Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 16 Ionawr 2019.
Nid wyf yn hyderus hyd yma fod y canllawiau'n cael eu dilyn yn llawn gan bawb, a bydd graddau ymrwymiad awdurdodau lleol i gynnal eu cyllidebau eu hunain ar gyfer cymorthdaliadau bysiau wedi'u hadlewyrchu fwyfwy yn fy mhenderfyniadau ynglŷn â dyfarniad grant cynnal gwasanaethau bysiau pob awdurdod, a'r rheswm am hynny yw fy mod eisiau gwneud yn siŵr ein bod yn defnyddio arian trethdalwyr sy'n dod i Lywodraeth Cymru er mwyn ysgogi gwasanaethau gwell yn ein cymunedau, ac ni fyddwn ond yn gwneud hynny o fewn y trefniadau presennol ar sail fyrdymor, drwy sicrhau bod awdurdodau lleol yn cyfrannu at gyllid y grant cynnal gwasanaethau bysiau. Yn fwy hirdymor, wrth gwrs, drwy'r diwygiadau, wrth inni ddefnyddio mwy o'r adnoddau sydd ar gael ar hyn o bryd, ond wrth inni ddatblygu mwy o adnoddau ac ysgogiadau, credaf y byddwn yn gallu gweithredu gwasanaeth ledled Cymru sydd nid yn unig yn fwy effeithiol ar gyfer ateb anghenion teithwyr, ond sydd hefyd yn fwy cynaliadwy o ran costau.