Part of the debate – Senedd Cymru am 4:38 pm ar 15 Ionawr 2019.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Dwi'n falch iawn o gael siarad yn y ddadl yma ar y gyllideb derfynol heddiw, sydd wedi newid, wrth gwrs, ers y gyllideb ddrafft wnaethon ni graffu arni fel pwyllgor yn yr hydref. Mae'r gyllideb derfynol yn dangos yr arian canlyniadol a ddaeth o gyllideb y Deyrnas Unedig, wrth gwrs, yn nhymor yr hydref y llynedd. Mae hefyd yn dangos gostyngiad o £40 miliwn yn rhagolygon y dreth incwm, gostyngiad o £2 filiwn yn y dreth trafodiadau tir, a diwygio targed refeniw o'r dreth tirlenwi i fod £3 miliwn yn fwy.
Fe wnaethon ni groesawu'r sylwadau cynnar a wnaed gan yr Ysgrifennydd Cabinet blaenorol yn ystod ein gwaith craffu ar y gyllideb ddrafft, wrth iddo fe ddweud y byddai llywodraeth leol yn flaenoriaeth pe byddai rhagor o arian canlyniadol yn dod o gyllideb Llywodraeth y Deyrnas Unedig, ac mae'n dda gen i weld bod dyraniadau o fewn y gyllideb derfynol o ganlyniad i'r ymrwymiad hwnnw.
Wrth gwrs, mae pwerau'r lle yma yn y cyd-destun yma yn dal i esblygu, yn dal i ddatblygu, ac mi fydd y pwyllgor hefyd yn parhau i ddatblygu ein dull ni o graffu ar bwerau trethu newydd yn y dyfodol. Ac mi fyddwn ni hefyd yn adolygu pa opsiynau sydd yna o ran prosesau'r gyllideb sydd ar gael i'r Cynulliad mewn blynyddoedd i ddod.
Mae yna nifer o ddyraniadau a wneir yn y gyllideb derfynol hon fydd heb fod yn destun gwaith craffu hefyd, wrth gwrs. Mae'r Pwyllgor Cyllid wedi codi'r mater yma gyda'r Ysgrifennydd Cabinet blaenorol. Pan wneir penderfyniadau ariannol yn ystod y flwyddyn, mae'n rhaid sicrhau bod digon o wybodaeth ariannol ar gael. Byddwn yn annog y Gweinidog cyllid newydd i ystyried hyn yn y dyfodol, a dwi hefyd yn annog fy nghyd-aelodau o'r pwyllgor ac eraill sydd yma'n bresennol heddiw i sicrhau eu bod yn ystyried unrhyw newidiadau a wneir mewn dyraniadau mewn sesiynau craffu yn y dyfodol. Nid dim ond wrth graffu'n ffurfiol ar gyllideb yr hydref y mae angen cynnal gwaith craffu ariannol, wrth gwrs.
Yn olaf, dwi hefyd yn falch o fod wedi derbyn ymateb y Llywodraeth i adroddiad y pwyllgor ar y gyllideb ddrafft. Yn anffodus, ddaeth e ddim tan y bore yma, ac, o ganlyniad, dydw i ddim wedi cael cyfle i ystyried y cynnwys. Dwi hefyd yn deall fod y pwyllgorau polisi hefyd ond wedi derbyn eu hymatebion nhw y bore yma, a thra fy mod i'n llawn gwerthfawrogi cymaint o waith yw hi i'r Llywodraeth i symud o gyllideb ddrafft i gyllideb derfynol, dyw hi ddim yn dderbyniol bod yr ymatebion wedi dod mor hwyr yn y dydd.
Fel pwyllgor, mi fyddwn ni yn ystyried ac yn edrych yn ôl ar y broses o graffu ar y gyllideb yn ein cyfarfod ni'r wythnos nesaf, ac mi fydda i hefyd yn gobeithio trafod gyda'r Gweinidog cyllid newydd sut y gallwn ni osgoi sefyllfa o'r fath yn y dyfodol.