sydd weithiau, fel yn yr achos hwn, wedi eu pasio i lawr drwy'r cenedlaethau. Byddai datganiad neu ddadl yn caniatáu inni ddathlu hyn ac yn annog y traddodiadau hyn i gael eu cynnal am nifer o genedlaethau i ddod.
Diolch i Huw Irranca-Davies am godi'r ddau fater pwysig hyn ac am roi ymdeimlad inni o’r bywiogrwydd sy'n digwydd bob dydd yn ein cymunedau ein hunain. Rwyf yn wirioneddol falch o glywed am y sgyrsiau adfywio ar lawr gwlad sy'n cael eu cynnal ar lefel leol, oherwydd y lefel hon o ymgysylltiad oedd yr union beth yr oeddem yn ei ragweld pan sefydlwyd tasglu’r Cymoedd. Mae'n ddarn o waith sy’n cael ei adeiladu o'r gwaelod i fyny yn wir, ac felly mae'r hyn a glywsom yn disgrifio'r math hwnnw o ethos yn dda iawn.
Rwyf yn ymwybodol bod y Cynghorydd Patel wedi cael trafodaethau da iawn ynghylch gwaith y tasglu, ac fe siaradodd yn hir â'r cyn-Weinidog yr oedd cyfrifoldeb am y tasglu ganddo. Mae’r dull hyb cymunedol yr ydych yn ei ddisgrifio, yn flaenoriaeth fawr o dan thema 2 y cynllun cyflenwi tasglu, a gwyddom fod yr hybiau cymunedol hynny yn asedau mawr inni pan rydym yn ceisio gwella darpariaeth gwasanaethau cyhoeddus. Felly, yn dilyn digwyddiad rhwydweithio y llynedd, cafodd gweithgor hyb cymunedol ei sefydlu i fapio’r hybiau sydd eisoes yn bodoli ledled y Cymoedd, gan dynnu sylw at arferion da lle bo hynny'n bodoli, a chredaf ein bod ni wedi clywed rhywfaint o hynny yn y fan yna, a hefyd i edrych ar yr hyn y mae angen i gymunedau a sefydliadau ei wneud i ddatblygu model o hyb sy’n gynaliadwy. Felly, rydym yn gweithio gyda Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, cynghorau gwirfoddol sirol, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Interlink RhCT, byrddau iechyd lleol, yr Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau, y Sefydliad Dysgu a Gwaith ac eraill er mwyn mynd â’r darn hwnnw o waith yn ei flaen, ond gyda thrigolion lleol a thenantiaid wrth wraidd hynny bob amser.
O ran ail ran y datganiad, cytunaf yn llwyr mai pwysigrwydd ein diwylliant a'n traddodiadau yw’r hyn sy'n ein gwneud ni’n Gymreig iawn, fel y dywedodd Huw Irranca-Davies yn ei gyfraniad ef. Mae gennym gyfoeth o farddoniaeth a rhyddiaith, ac mae’n Hamgueddfa Werin yn Sain Ffagan a Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi casglu'r rhain dros y blynyddoedd i sicrhau nad yw’r cyfoeth hwn yn cael ei golli.
A gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ar fater sydd o bryder mawr i drigolion lleol sy'n byw yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili? Mae'r cyngor yn bwriadu cynyddu'r dreth gyngor yn y fwrdeistref bron 7 y cant ac mae wedi torri £50 miliwn ar ei wariant. Fodd bynnag, y mis diwethaf, pleidleisiodd y weinyddiaeth Lafur i wario £242,000 ar gynnal ymchwiliad i godiadau cyflog ar gyfer uwch-swyddogion yn y fwrdeistref. Dechreuodd yr ymchwiliad hwn yn 2013 a bydd wedi costio dros £4 miliwn i'r trethdalwr eleni. Os gwelwch yn dda, a gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog ar y camau y mae hi'n bwriadu eu cymryd i amddiffyn y trethdalwyr rhag canlyniadau camreoli'r Blaid Lafur yng Nghyngor Caerffili?
