3. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:07 pm ar 15 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 3:07, 15 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch. Mae un newid i fusnes yr wythnos hon. Bydd y Gweinidog Brexit a'r Cwnsler Cyffredinol yn gwneud datganiad cyn hir ar gynigion presennol Llywodraeth y DU ar gyfer ymadael â'r UE. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi ei gynnwys yn y datganiad a'r cyhoeddiad busnes y gellir ei weld ymysg papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.