Economi Gogledd-ddwyrain Cymru

Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 16 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:25, 16 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch ichi am y cwestiwn hwnnw. Roeddwn yn ymwybodol o'r digwyddiad ddydd Gwener 11 Ionawr, a fynychwyd gan y Prif Weinidog, a Gweinidog yr economi, a sylwais ei bod yn drafodaeth ddiddorol iawn ac yn gyfle da i glywed o lygad y ffynnon y math o bryderon y mae cyflogwyr mawr a bach yn eu teimlo yng ngogledd-ddwyrain Cymru. Gwn am y gwaith y mae'r Aelod yn ei wneud yn ei etholaeth ei hun o ran deall y pryderon sydd gan fusnesau lleol mewn perthynas â Brexit, a buaswn yn hapus iawn i gyfarfod ag ef i drafod hynny ymhellach.