– Senedd Cymru am 4:15 pm ar 15 Ionawr 2019.
Eitem 5 ar yr agenda y prynhawn yma yw dadl ar osod cyfraddau treth incwm Cymru ar gyfer 2019-20. Galwaf ar y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd i gynnig y cynnig, Rebecca Evans.
Cynnig NDM6915 Rebecca Evans
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag adran 116D o Ddeddf Cymru 2014, yn cytuno ar y penderfyniad ynghylch y cyfraddau Cymreig ar gyfer cyfraddau Cymreig y dreth incwm yn 2019-20 fel a ganlyn:
a) y gyfradd Gymreig a gynigir ar gyfer cyfradd sylfaenol y dreth incwm yw 10c;
b) y gyfradd Gymreig a gynigir ar gyfer cyfradd uwch y dreth incwm yw 10c; ac
c) y gyfradd Gymreig a gynigir ar gyfer cyfradd ychwanegol y dreth incwm yw 10c.
Diolch am y cyfle i agor y ddadl ar gyfraddau treth incwm Cymru, a fydd yn cael eu cyflwyno o 6 Ebrill 2019 ac a fydd yn berthnasol i bobl sy'n byw yng Nghymru ac sy'n talu treth incwm. Diffinnir talwyr treth incwm Cymru fel pobl sy'n byw yng Nghymru am y rhan fwyaf o'r flwyddyn, ni waeth ble y maen nhw'n gweithio. Mae Deddf Cymru 2014 yn rhoi esboniad manwl am yr amrywiaeth o sefyllfaoedd posibl, gan gynnwys ACau, ASau ac ASEau sy'n cynrychioli etholaethau yng Nghymru, a fydd hefyd yn talu cyfraddau treth incwm Cymru, ni waeth ble y maen nhw'n byw.
Er y bydd treth incwm yn cael ei datganoli'n rhannol i Gymru o fis Ebrill ymlaen, bydd yn parhau i fod yn dreth y DU. Bydd Cyllid a Thollau ei Mawrhydi yn parhau i weinyddu treth incwm yng Nghymru a bydd Llywodraeth y DU yn parhau i gadw cyfrifoldeb llawn am incwm o gynilion a difidendau. Bydd cyfraddau treth incwm Cymru yn berthnasol i incwm o gyflogaeth neu hunangyflogaeth, buddiannau trethadwy a phensiynau. Mae fy swyddogion yn parhau i weithio gyda CThEM ar y trefniadau manwl ar gyfer gweinyddu cyfraddau treth incwm Cymru i wneud yn siŵr y ceir pontio llyfn a threfnus i'r trefniadau newydd.
Cyhoeddwyd y cyfraddau am y tro cyntaf yn y gyllideb ddrafft amlinellol ar 2 Hydref. Nid wyf yn bwriadu codi lefelau treth incwm yn 2019-20. Mae hyn yn golygu y bydd trethdalwyr Cymru yn parhau i dalu yr un treth incwm â'u cymheiriaid yn Lloegr a Gogledd Iwerddon. Bydd hyn yn rhoi sefydlogrwydd i drethdalwyr mewn cyfnod o ansicrwydd economaidd a chyni parhaus. Ar y cyd â'r grant bloc, bydd trethi Cymru yn ariannu'r gwasanaethau cyhoeddus hanfodol y mae llawer yn y gymdeithas yn dibynnu arnynt. O Ebrill 2019, bydd oddeutu £2 biliwn o gyllideb Cymru yn dod o dderbyniadau treth incwm Cymru. Dylai hyn newid natur ein dadleuon am refeniw a chyllidebau yn y dyfodol, a bydd yn gwneud hynny, ac edrychaf ymlaen at y trafodaethau hyn.
Gofynnir i'r Cynulliad heddiw gytuno ar benderfyniad cyfradd Cymru a fydd yn gosod cyfraddau treth incwm Cymru ar gyfer 2019-20, a gofynnaf i'r Aelodau am eu cefnogaeth y prynhawn yma.
Diolch. A gaf i alw ar Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, Llyr Gruffydd?
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Wel, mae heddiw, wrth gwrs, yn ddiwrnod hanesyddol, achos mi fyddwn ni yn pleidleisio i benderfynu ar y cyfraddau Cymreig ar gyfer treth incwm yng Nghymru, a hynny am y tro cyntaf, wrth gwrs, mewn canrifoedd lawer. Nawr, mae'r pwerau dan sylw yn ymestyn ar y pwerau trethiannol a gafodd eu datganoli yn Ebrill y flwyddyn diwethaf, ac mi ddylai'r pwerau hyn, fel rŷn ni wedi ei glywed, roi'r gallu i Lywodraeth Cymru wneud penderfyniadau pwysig eithriadol a chael tipyn mwy o ddylanwad ar anghenion Cymru a'i phobl. Felly, mae gofyn i ni graffu ar y penderfyniadau yma yn effeithiol. Mi fydd y cyfraddau Cymreig, fel dywedodd y Gweinidog, yn codi tua £2 biliwn, felly dyw craffu effeithiol erioed wedi bod yn bwysicach o safbwynt y sefydliad yma.
