Mercher, 16 Ionawr 2019
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Yr eitem gyntaf y prynhawn yma yw'r cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Llyr Gruffydd.
1. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i hybu economi trefi gwledig? OAQ53189
2. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi polisi datblygu economaidd rhanbarthol i gynorthwyo cymunedau yn Islwyn? OAQ53203
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Russell George.
3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am rôl dinasoedd o fewn datblygu economaidd yng Nghymru? OAQ53172
4. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael ag awdurdodau lleol ynghylch gwella gwasanaethau bysiau lleol i gwm Afan? OAQ53201
5. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu datblygu perthynas â chwmnïau mawr sydd wedi'u lleoli yng Nghymru? OAQ53199
6. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn anelu i wella'r seilwaith trafnidiaeth yng Ngogledd Cymru? OAQ53164
Y cwestiynau nesaf felly yw'r rhai i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweindiog Brexit. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Llyr Gruffydd.
1. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith unrhyw fath o Brexit ar economi gogledd-ddwyrain Cymru? OAQ53198
2. Pa drafodaethau y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi’u cael gyda Llywodraeth Iwerddon ynglŷn â Brexit? OAQ53208
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Adam Price.
3. Pa gyfleoedd y mae Llywodraeth Cymru wedi'u nodi ar gyfer Cymru o ganlyniad i ymadawiad y DU o'r UE? OAQ53210
4. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip ynghylch sut y bydd Llywodraeth Cymru yn diogelu menywod a lleiafrifoedd rhag troseddau casineb...
5. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael â Llywodraeth y DU ynghylch cynnal y gallu i drosglwyddo cymwysterau proffesiynol ar gyfer staff sy'n gweithio yn y gwasanaeth...
6. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael â Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ynghylch paratoi busnesau yng Nghymru wrth baratoi ar gyfer gadael yr Undeb Ewropeaidd? OAQ53187
Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau amserol. Mae'r cwestiwn cyntaf i'w ofyn i'r Prif Weinidog, a'r cwestiwn gan Mick Antoniw.
1. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o'r effaith a gaiff pleidlais Senedd y DU ar gytundeb Brexit Llywodraeth y DU ar 15 Ionawr 2019 ar Gymru? 256
2. Pa drafodaethau mae'r Gweinidog wedi eu cael ynglŷn â dyfodol Wylfa Newydd? 259
Eitem 4 ar ein hagenda felly yw'r datganiadau 90 eiliad. Ac mae gennym un gan Vikki Howells.
A gaf fi alw ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynigion yn ffurfiol? Darren.
Mae gennym gynnig o dan Reol Sefydlog 17.3 i ethol Aelod i bwyllgor. Felly, galwaf eto ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig.
Eitem 5 ar ein hagenda y prynhawn yma yw'r cynnig cydsyniad offeryn statudol: Rheoliadau'r Amgylchedd Morol (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2018. Galwaf ar Suzy Davies i wneud y cynnig.
Symudwn ymlaen yn awr at eitem 6, sef dadl ar egwyddorion cyffredinol y Bil Awtistiaeth (Cymru). Cyn imi alw ar yr Aelod sy'n gyfrifol i wneud y cynnig, a gaf fi wneud apêl? Mae gennym...
Eitem 7 ar yr agenda yw dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, 'Diogelwch tân mewn adeiladau uchel iawn', a galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y...
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Gareth Bennett, a gwelliant 2 yn enw Darren Millar. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Daw hyn â ni at y cyfnod pleidleisio. Oni bai fod yna dri Aelod sydd eisiau i fi ganu'r gloch, dyma ni'n symud yn syth at y bleidlais gyntaf. Mae'r bleidlais hynny ar y ddadl ar egwyddorion...
Mae hynny'n golygu ein bod ni'n symud ymlaen at yr eitem nesaf, a'r ddadl fer yw honno. Os gall Aelodau adael y Siambr yn dawel, fe fyddwn ni'n symud ymlaen at y ddadl fer.
A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am yr hyn a ddaw ynlle cronfeydd strwythurol yr UE yn y Rhondda?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am welliannau i'r A55?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fuddsoddi mewn seilwaith digidol yng ngogledd-ddwyrain Cymru?
Senedd Cymru (Saesneg: Welsh Parliament) neu'r Senedd yw'r corff datganoledig sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i drafod polisïau ac sy'n cymeradwyo deddfwriaeth sy'n ymwneud â Chymru. Rhan o'i waith yw dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Rhwng mis Mai 1999 a mis Mai 2020, enw'r sefydliad oedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Saesneg: National Assembly for Wales). – Wicipedia