Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit – Senedd Cymru am 2:38 pm ar 16 Ionawr 2019.
Mae'r amserlen ar gyfer deall beth yw'r cytundebau amgen posibl yn dal i fod yn aneglur ar hyn o bryd. Rwyf wedi dweud—ddwywaith bellach, rwy'n credu, mewn ymateb i gwestiynau'r Aelod—y gallai pleidlais gyhoeddus, yn rhoi'r gair olaf ar hyn i'r cyhoedd, fod yn ffordd o ddatrys hyn. Buaswn yn cefnogi hynny fel gair olaf. Ond ar ôl galw am gynnal y trafodaethau hyn, a bod Prif Weinidog y DU wedi ymateb i'r her, rhaid inni yn gyntaf ganiatáu i'r drafodaeth honno ddatblygu, ac rydym yn glir ynglŷn â'r math o gytundeb y credwn y dylai ddeillio o hynny. Os yw hi'n dweud fod ganddi rai llinellau coch o hyd, mae hi wedi cael ei hannog, yn sicr, gan y gwleidyddion blaenllaw yn ei phlaid i beidio â glynu wrth strategaeth sydd wedi bod yn fethiant iddi ers dwy flynedd.