Diolch am y cwestiwn. Bydd dau gyfle i chi godi hyn yn uniongyrchol gyda'r Gweinidog dros lywodraeth leol. Bydd datganiad yn ddiweddarach y prynhawn yma ar y setliad llywodraeth leol ac, yn amlwg, ceir cyfleoedd i gyflwyno cwestiynau i'r Gweinidog i'w hateb yn sesiwn yr wythnos nesaf.
Hoffwn ddechrau fy sylwadau byr drwy ddweud pa mor falch y credaf y byddai Steffan o'n gweld ni'n bwrw ymlaen â phethau ar ôl dechrau emosiynol iawn y prynhawn yma.
Hoffwn ofyn am ystyriaeth i ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda, Trefnydd. Mae un yn ymwneud â phroblemau parhaus gyda gwasanaethau plant Cyngor Sir Powys. Nawr, rwy'n ddiolchgar iawn am y datganiad ysgrifenedig yr ydym i gyd wedi ei dderbyn gan y Dirprwy Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithas. Ac er nad yw hi yma, hoffwn gofnodi fy llongyfarchiadau iddi yn ei swydd newydd a chroesawu rhywun â'r lefel o arbenigedd sydd ganddi hi i'r swyddogaeth hon, ac rwyf yn siŵr y bydd yn gwneud cyfraniad amhrisiadwy. Ond rwy'n siŵr bod llawer o'r Aelodau yn y Siambr hon sy'n cynrychioli Powys, fel minnau, a fydd yn bryderus iawn ynghylch y diffyg cynnydd a wnaed ar ôl 12 mis cyfan o ymyrraeth. Tybed, Trefnydd, a allech chi ofyn i'r Dirprwy Weinidog a wnaiff hi ystyried gwneud datganiad, ymhen tuag wyth wythnos efallai, pan fydd y weinyddiaeth yng Nghyngor Sir Powys wedi cael cyfle i ymateb i'r arolygiaeth, i ymateb i’r pryderon a godir ganddi hi a'i swyddogion, ac rwyf yn siŵr yr ohebiaeth y bydd hi wedi ei chael gennyf i ac, rwyf yn siŵr, Aelodau etholedig eraill. Oherwydd, mae'n debyg mai fy mhryder i yw hyn. Ar ôl yr holl amser hwn, nid ydym wedi gweld cynnydd ac, yn y cyfamser, mae plentyndod y plant hyn ym Mhowys yn mynd heibio heb y cymorth y credwn i gyd sydd ganddynt yr hawl iddo, er gwaethaf, a bod yn deg, y cymorth y gwn iddynt ei gael gan Lywodraeth Cymru i'w galluogi nhw i fynd i'r afael â’r materion hyn.
Y mater arall yr hoffwn ofyn i chi ei godi gydag un o'ch cyd-Aelodau yw hyn. Byddwn yn hoffi ichi ofyn i’r Gweinidog iechyd ei hun a yw'n mynd i wneud datganiad yn dilyn y sylw yn y wasg heddiw i ganlyniadau'r materion yn Nhawel Fan. Bydd yr Aelodau wedi gweld yr ohebiaeth a ryddhawyd o dan y ddeddf ryddid gwybodaeth rhwng y Gweinidog a Donna Ockenden, wrth gwrs, a gynhaliodd yr adroddiad gwreiddiol beirniadol iawn. Nawr, wrth gyfnewid gohebiaeth â'r Gweinidog, mae Ms Ockenden yn dweud, er enghraifft,
Fy mhryder i yw nad oes gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr na'r uwch dîm rheoli ym maes iechyd meddwl ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr y gallu na'r capasiti ar hyn o bryd i gyflawni’r hyn sydd angen ei wneud yn unol â’r adolygiad systemig gwraidd a brig i wneud y newidiadau i wasanaethau iechyd meddwl pobl hŷn. Mae hi wedyn yn adrodd ymhellach bod nyrs wedi dweud wrthi am ymweliad diweddar â ward iechyd meddwl pobl hŷn pan na siaradodd yr uwch aelod o staff o gwbl. Ni siaradodd yr uwch aelod rheoli chwaith ag unrhyw aelod o’r staff na chlaf, er y bydd hynny'n cael ei nodi fel chwarae rhan weithredol yn y gwasanaeth.