Felly, wrth i ni graffu ar y gyllideb ddrafft fel pwyllgor, fe wnaethon ni glywed am y problemau o ran rhagolygon yr Alban ar gyfer ei chyfradd treth incwm. Er ein bod ni yn cydnabod y mesurau diogelu sy'n cael eu rhoi i Gymru yn ei blwyddyn gyntaf o godi cyfraddau Cymreig mewn treth incwm, mae'r pwyllgor yn credu bod rhaid inni ddysgu o'r hyn a ddigwyddodd yn yr Alban. Fe gawson ni sicrwydd gan y cyn-Ysgrifennydd Cabinet ei fod e'n gweithio i ddysgu o'r profiadau rheini. Ond, fel pwyllgor, wrth gwrs, mae hyn yn rhywbeth y byddwn ni yn ei fonitro yn y dyfodol hefyd.
Mae'r gyllideb derfynol yn dangos gostyngiad o £40 miliwn yn rhagolygon y dreth incwm o ganlyniad i newidiadau i'r lwfans personol yng nghyllideb y Deyrnas Unedig. Mae’r mesurau diogelu a roddir i’r grant bloc eleni yn golygu, wrth gwrs, nad yw Llywodraeth Cymru yn wynebu’r gostyngiad hwn, ond mae’n rhaid inni fod yn ymwybodol o newidiadau o’r fath mewn blynyddoedd i ddod. Nawr, un o’r gwahaniaethau rhwng Cymru a’r Alban o ran y dreth incwm, wrth gwrs, yw natur ddeinamig y symud sy’n digwydd dros ffin Cymru a Lloegr, gyda thua 100,000 o bobl yn mudo un ffordd neu’r llall bob blwyddyn. Nawr, mi glywon ni gyfeiriadau at rai sylwadau a oedd gan Steffan Lewis i’w gwneud ar y mater yma yn y teyrngedau blaenorol, ac mae’n berffaith iawn, wrth gwrs, ond mae’r pwyllgor yn credu ei bod hi yn hanfodol ein bod ni’n monitro’n effeithiol faint o bobl Cymru sy’n talu’r dreth incwm yn ystod y flwyddyn. Mae'r pwyllgor yn cydnabod y contractiwyd Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi i sicrhau bod trethdalwyr yn cael eu hadnabod yn gywir, ond rŷn ni yn annog Llywodraeth Cymru i oruchwylio'n barhaus ac yn gadarn i sicrhau bod y system fflagio yn addas at ei diben nawr ac, wrth gwrs, dros y tymor hir, oherwydd nid rhywbeth dros dro yw hwn; bydd hon yn broses barhaol. Yn ôl y ffordd y bydd y system yn gweithredu, wrth gwrs, bydd unrhyw un nad yw'n cael ei adnabod i fod yn drethdalwr yng Nghymru neu'n drethdalwr yn yr Alban yn cael ei adnabod yn ddiofyn fel trethdalwr o Loegr neu Ogledd Iwerddon. Canlyniad hynny, wrth gwrs, fydd y bydd treth incwm y bobl hynny yn cael ei ddyrannu i San Steffan.
Dwi'n croesawu'r penderfyniad ynghylch y gyfradd yng Nghymru sydd ger ein bron heddiw, ac, fel Pwyllgor Cyllid, rŷn ni’n falch bod y cynnig hwn yn cael ei gysylltu â chynnig y gyllideb flynyddol, er mwyn, wrth gwrs, sicrhau atebolrwydd llawn wrth godi refeniw, ond gwneud hynny ochr yn ochr â gwneud cynlluniau gwario.
Mi ddechreuaf i sylwadau byr drwy gyfeirio at gomisiwn Holtham a chomisiwn Silk, ac un o’r egwyddorion pwysicaf sy’n cael eu hamlinellu ganddyn nhw, neu a oedd yn cael eu hamlinellu, oedd gwerth a phwysigrwydd cymryd cyfrifoldeb ariannol a phwysigrwydd atebolrwydd. Does yna ddim amheuaeth heddiw ein bod ni gam arall yn nes at yr atebolrwydd a’r cyfrifoldeb hwnnw drwy allu gosod ein cyfraddau treth incwm ein hunain. Dŷn ni ar y meinciau yma, ar y seddi yma, yn edrych ymlaen at weld sut y bydd y Llywodraeth bresennol yn defnyddio’r pwerau yma mewn blynyddoedd i ddod. Mi ydyn ni yn sicr yn edrych ymlaen at gyflwyno ein syniadau ein hunain a chyfrannu at y ddadl honno, a gweithredu mewn llywodraeth mewn blynyddoedd i ddod.
