4. Datganiad gan y Darpar Gwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit: Cynigion presennol Llywodraeth y DU ar gyfer Ymadael â’r UE

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:31 pm ar 15 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 3:31, 15 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Y canlyniad yw cytundeb sy'n cynrychioli cyfaddawdu amlwg ar safbwynt trahaus Prif Weinidog y DU a'i hesgus y gallwn ni gael yr un mynediad i'r farchnad sengl heb ymostwng i'w rheolau, ond sy'n ddiffygiol yn y datganiad gwleidyddol a daflwyd at ei gilydd ar frys i roi sicrwydd cadarn ynghylch dyfodol economaidd y wlad hon. Nid yw'r cytundeb yn cael gwared ar y bygythiad o'r ymyl dibyn peryglus; dim ond yn ei ohirio. Mae cytundeb y Prif Weinidog yn creu amwyster yn y berthynas fasnachu, ac yn eithrio gwasanaethau lle mae'r DU mewn gwirionedd yn mwynhau gwarged masnach ag Ewrop. Mae'n methu â sicrhau cydymffurfiaeth ag amddiffyniadau cymdeithasol, amgylcheddol ac yn ymwneud â'r gweithle y bydd yr UE yn eu cyflwyno yn y dyfodol. Mae'n meithrin ansicrwydd ar gyfer dinasyddion, Ewropeaid sy'n byw yma a dinasyddion y DU sy'n byw yn Ewrop. Ac o'i ystyried gyda'r cynigion cwbl gyfeiliornus yn y Papur Gwyn ar fewnfudo, mae'n bendant yn llesteirio gallu cyflogwyr i recriwtio gweithwyr yn y meysydd hynny lle mae prinder, a hynny yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat. O ganlyniad i'r diffyg cydlyniad hwn, mae Llywodraeth y DU wedi gorfod derbyn yr ôl-stop astrus ar gyfer Gogledd Iwerddon. Mae dadansoddiad Llywodraeth y DU ei hun, a rhai sefydliadau annibynnol, gan gynnwys y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol ac Ysgol Economeg Llundain, yn dangos y bydd dull gweithredu Llywodraeth y DU yn niweidio'r economi. Ni phleidleisiodd neb yn y refferendwm dros fod yn dlotach.

Nawr, os ydym ni'n beirniadu safbwynt Llywodraeth y DU, mae'n gwbl resymol i ofyn beth ydym ni'n ei gynnig yn lle hynny. Yn hynny o beth, fe allwn ni fod yn glir iawn. Bron yn union ddwy flynedd yn ôl, fe wnaethom ni, ar y cyd â Phlaid Cymru, gyhoeddi ein cynigion yn ein Papur Gwyn 'Diogelu Dyfodol Cymru'. Ac fe wnaf i, os caf i, ategu'r sylwadau a wnaeth y Prif Weinidog yn y teyrngedau yn gynharach i Steffan Lewis, yn arbennig ei swyddogaeth annatod wrth ddatblygu'r cynigion ar y cyd hynny. Ond os oedd Llywodraeth Cymru yn gallu cyhoeddi safbwynt cynhwysfawr, strategol ar gyfer gadael yr UE ddwy flynedd yn ôl, pam na allai Llywodraeth y DU wneud yr un peth? Bu'n rhaid inni aros tan haf 2018 cyn inni gael unrhyw awgrym difrifol o safbwynt y DU mewn gwirionedd. Roedd 'Diogelu Dyfodol Cymru' yn ymdrechu hefyd i ymestyn y tu hwnt i gyfyngiadau un blaid i geisio consensws ehangach, rhywbeth y mae Prif Weinidog y DU wedi gwrthod ei wneud wrth lunio ei safbwynt ei hun.

Rydym ni'n credu y caiff buddiannau hanfodol Cymru eu diogelu orau drwy sicrhau bod yr holl economi yn elwa ar y farchnad sengl, gan gynnwys gwasanaethau. Dyna ddymuniad byd busnes a dyna beth sydd ei angen ar fuddsoddwyr. Fe ddylem ni aros mewn undeb tollau, sy'n hanfodol er mwyn osgoi mwy o rwystrau ar y ffin ac sy'n fodd o fasnachu'n rhydd gyda chynifer o wledydd. Dylem gadw amddiffyniadau cymdeithasol a hawliau cydfuddiannol i ddinasyddion y DU a'r UE sy'n byw yng ngwledydd ei gilydd, a pharhau i gydymffurfio â safonau amgylcheddol a hawliau cymdeithasol a llafur wrth iddyn nhw ddatblygu ar draws ein cyfandir. Dylai tegwch o ran symudiad fod â chysylltiad clir rhwng ymfudo o'r UE a chyfleoedd gwaith a dylid ychwanegu mesurau llym i atal camfanteisio ar weithwyr. Os dilynwn y mesurau hyn, fel yr amlinellwyd yn ein Papur Gwyn, fe fydd yr angen am drefniant ôl-stop ar gyfer Gogledd Iwerddon yn diflanu, ac mae uniondeb y DU, sydd wedi'i gymryd yn ganiataol yn sefyllfa negodi Llywodraeth y DU, yn cael ei amddiffyn.

