Part of the debate – Senedd Cymru am 4:25 pm ar 15 Ionawr 2019.
Diolch yn fawr iawn i chi am y cwestiynau yna a'r cyfraniadau i'r ddadl. Dechreuodd Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid drwy gydnabod pa mor bwysig yw craffu, ac rwyf yn sicr yn cydnabod ac yn croesawu hynny. Aeth ymlaen wedyn i sôn am brofiad yr Alban. Felly, rwyf am achub ar y cyfle hwn i hysbysu'r Aelodau fy mod wedi cyfarfod â phenaethiaid trethi datganoledig Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi ac maen nhw wedi fy sicrhau eu bod wedi dysgu gwersi o'r profiad o ran datganoli treth incwm i'r Alban, ac mae hi'n mae'n gwbl hanfodol bod CThEM yn cydnabod fod yr amgylchiadau gwahanol sydd gennym yma yng Nghymru, fel y materion trawsffiniol hynny a gweithgarwch cydymffurfio yn arbennig.
Gellir deall bod nodi trethdalwyr Cymru mewn modd llawn a chywir yn gwbl allweddol, ac felly rydym ni wedi gofyn, ac wedi cael y sicrwydd hwnnw gan CThEM eu bod wedi dysgu'r gwersi hynny o'u profiad o ddatganoli treth incwm i'r Alban. Hefyd, yn fwy penodol, ar baramedrau sganio data awtomatig cychwynnol o systemau CThEM a oedd wrth wraidd y broblem o hepgor 420,000 o drethdalwyr yr Alban. Felly, rydym ni wedi cael y sgyrsiau hynny ac wedi cael sicrwydd na fydd y materion hyn yn berthnasol yng Nghymru, yn bennaf oherwydd bod ein system ni yn coladu'r wybodaeth honno am gyfeiriadau mewn modd gwahanol. Felly, yng Nghymru, byddwn yn gwneud hyn yn ôl cod post, tra eu bod wedi gweithredu ychydig yn wahanol yn yr Alban.
Yn amlwg, mae hyn yn bwysig ar gyfer rhagamcanu, yn yr un modd ag y mae cael gwybodaeth gywir a da, yn ehangach. Felly, bydd Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn parhau i gynhyrchu fersiwn cyhoeddus o'i chyfres data dadansoddol allweddol: yr arolwg o incwm personol. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda CThEM i sicrhau bod hyn yn cael ei gynhyrchu mewn modd amserol a defnyddiol, ynghyd â Llywodraeth yr Alban, Comisiwn Cyllidol yr Alban a'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol.
Bydd CThEM hefyd yn darparu adroddiadau misol ar rwymedigaethau treth incwm talu wrth ennill, drwy ei system gwybodaeth amser real. Ni fydd hyn yn darparu golwg gyflawn o gyfraddau Cymru ond fe fydd yn ddangosydd defnyddiol ac amserol o gasglu refeniw. Bydd hefyd yn cyhoeddi gwybodaeth alldro archwiliedig ar CTIC yn rhan o'i gyfrifon blynyddol ym mis Gorffennaf. Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn trafod â CThEM am lefel y manylion y bydd yn gallu eu darparu ochr yn ochr â'r ddogfen honno. Bydd yr holl drefniadau a'r cytundebau hyn ynglyn â data yn cael eu hamlinellu mewn cytundeb lefel gwasanaeth rhwng Llywodraeth Cymru a CThEM.
Cafwyd rhai cwestiynau ynglŷn â nodi trethdalwyr. Bydd nodi a chynnal gwybodaeth am y boblogaeth CTIC sy'n drethdalwyr yn cael ei ffurfioli, unwaith eto yn rhan o fesur perfformiad, o fewn y cytundeb lefel gwasanaeth ar y cyd sy'n cael ei ddatblygu gan ein gwahanol sefydliadau, a fydd yn sicr wedi ei sefydlu mewn da bryd ar gyfer yr adeg pan fydd y trethi yn dechrau cael eu casglu. Yn ein pwyllgor yr wythnos diwethaf, llwyddais i nodi rhai o'r ffyrdd y mae CThEM yn gweithio i wneud yn siŵr bod gwybodaeth am unigolion yn gywir ac yn cael ei chasglu mewn modd amserol drwy gydol y flwyddyn hefyd.
O ran nodi'r cyfraddau treth hynny ar gyfer gweddill tymor y Cynulliad, hoffwn gyfeirio Nick Ramsay at y sylwadau a wnaed gan y Prif Weinidog yn ystod cwestiynau i'r Prif Weinidog heddiw, pryd yr ailadroddodd unwaith eto ein hymrwymiad, a wnaed ym maniffesto Llafur Cymru, ynglŷn â pheidio â chodi lefelau treth incwm. Mae hefyd wedi bod yn glir iawn, pan oedd yn y swydd hon—drwy ei dystiolaeth, a roddwyd i'r pwyllgor—y byddai unrhyw benderfyniad i newid cyfraddau treth yn amlwg yn benderfyniad pwysig y dylid ei gymryd ar sail tystiolaeth a llawer iawn o feddwl.