Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit – Senedd Cymru am 3:05 pm ar 16 Ionawr 2019.
Yn hollol. Un o'r elfennau ar gyfer y gwaith paratoi oedd nodi meysydd lle y gallai nodweddion Cymru—yn y cyd-destun hwn, y nodweddion economaidd—fod ychydig yn wahanol i rannau eraill o'r DU, ac felly maent angen dull penodol o weithredu, ac yn amlwg, mae cael sector busnes sy'n cynnwys sector busnesau bach a chanolig mor fawr yn un o'r agweddau hynny.
Yn ogystal â gweithio gyda phartneriaid eraill, ceir ymgyrch farchnata Busnes Cymru sy'n canolbwyntio ar Brexit a lansiwyd i godi ymwybyddiaeth o'r union fath o bethau y mae ef yn eu nodi, a gofyn i fusnesau gynllunio, addasu ac arloesi yn eu hymateb i Brexit. Ac mae hynny'n cynnwys galwad uniongyrchol i weithredu i ofyn i gwmnïau a busnesau gwblhau'r hunanasesiad Brexit drwy'r offeryn diagnostig ar y porth.