Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 16 Ionawr 2019.
Diolch, Lywydd. Yn hytrach na dal i ddadlau dros y gwahanol ffyrdd y gellir bradychu a gwrthdroi canlyniad y refferendwm Brexit, onid yw hi bellach yn bryd meddwl yn ymarferol am y ffordd ymlaen a dychwelyd at y cynnig a wnaeth Donald Tusk i Theresa May beth amser yn ôl i ddechrau ar drafodaethau i sicrhau cytundeb masnach rydd tebyg i Canada, a fyddai â'r fantais o gyflawni canlyniad y refferendwm—pleidleisiodd pobl y Deyrnas Unedig a phobl Cymru yn ddigamsyniol dros adael ddwy flynedd a hanner yn ôl—a byddai hefyd yn hyrwyddo i'r eithaf y cyfleoedd i fasnachu gyda'r UE nad oes neb am eu haberthu ar y naill ochr na'r llall i'r Sianel?