Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit – Senedd Cymru am 2:32 pm ar 16 Ionawr 2019.
Diolch, Lywydd.
Bydd fy mhlaid yn cefnogi'r bleidlais o ddiffyg hyder heno yn San Steffan. Yn wir, rydym wedi llofnodi'r cynnig y pleidleisir arno ymhen ychydig oriau. Ond credaf y derbynnir yn gyffredinol nad yw'r cynnig yn debygol o lwyddo. O gofio cefnogaeth ddatganedig eich Llywodraeth naill ai i etholiad cyffredinol neu bleidlais gyhoeddus fel ffordd o ddatrys y dagfa seneddol, os bydd y bleidlais, yn ôl y disgwyl, yn methu heno, a yw'r Llywodraeth wedyn yn bwriadu gwneud datganiad yfory, neu yn y dyddiau nesaf, i gefnogi pleidlais gyhoeddus fel yr unig ddull sydd ar ôl o roi diwedd ar y cyfyngder gwleidyddol?