Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 16 Ionawr 2019.
Ysgrifennydd y Cabinet, fe fyddwch yn ymwybodol fod cymunedau yn Islwyn yn rhan o bartneriaeth twf economaidd prifddinas-ranbarth Caerdydd. Yn eu cyfarfod bwrdd fis Tachwedd diwethaf, nododd yr aelodau a oedd yn bresennol eu cefnogaeth i adeiladu ffordd liniaru'r M4 o amgylch Casnewydd. Dywedasant fod ffordd liniaru'r M4 yn hanfodol i gefnogi a galluogi'r strategaeth twf economaidd a diwydiannol ar gyfer de-ddwyrain Cymru. A all y Dirprwy Weinidog roi gwybod pa bryd y bydd Llywodraeth Cymru mewn sefyllfa i ddwyn y mater gerbron y Cynulliad hwn, a rhoi diwedd ar yr ansicrwydd sy'n niweidio rhagolygon economaidd fy rhanbarth?