4. Datganiad gan y Darpar Gwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit: Cynigion presennol Llywodraeth y DU ar gyfer Ymadael â’r UE

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:28 pm ar 15 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 3:28, 15 Ionawr 2019

Diolch, Dirprwy Lywydd. Wrth inni eistedd yma, mae ein cydweithwyr yn Senedd y Deyrnas Unedig yn cyrraedd diwedd eu trafodaeth hirfaith am gynnig y Llywodraeth ar gyfer cytundeb i ymadael â’r Undeb Ewropeaidd. Mi fyddan nhw’n pleidleisio yn nes ymlaen ac mae'n debygol iawn y bydd cytundeb y Prif Weinidog yn cael ei drechu, yn drwm iawn, o bosib. Mae disgwyl inni ymadael â'r Undeb Ewropeaidd mewn 73 o ddiwrnodau, a does dim cytundeb yn ei le.

Rydyn ni wedi cael ein harwain at y dibyn gan Lywodraeth hollol ddi-glem sydd â mwy o ddiddordeb mewn ymdrechion byrbwyll i uno'i phlaid ei hun na budd y wlad. Mae'r sefyllfa'n un gwbl warthus. Does gan fewnforwyr ac allforwyr ddim sicrwydd o gwbl o ran sut bydd eu busnesau'n gweithredu mewn ychydig wythnosau. Mae cynnyrch amaethyddol yn wynebu tariffau andwyol, ac fe allai'r peryg o ddryswch yn ein porthladdoedd effeithio ar gyflenwadau o bob math, o rannau ceir i feddyginiaethau neu ffrwythau a llysiau ffres. Gallai hyn effeithio ar bob rhan o'n cymunedau ac mae'n bygwth y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Fe fydd yn gosod pwysau ychwanegol diangen ar ein gwasanaethau cyhoeddus.

Mae dinasyddion Ewropeaidd sydd eisoes yn byw ac yn gweithio yma yn ein cymuned yn teimlo'n ansicr ac yn fregus. Nid oes gan y rhai sydd wedi cael cynigion i lenwi swyddi gwag hanfodol bwysig, er enghraifft yn ein gwasanaeth iechyd neu ein prifysgolion, ar ôl 30 Mawrth, unrhyw syniad ar ba sail y byddant yn cael hawl i weithio yma. Mae buddsoddwyr sydd wedi bod yn edrych ar y Deyrnas Unedig fel y ganolfan orau ar gyfer cyflenwi’r farchnad Ewropeaidd nawr yn ein hosgoi. Mae peryg i swyddi. Yn wir, mae rhai eisoes yn cael eu colli. Mae twf economaidd yn dod i stop a does neb yn gwybod beth a ddigwyddiff nesaf. Dirprwy Lywydd, mae Llywodraeth y Derynas Unedig yn chwarae gyda dyfodol y wlad.

Cymerodd hi ddwy flynedd i lunio cynigion Chequers, sef cynnig cyntaf y Llywodraeth i bob pwrpas ar gynllun ar gyfer perthynas hirdymor, er y dylai hynny fod wedi bod yn ei le pan gafodd erthygl 50 ei danio. Collwyd amser hanfodol yn dadlau dros linellau coch a chwarae i'r gynulleidfa yn nghynadleddau'r blaid. Ac hyd yn oed, dros yr ychydig wythnosau diwethaf, wrth gamu yn ôl, collwyd amser yn pledio am sicrwydd. Digwyddodd hyn i gyd yn hytrach na datblygu strategaeth ymarferol ac adeiladu cynghreiriau o gefnogaeth, gan gynnwys gyda'r rhai a oedd, fel Llywodraeth Cymru a'r Cynulliad Cenedlaethol, yn annog perthynas ar ôl Brexit yn seiliedig ar barch i'r Undeb Ewropeaidd a buddiannau hanfodol y wlad hon.