Mae hyn, fel sydd wedi cael ei grybwyll yn barod, yn foment hanesyddol i’n Senedd ni. Mi fydd pobl Cymru rŵan yn gallu gweld mewn termau real ar eu slip cyflog nhw bwysigrwydd y Senedd a Llywodraeth Cymru, a sut mae ein sefydliadau ni yn effeithio’n uniongyrchol ar fywydau pob dydd. Dŷn ni fel Senedd yn cryfhau a, thrwy hynny, rydyn ni fel cenedl yn cryfhau ac yn aeddfedu.
O ran y cyfraddau sy’n cael eu cynnig ger ein bron ni heddiw, dŷn ni’n tueddu i gefnogi’r cyfraddau sy’n cael eu nodi yn y cynnig yma gan mai nhw ydy’r rhai cyntaf i’r Llywodraeth eu gosod. Gosod sylfaen ydyn ni at y dyfodol, a dwi’n siŵr y gwelwn ni lawer o newidiadau yn y dyfodol wrth inni aeddfedu mwy a thyfu mewn hyder ynglŷn â sut i ddefnyddio’r pwerau trethiant er budd pobl Cymru. Achos, efo’r pwerau newydd yma, mae cyfrifoldeb mawr arnon ni i gyd, fel Aelodau ein Senedd genedlaethol ni, fel aelodau o’n pleidiau gwleidyddol ein hunain, nid yn unig i barchu’r cyfrifoldebau yma ond i ymateb i’r ffaith ein bod ni’n cael y cyfrifoldebau yma a’u defnyddio nhw mewn ffordd gyfrifol, ond hefyd i’w defnyddio nhw mewn ffordd a fydd yn greadigol, mewn ffordd a fydd yn datblygu dull Cymreig o osod trethi—ffordd Gymreig a fydd nid yn unig yn ymateb i broblemau sylfaenol yng nghymdeithas Cymru, ond hefyd, dwi’n gobeithio, yn ein galluogi i fod yn flaengar yn ein syniadau ac yn uchelgeisiol wrth inni greu system dreth a fydd yn decach i bobl Cymru na’r un sydd gennym ni ar hyn o bryd.
Mae hwn yn ddiwrnod hanesyddol i Gymru gyda'r cynnig hwn, am y tro cyntaf erioed, ger ein bron, i osod cyfraddau treth incwm. Os caf i ofyn dau gwestiwn cyflym i'r Gweinidog—bu bron i mi eich galw'n Ysgrifennydd y Cabinet am eiliad. Yn gyntaf oll, dywedasoch yn eich sylwadau agoriadol nad ydych chi'n credu y dylid bod unrhyw newidiadau i'r cyfraddau treth incwm o'i gymharu â Lloegr—credaf ichi ddweud hyd at 2020. A allwch chi gadarnhau bod hynny tan etholiad nesaf y Cynulliad, sef yr hyn rwy'n credu a ddywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet blaenorol? A, hefyd, a yw hynny'n parhau i fod yn berthnasol os y ceir amrywiadau dros y flwyddyn neu ddwy nesaf yng nghyfraddau treth incwm y DU—mewn geiriau eraill, y gyfradd sylfaenol, boed hynny at i fyny neu i lawr?
Yn ail ac yn olaf, ynglŷn a'r ffordd y cyflwynwyd hyn heddiw o ran y ddadl treth incwm yr ydym yn ei chael yn awr a'r ddadl ar y gyllideb yr ydym ar fin ei chael—ai felly y byddwch chi'n parhau i weithredu yn y dyfodol? Yn y gorffennol, gwn fod y Pwyllgor Cyllid wedi edrych yn ofalus ar y mater o Fil cyllid a sut y byddech chi'n cyflwyno unrhyw newidiadau posibl mewn cyfraddau treth o ran y gyllideb i bobl Cymru.
A gaf i alw nawr ar y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd i ymateb?