Llywydd, nid oes gennyf y syniad lleiaf pa un a oes gan Brif Weinidog y DU gynllun wrth gefn. Er budd cenedlaethol, rwy'n gobeithio bod ganddi un—mae'n hanfodol. Rydym ni'n ei hannog yn awr i ymrwymo i fynd ati mewn ffordd newydd, yn seiliedig ar weithio gyda'r gweinyddiaethau datganoledig, ac ar sail drawsbleidiol, ac, ar yr un pryd, i ofyn i'r Undeb Ewropeaidd am estyniad i ddyddiad terfynol erthygl 50, sef 29 Mawrth. Mae'r wlad hon mewn cythrwfl dwfn, ac nid yw hi'n iawn fod penderfyniadau pwysig sylfaenol am ein dyfodol ni i gyd yn cael eu gwneud o dan yr amgylchiadau hyn. Mae angen oedi'r cloc wrth i'r Senedd ailymgynull, wrth inni i gyd ailymgynull, a meddwl yn ofalus ynghylch y ffordd orau ymlaen ar gyfer ein gwlad.

Ac rwy'n dweud hyn gyda phob parch i bob arlliw o farn. Beth bynnag yw barn pobl ynglŷn â Brexit, ni all fod yn iawn i'r wlad os wnawn ni adael yr UE heb unrhyw fath o gytundeb, yn seiliedig ar ddyddiad ar hap ar ddiwedd mis Mawrth. Ni fyddai hynny'n ddewis cyntaf i neb bron, a byddai'n warth. Ond y gwir plaen amdani yw hyn: rydym ni'n wynebu gadael heb gytundeb ar 29 Mawrth, ac mae'n rhaid inni baratoi ar gyfer hynny. Fel yr amlinellodd Prif Weinidog Cymru yr wythnos diwethaf, mae'r rhan fwyaf o'r elfennau allweddol o ran paratoi ar gyfer Brexit 'dim cytundeb' yn nwylo Llywodraeth y DU. Er gwaethaf ein hanghytuno ynglŷn â pholisi, rydym ni wedi ymrwymo i weithio'n agos â nhw, a chyda'r gweinyddiaethau datganoledig eraill, a phartneriaid eraill, i baratoi.

Rydym ni wedi dweud yn gyson y byddai hi'n eithriadol o anodd lliniaru effeithiau 'dim cytundeb', ond mae gennym ni gyfrifoldeb i baratoi ar gyfer sefyllfa dywyll o'r fath. Rydym ni'n gweithio gyda sefydliadau eraill ledled Cymru i wneud popeth yn ein gallu i baratoi. Er mwyn hysbysu dinasyddion a sefydliadau, rydym ni wedi creu gwefan Paratoi Cymru, gan ddwyn ynghyd y cyngor a'r wybodaeth ddiweddaraf. Rydym ni'n rhagweld lansio'r wefan honno yn y dyddiau nesaf, gan ystyried sut bydd y sefyllfa gyfnewidiol iawn yma yn datblygu

Bydd Aelodau'n gwybod ein bod ni'n gweithio'n galed i wneud yn siŵr bod ein llyfr statud yn gyfredol. Mae gwaith mawr yn cael ei wneud, yma ac mewn cydweithrediad â Llywodraeth y DU, i sicrhau bod deddfwriaeth sy'n angenrheidiol i weithredu y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd ar waith cyn Mawrth 29. Mae'r gwaith hwnnw'n cael ei wneud mewn amgylchiadau eithriadol ac unigryw, ac rydym ni'n gobeithio y bydd cyd-Aelodau yma yn y Cynulliad Cenedlaethol yn gweithio ochr yn ochr â ni fel Llywodraeth. Rydym ni wedi gweithredu'r rhwydweithiau sefydledig ar gyfer rheoli argyfyngau sifil posibl yng Nghymru, ac rydym ni'n gysylltiedig â rhwydwaith argyfyngau ehangach y DU. Rydym ni hefyd yn gweithio gyda fforymau cydnerthedd lleol ledled Cymru. Mae GIG Cymru yn gweithio gyda'r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol i hwyluso eu paratoadau angenrheidiol. Caiff gwybodaeth ddefnyddiol i fusnesau ei chynnwys ar borth Brexit Busnes Cymru, ac fe gaiff rhagor o wybodaeth ei chynnwys pan fydd ar gael.

Llywydd, does dim osgoi realiti difrifol y sefyllfa anodd yr ydym ni'n ei hwynebu yn awr. Mae 'dim cytundeb' yn ganlyniad posib iawn, ac, yn Llywodraeth gyfrifol, mae'n rhaid inni wneud popeth a allwn ni i weithio gydag eraill i baratoi a lliniaru lle bo'n bosib. Ond nid dyma'r canlyniad yr ydym ni'n dymuno ei weld. Hyd yn oed nawr, rydym ni'n dal yn barod i weithio gyda Llywodraeth y DU, ac eraill, i sicrhau cytundeb synhwyrol gyda'r UE. Cawn wybod cyn bo hir sut y mae Llywodraeth y DU a'r Senedd yn bwriadu datrys y sefyllfa. Rydym ni eisoes wedi galw am ymestyn dyddiad terfyn erthygl 50.

Mae Llywodraeth y DU wedi peri dryswch i'w ffrindiau, tanseilio buddiannau ein gwlad, wedi achosi pryder i bobl Ewrop yn ein cymunedau ni, a gwaethygu rhaniadau dwfn ymhlith ei dinasyddion ei hun. Os na all Llywodraeth y DU gyflwyno cytundeb y mae cefnogaeth gref iddo, yna dylai sefyll o'r neilltu. Ni all yr anhrefn presennol barhau.