Mae ymateb y bwrdd iechyd i'r pryderon hyn yn yr erthygl honno—ac, wrth gwrs, erthygl yn y wasg yn unig ydyw—y tu hwnt i fod yn bryderus ynghylch eu hunanfoddhad. Credaf fod angen inni glywed gan y Gweinidog sut y mae ef yn ymateb i'r beirniadaethau hynny. Yn y bôn, mae Ms Ockenden yn dweud wrtho nad oes unrhyw gynnydd wedi ei wneud yn y chwe mis diwethaf. Sut y mae'n ymateb i'r pryderon hynny a pha gamau y mae'n eu cymryd i sicrhau bod gan y bwrdd iechyd y gallu i fynd i'r afael â materion difrifol iawn hyn?
Diolch am godi'r ddau fater hynny, a gallaf roi fy ymrwymiad y byddaf yn siarad â'r Dirprwy Weinidog a'r Gweinidog o ran beth fyddai'r ffordd fwyaf priodol a'r adeg fwyaf priodol o roi'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch materion adolygiad Ockenden a'r materion y mae Cyngor Sir Powys wedi bod yn eu hwynebu yn eu gwasanaethau plant.
Trefnydd, gwrandewais â diddordeb ddoe ar y datganiad gan y Gweinidog dros yr Amgylchedd yn y DU ar fesurau i wella ansawdd yr aer ar draws y DU. Ac er bod y mesurau i lanhau coed a glo mewn tanau agored a stofiau, yn ogystal â sylweddau sy'n llygru mewn canhwyllau persawrus, carpedi a phaent, yn ganmoladwy, yr her fawr yn fy etholaeth i yw llygryddion o gerbydau. Felly, roeddwn yn siomedig nad yw Llywodraeth y DU yn bwriadu gwneud unrhyw beth pellach y tu hwnt i'r gwaharddiad ar gerbydau diesel erbyn 2040. Tybed a oes modd cael datganiad gan Lywodraeth Cymru ar sut y mae polisi Llywodraeth Cymru yn gysylltiedig â'r datganiad newydd hwn gan Lywodraeth y DU, sydd hefyd yn cynnwys mesurau i leihau allyriadau amonia mewn amaethyddiaeth, a allai fod o ddiddordeb. Ond rwy'n bryderus ynghylch amser araf iawn y diwygio, o ystyried yr hyn a wyddom bellach am effaith llygryddion aer ar faterion pwysig megis camesgor, clefyd y galon a dementia. Felly, ymddengys fod diffyg brys ynghylch yr hyn y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud. Byddwn yn awyddus iawn i ddeall ymateb Llywodraeth Cymru fel y gallwn graffu ar hynny wedyn. Felly, tybed a allwn ni gael datganiad ar hynny.
Diolch yn fawr iawn am godi'r mater hwn, oherwydd mae'n amlwg fod gan aer glân swyddogaeth ganolog i'w chwarae er mwyn creu'r amodau cywir ar gyfer gwell iechyd a llesiant ac ar gyfer mwy o weithgarwch corfforol ar draws Cymru hefyd. Ac rwyf yn credu bod hyn yn cael ei gydnabod yn ein hymrwymiad i leihau allyriadau a darparu gwelliannau hanfodol i ansawdd yr aer, ond caiff hynny ei wneud drwy gynllunio, drwy seilwaith, drwy reoleiddio a hefyd drwy fesurau cyfathrebu iechyd.
