Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 16 Ionawr 2019.
Diolch yn fawr. Yn 2016, roedd allforion siroedd Fflint a Wrecsam yn gyfwerth â £5 biliwn ac roedd 87 y cant o'r rheini yn cael eu hallforio i'r Undeb Ewropeaidd. Nawr, ydych chi'n cytuno mai'r ffordd orau o gynnal y lefel yna o allforion a'r holl swyddi a'r manteision economaidd sy'n dod gyda hynny yw aros yn yr Undeb Ewropeaidd? Ac os ŷch chi, beth mae eich Llywodraeth chi'n gwneud i sicrhau bod hynny’n digwydd?