7. Dadl: Setliad Llywodraeth Leol 2019-20

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:47 pm ar 15 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Caroline Jones Caroline Jones UKIP 5:47, 15 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Rydym ni'n prysur agosáu at argyfwng mewn gwasanaethau cyhoeddus. Mae cyllidebau awdurdodau lleol wedi'u cwtogi i'r eithaf yn y blynyddoedd diwethaf, ac ni fydd setliad cyllid llywodraeth leol eleni yn gwneud dim i leddfu'r pwysau ar wasanaethau cyhoeddus lleol. Ar ôl setliad y flwyddyn hon, mae awdurdodau lleol Cymru yn cynllunio toriadau enfawr i wasanaethau cyhoeddus lleol ac i ddiswyddo athrawon, gweithwyr cymdeithasol, peirianwyr priffyrdd, casglwyr sbwriel a llu o weithwyr y cyngor. Yn fy rhanbarth i, mae cyngor Abertawe yn cynllunio torri 145 o swyddi addysgu a 127 o swyddi gwasanaethau cymdeithasol. Mae cyngor Castell-nedd Port Talbot yn cynnig cau llyfrgelloedd a dod â thrafnidiaeth am ddim i ben i fyfyrwyr ôl-16 sydd ag anghenion addysgol arbennig ac oedolion sy'n cael gofal seibiant, yn ogystal â diswyddo staff y cyngor a rhoi'r gorau i gynlluniau ar gyfer ysgolion newydd. Mae cyngor Pen-y-bont ar Ogwr eisoes wedi cau toiledau cyhoeddus ac yn cynnig torri cymorthdaliadau i lwybr bysiau, cau canolfannau dydd, canolfannau gofal a gwasanaethau ar gyfer yr henoed, yn ogystal â diswyddo staff y cyngor.

Mae hyn yn digwydd mewn neuaddau dinas a thref ledled Cymru—gwasanaethau'n cael eu cwtogi i'r eithaf, athrawon yn cael eu diswyddo, gofal dydd yn cael ei ddiddymu. Ac eto, gofynnir i bobl dalu mwy—talu mwy am lai, llawer llai. Bydd biliau'r dreth gyngor fydd yn disgyn trwy flychau llythyrau'r wlad yn ystod yr wythnosau nesaf yn cynnwys cynnydd o ryw 5 y cant neu fwy—llawer is na chyflogau pobl—ond eto ni fydd gan y cyhoedd unrhyw ddewis ond rhoi mwy o'u harian haeddiannol am wasanaethau sy'n lleihau'n dragywydd.

Felly sut ddaethom ni i'r sefyllfa yma? Mae swyddogion llywodraeth leol yn rhoi'r bai ar Lywodraeth Cymru, ac mae Llywodraeth Cymru yn rhoi'r bai ar Lywodraeth y DU, ond mewn gwirionedd maen nhw i gyd ar fai. Blynyddoedd o wastraffu a bwrw'r bai sydd wedi arwain at yr argyfwng heddiw. Mae degawdau o wario afradlon, gwastraffus a system dreth annheg ar lefel y DU wedi arwain at yr angen am gyni. Mae'r modd y mae Llywodraeth Cymru wedi camreoli llywodraeth leol wedi arwain at ddyblygu a gwastraff; pam fod angen 22 o awdurdodau lleol ar wahân arnom ni? Nid oes eu hangen arnom ni. Ond mae Llywodraeth Cymru, wrth gydnabod y ffaith hon, wedi methu â gwneud unrhyw beth am hynny. O ganlyniad, mae rhy ychydig o adnoddau yn gorfod talu am lawer mwy nag y mae angen iddynt, ac mae'r modd o ddyrannu'r adnoddau hyn wedi'i gamreoli gan Lywodraethau Cymru olynol, ac mae'r adroddiad cyllid llywodraeth leol hwn yn seiliedig ar fformiwla ddiffygiol, sy'n arwain at wahaniaeth mawr yn y cyllid. Pam fod gwario fesul pen mor wahanol ledled Cymru? Mae pobl yn Abertawe, bob un ohonyn nhw'n cael £247 yn llai wedi'i wario ar eu gwasanaethau na'r rhai hynny yn sir Ddinbych. Pam fod Pen-y-bont ar Ogwr yn cael mwy na £130 y pen yn llai nag awdurdodau cyfagos? A pham fod ail ddinas Cymru yn cael bron i £160 y pen yn llai na thrydedd ddinas Cymru?

Ac o ran sut y caiff yr arian ei wario, mae gwahaniaeth enfawr rhwng cynghorau Cymru. Mae rhai pobl yn cael eu biniau wedi'u casglu bob wythnos neu ddwy; gall pobl eraill ddisgwyl casgliad misol. Mae biliau cyfartalog y dreth gyngor yng Nghaerffili dros £700 yn llai nag yn sir Fynwy. A pham fod awdurdodau lleol wedi'u caniatáu i gronni cymaint o gronfeydd wrth gefn? Mae gan rai cynghorau dros £100 miliwn mewn cronfeydd wrth gefn, wrth iddyn nhw gynllunio i gwtogi gwasanaethau, diswyddo athrawon a swyddogion priffyrdd a gweithwyr cymdeithasol.

Digon yw digon. Mae angen diwygio llywodraeth leol a'i chyllid drwyddi draw. Mae bywydau pobl yn cael eu dinistrio er mwyn i ni chwarae gwleidyddiaeth plaid, er mwyn i bobl aros mewn grym. Wel, dim mwy nawr. Mae'n amser rhoi trefn ar bethau, ac mae'n amser i Lywodraeth Cymru gyflawni ei chyfrifoldebau.