Bydd yr Aelod yn ymwybodol, yn ystod yr haf yn 2018, fod Llywodraeth Cymru wedi sefydlu rhaglen aer glân fel y gall Cymru leihau'r baich o ansawdd aer gwael ar iechyd dynol a'r amgylchedd naturiol. Mae'r rhaglen honno'n ystyried y dystiolaeth yn fawr iawn ac yn datblygu ac yn gweithredu camau ar draws y Llywodraeth, ac ar draws sectorau gan gynnwys yr amgylchedd, iechyd, addysg, datgarboneiddio, trafnidiaeth, cynllunio llywodraeth leol, amaethyddiaeth a diwydiant, i geisio sicrhau aer glân yng Nghymru. Bydd y gwaith sy'n cael ei ddatblygu drwy'r rhaglen yn llywio datblygiad cynllun aer glân ar gyfer Cymru y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ymgynghori yn ei gylch a'i gyhoeddi yn ystod 2019. Rwy'n annog yr Aelodau i fod â diddordeb yn hynny er mwyn ymwneud â'r ymgynghoriad hwnnw.
Fe hoffwn i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar achos fy etholwr, Mr Barry Topping-Morris. Mr Topping-Morris oedd y pennaeth nyrsio yng Nghlinig Caswell yn Ymddiriedolaeth GIG Bro Morgannwg, fel yr oedd hi bryd hynny, pan gafodd ei ddiswyddo yn 2005. Soniodd wrth uwch-reolwyr am yr hyn a ystyriai yn afreoleidd-dra mewn asesu a thrin claf. Daeth y pryderon hyn i'r amlwg pan oedd Mr Topping-Morris yn cynnal adolygiad mewnol i achos difrifol ac yn paratoi ar gyfer ymweliad gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru. Rwy'n pryderu bod y ffordd y ceisiodd arfer ei farn broffesiynol wrth herio'n adeiladol yn yr achos anodd hwn efallai wedi cael effaith andwyol ar y ffordd y cafodd Mr Topping-Morris ei drin ar ôl hynny fel cyflogai.
Cynhaliwyd nifer o adolygiadau, ond dim un ynglŷn â'r arferion cyflogaeth. Dywedodd yr adolygiad mwyaf diweddar a gynhaliwyd ar ran Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, ym mis Mawrth 2015, nad oedd pryderon ynglŷn â chyflogaeth, ac rwy'n dyfynnu:
'o fewn cwmpas yr adolygiad'.
Mae'n ymddangos nad yw pryderon cyflogaeth Mr Topping-Morris erioed wedi bod yn destun ymchwil priodol, ac o gofio y gallai'r rhain fod yn berthnasol i faterion ehangach o ddiddordeb i'r cyhoedd, rwy'n annog y Gweinidog i gomisiynu adolygiad pellach fel y gellir cau pen y mwdwl ar yr achos hwn o'r diwedd.
Diolch ichi am grybwyll yr hyn sydd yn fater sensitif iawn, ac rwy'n sylweddoli'r trallod a achoswyd i'ch etholwr, os yw'n teimlo na fu ymchwiliad llawn i'w bryderon ac nad ymdriniwyd â nhw'n llawn. Byddwch yn deall na all y Gweinidog iechyd ymdrin â materion cyflogaeth unigol, ond mae wedi dweud wrthyf y byddai'n barod i ysgrifennu at gadeirydd y bwrdd iechyd ynglŷn â'r mater hwn, yn benodol ynghylch pa un a yw'r holl faterion cyflogaeth a soniodd eich etholwr amdanyn nhw ynglŷn ag arferion cyflogaeth ac ati, fel yr ydych chi wedi eu disgrifio, wedi eu hystyried yn briodol ac a ymdriniwyd â nhw'n effeithiol. Fe wnaf i sicrhau ei fod yn rhannu'r ymateb gyda chi pan gaiff ef hwnnw.
Diolch yn fawr iawn, Gweinidog.