Diolch yn fawr iawn i chi am y cwestiynau yna a'r cyfraniadau i'r ddadl. Dechreuodd Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid drwy gydnabod pa mor bwysig yw craffu, ac rwyf yn sicr yn cydnabod ac yn croesawu hynny. Aeth ymlaen wedyn i sôn am brofiad yr Alban. Felly, rwyf am achub ar y cyfle hwn i hysbysu'r Aelodau fy mod wedi cyfarfod â phenaethiaid trethi datganoledig Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi ac maen nhw wedi fy sicrhau eu bod wedi dysgu gwersi o'r profiad o ran datganoli treth incwm i'r Alban, ac mae hi'n mae'n gwbl hanfodol bod CThEM yn cydnabod fod yr amgylchiadau gwahanol sydd gennym yma yng Nghymru, fel y materion trawsffiniol hynny a gweithgarwch cydymffurfio yn arbennig.
Gellir deall bod nodi trethdalwyr Cymru mewn modd llawn a chywir yn gwbl allweddol, ac felly rydym ni wedi gofyn, ac wedi cael y sicrwydd hwnnw gan CThEM eu bod wedi dysgu'r gwersi hynny o'u profiad o ddatganoli treth incwm i'r Alban. Hefyd, yn fwy penodol, ar baramedrau sganio data awtomatig cychwynnol o systemau CThEM a oedd wrth wraidd y broblem o hepgor 420,000 o drethdalwyr yr Alban. Felly, rydym ni wedi cael y sgyrsiau hynny ac wedi cael sicrwydd na fydd y materion hyn yn berthnasol yng Nghymru, yn bennaf oherwydd bod ein system ni yn coladu'r wybodaeth honno am gyfeiriadau mewn modd gwahanol. Felly, yng Nghymru, byddwn yn gwneud hyn yn ôl cod post, tra eu bod wedi gweithredu ychydig yn wahanol yn yr Alban.
Yn amlwg, mae hyn yn bwysig ar gyfer rhagamcanu, yn yr un modd ag y mae cael gwybodaeth gywir a da, yn ehangach. Felly, bydd Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn parhau i gynhyrchu fersiwn cyhoeddus o'i chyfres data dadansoddol allweddol: yr arolwg o incwm personol. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda CThEM i sicrhau bod hyn yn cael ei gynhyrchu mewn modd amserol a defnyddiol, ynghyd â Llywodraeth yr Alban, Comisiwn Cyllidol yr Alban a'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol.
Bydd CThEM hefyd yn darparu adroddiadau misol ar rwymedigaethau treth incwm talu wrth ennill, drwy ei system gwybodaeth amser real. Ni fydd hyn yn darparu golwg gyflawn o gyfraddau Cymru ond fe fydd yn ddangosydd defnyddiol ac amserol o gasglu refeniw. Bydd hefyd yn cyhoeddi gwybodaeth alldro archwiliedig ar CTIC yn rhan o'i gyfrifon blynyddol ym mis Gorffennaf. Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn trafod â CThEM am lefel y manylion y bydd yn gallu eu darparu ochr yn ochr â'r ddogfen honno. Bydd yr holl drefniadau a'r cytundebau hyn ynglyn â data yn cael eu hamlinellu mewn cytundeb lefel gwasanaeth rhwng Llywodraeth Cymru a CThEM.
Cafwyd rhai cwestiynau ynglŷn â nodi trethdalwyr. Bydd nodi a chynnal gwybodaeth am y boblogaeth CTIC sy'n drethdalwyr yn cael ei ffurfioli, unwaith eto yn rhan o fesur perfformiad, o fewn y cytundeb lefel gwasanaeth ar y cyd sy'n cael ei ddatblygu gan ein gwahanol sefydliadau, a fydd yn sicr wedi ei sefydlu mewn da bryd ar gyfer yr adeg pan fydd y trethi yn dechrau cael eu casglu. Yn ein pwyllgor yr wythnos diwethaf, llwyddais i nodi rhai o'r ffyrdd y mae CThEM yn gweithio i wneud yn siŵr bod gwybodaeth am unigolion yn gywir ac yn cael ei chasglu mewn modd amserol drwy gydol y flwyddyn hefyd.
O ran nodi'r cyfraddau treth hynny ar gyfer gweddill tymor y Cynulliad, hoffwn gyfeirio Nick Ramsay at y sylwadau a wnaed gan y Prif Weinidog yn ystod cwestiynau i'r Prif Weinidog heddiw, pryd yr ailadroddodd unwaith eto ein hymrwymiad, a wnaed ym maniffesto Llafur Cymru, ynglŷn â pheidio â chodi lefelau treth incwm. Mae hefyd wedi bod yn glir iawn, pan oedd yn y swydd hon—drwy ei dystiolaeth, a roddwyd i'r pwyllgor—y byddai unrhyw benderfyniad i newid cyfraddau treth yn amlwg yn benderfyniad pwysig y dylid ei gymryd ar sail tystiolaeth a llawer iawn o feddwl.
Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.